Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 22 Mawrth 2023.
Dyma ni'n dod at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, fe fyddaf i yn symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Does yna neb yn gofyn am hynny, felly fe fydd y bleidlais gyntaf ar eitem 6 ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gweinidog iechyd. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.