Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 28 Mawrth 2023.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad yna? O bosib y peth mwyaf arwyddocaol ydy'r ffaith bod darn o waith ymchwil wedi cael ei gomisiynu gan y Gweinidog yn ddiweddar er mwyn trio dod i ddeall yn well beth ydy profiadau pobl o gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, a beth mae mynediad da yn ei olygu iddyn nhw. Mae'n wirioneddol yn bwysig, dwi'n meddwl, ein bod ni'n deall hyn, achos mor aml mae profiad claf fel mae'n cael ei adrodd i fi ac i lawer ohonom ni, dwi'n siŵr, fel Aelodau o'r Senedd yma, yn wahanol iawn i'r hyn sy'n cael ei ddweud wrthym ni yn swyddogol.
Er enghraifft, mi wnaiff etholwyr i fi ofyn yn aml, 'Pam nad ydy meddygon teulu yn gweld pobl wyneb yn wyneb?' Wel, wrth gwrs, mae meddygon teulu yn gweld pobl wyneb yn wyneb, ac yn wir mi wnaeth meddygon teulu barhau i weld pobl wyneb yn wyneb drwy gyfnod COVID. Ond mae yna'r canfyddiad yma ei bod hi'n anoddach i gael mynediad at apwyntiad wyneb yn wyneb erbyn hyn. Felly mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog am y gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn rhoi eglurder i bobl am y math o wasanaethau y gallan nhw eu disgwyl wyneb yn wyneb gan eu meddygfa, fel eu bod nhw'n gallu cael syniad realistig o beth yn union ydy'r safonau mae'r Llywodraeth yn eu disgwyl ar hyn o bryd.
Dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo'r hyn mae'r Llywodraeth yn trio ei wneud o ran siarad am ofal sylfaenol yn ei ddiffiniad mwyaf eang. Mae pobl yn dal i drafod 'mynd i weld y doctor', ond go iawn mynd i gael gwasanaeth iechyd mae angen i bobl ei wneud, a dyna pam ei bod hi mor bwysig bod pobl yn deall am y gwasanaethau sydd ar gael drwy fferyllfeydd ac yn y blaen. Mi fyddwn i'n hoffi clywed gan y Gweinidog am y math o fuddsoddiad mae'r Llywodraeth yn ei wneud neu'n ystyried ei wneud er mwyn mynd i'r afael â’r her addysgu yna sydd yn amlwg angen ei gwneud, oherwydd dim ond os ydy pobl yn deall y gwahanol ffyrdd y gallan nhw gael mynediad at wasanaethau iechyd y byddan nhw yn dechrau mynd i drio cael mynediad at wasanaethau mewn ffyrdd gwahanol a ffyrdd mwy cynaliadwy.
Un pryder arall sydd gen i, wrth droi at yr elfen ddeintyddol yn natganiad y Gweinidog, ydy bod y Llywodraeth, tra yn cyfaddef bod yna heriau, yn trio rhoi yr argraff bod gwasanaethau, ar y cyfan, yn dda mewn deintyddiaeth ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn teimlo, o siarad efo deintyddion a llawer o gleifion deintyddol chwaith, bod hynny yn adlewyrchiad realistig. Dwi yn wirioneddol gredu bod yna argyfwng mewn deintyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym ni wedi gallu cyffwrdd ar hynny yma yn Siambr y Senedd droeon dros yr wythnosau ac yn wir y blynyddoedd diwethaf. Dwi yn gofyn am dôn wahanol gan y Llywodraeth wrth drafod deintyddiaeth. Roedd y Prif Weinidog, unwaith eto, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, yn pwysleisio’r miliwn o bobl sydd wedi cael mynediad at ofal deintyddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Wrth gwrs bod yna ystadegau positif mae modd cyfeirio atyn nhw o hyd, ond oni bai ein bod ni'n sylweddoli ein bod ni mewn cyfnod o argyfwng, dwi'n ofni na fydd y brys yna yn ymateb y Llywodraeth i'r argyfwng.
Ac yn olaf, yn dilyn y cyfeiriad gan y Gweinidog at y cynghorau iechyd cymuned yn ei hateb i lefarydd y Ceidwadwyr, mae gen i un cwestiwn penodol ynglŷn â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. Rydym ni'n gwybod ein bod ni mewn cyfnod heriol tu hwnt o ran darpariaeth iechyd a gofal ar draws y gogledd, a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig. Mi fyddwn i yn dadlau ei bod hi’n fwy pwysig nag erioed bod gennym ni gyngor iechyd cymuned sydd wirioneddol yn deall y gymuned honno ac yn gallu ymateb yn gyflym, er enghraifft yn gwneud ymweliadau dirybudd ac ati. Felly, onid oes yna ddadl gref dros alluogi cyngor iechyd cymuned y gogledd i barhau am y tro tra’n bod ni yn dal yn wynebu'r heriau yma efo Betsi Cadwaladr?