Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 22 Mawrth 2023.
Bob dydd, rwy'n gofyn i mi fy hun a allaf fi barhau i wneud y swydd ddi-ddiolch hon. Ond bob dydd, rwy'n sylweddoli bod gennyf rywbeth i'w gynnig, sef fy mod i'n malio. Rwyf am ddarparu'r gwasanaeth iechyd a gofal gorau posibl i bobl Cymru. Rwyf eisiau i'n GIG yng Nghymru lwyddo. Lywydd, fy mraint fydd aros yn Weinidog iechyd cyhyd â bod gennyf gefnogaeth a hyder y Prif Weinidog. Mae'n ddyletswydd arnaf i gefnogi pobl Cymru, i gefnogi gweithlu'r GIG, ac fe wnaf fy ngorau glas i gyflawni'r ddyletswydd honno. Diolch.