4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mynediad at Wasanaethau Gofal Sylfaenol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 28 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:57, 28 Mawrth 2023

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ystyried beth mae access yn ei olygu i bobl, beth yw eu profiad uniongyrchol nhw, felly diolch am gydnabod bod y gwaith ymchwil yna yn mynd ymlaen. Dwi'n meddwl bod rhaid inni efallai helpu pobl i ddeall bod beth sydd wedi digwydd yn hanesyddol o ran cael access at GP ddim o reidrwydd y ffordd bydd pethau’n gweithio yn y dyfodol, yn rhannol achos dyw hi ddim yn ddefnydd da o’n GPs ni. Dyna pam mae'n rhaid inni eu harallgyfeirio nhw at bobl sydd, efallai, yn mynd i'w trin nhw gyda mwy o arbenigedd mewn un maes sydd yn fwy priodol iddyn nhw. Mae hynny yn newid, a dwi'n deall bod e’n newid sydd yn anodd i rai pobl, ond dwi yn meddwl mai dyna’r newid sydd angen inni ei weld.

Beth rŷn ni'n gobeithio ei weld yw mwy o gydlynu ar lefel clwstwr, felly bydd y GPs ac ati yn gweithio gydag allied health professionals ac eraill sy'n gweithio yn y maes, gyda fferyllfeydd, a bydd y rheini i gyd yn dechrau cydweithio lot yn well nag y maen nhw wedi yn y gorffennol. Mae hynny yn gweithio’n dda mewn rhai llefydd, ond yn amlwg mae'n rhaid inni fynd ymhellach.

O ran access, dwi'n meddwl ei bod hi'n ddiddorol, achos yn aml iawn rŷn ni'n clywed lot o sŵn am bobl sydd ddim yn cael triniaeth dda, ond mae lot o bobl yn dod lan ataf i a dweud cymaint maen nhw'n hoffi, er enghraifft, yr e-consult model sydd yn gweithio i lot o bobl, yn arbennig pobl, efallai, sydd yn gweithio. Does dim amser gyda nhw i fynd i weld GP ac maen nhw'n hoffi cael yr access yna. Felly, mae pethau’n gweithio’n well i rai pobl nag eraill, a dwi'n meddwl bod rhaid inni gydnabod hynny.

Rŷn ni wedi gwario miliynau ar dreial cael pobl i ddeall bod yna ffyrdd eraill i gael access at gael triniaeth. Dyna pam mae'r 'Help Us to Help You' campaign i'w weld ym mhobman. Mae hi wedi bod yn weladwy. Mae'n anodd i fynd i ffwrdd ohoni. Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth sydd wedi gweithio. Mae hwnna'n rhoi gwybod i bobl bod pharmacies ar gael, bod 111 ar gael, bod urgent primary care centres ar gael, bod lot o lefydd eraill rŷch chi'n gallu mynd iddyn nhw heblaw am y GP. Dwi'n meddwl bod hynny wedi dechrau gweithio, ond mae'n rhaid i ni jest atgoffa pobl. Unwaith bydd pobl yn deall e am y tro cyntaf, byddan nhw wedyn, gobeithio, yn dilyn hynny yn y dyfodol.

O ran dentistry, dwi'n cydnabod bod yna le i wella, ond dwi jest yn meddwl bod pethau yn gwella. So, mae yna ffordd bell i fynd, ond rŷn ni ar y trywydd, a dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig. Ond, beth sy'n glir yw gallwn ni ddim jest troi hwn ymlaen dros nos; mae'r bobl yma'n cymryd amser i ni hyfforddi. Dyna pam dwi'n meddwl bod e'n anodd, yn arbennig pan rŷn ni'n trio newid y system. Felly, beth rŷn ni eisiau gwneud yw defnyddio mwy o'r bobl yma, y dental therapists ac ati. Dyna pam rŷn ni'n agor mwy o ganolfannau mewn llefydd fel yn y gogledd.

Jest o ran y community health councils a'r grŵp newydd, Llais, dwi yn meddwl bod e'n bwysig bod llais y bobl sy'n defnyddio'r NHS yn cael ei glywed yn glir. Mae yna lot o baratoi wedi cael ei wneud o ran symud o'r community health councils i Llais. Felly, mae yna lot o baratoi wedi'i wneud. Bydd y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn gweithio i'r community health councils yn cael eu TUPE-io drosodd, felly yr un bobl ydyn nhw, ond mae'r system yn mynd i fod ychydig yn wahanol. Felly, dwi'n cydnabod a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gwybod bod y system yn mynd i newid ac fe fydd yna ymgyrch i sicrhau bod pobl yn deall bod system newydd mewn lle.