Ymweliadau gan Blant a Phobl Ifanc

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:15, 29 Mawrth 2023

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, ac rydyn ni i gyd, dwi'n siŵr, wedi bod yn rhan o ymweliadau rhagorol a gweld faint o gyfleoedd gwych sydd yna i'n plant a'n pobl ifanc ni a faint maen nhw a ni'n elwa o'r ymweliadau hyn.

Un o'r pethau sydd wedi bod yn fy mhryderu, o siarad ag ysgolion yn fy rhanbarth, ac o feddwl mai Canol De Cymru ydy'r rhanbarth, ydy bod mwyfwy yn gweld bod cost bysus yn benodol yn golygu eu bod nhw efallai yn dod â senedd yr ysgol, sef criw llai, sydd felly'n ffitio mewn dau gar, yn hytrach na rhoi cyfle i bob disgybl fedru dod. Ac felly, eisiau gofyn ydw i: oes yna asesiad wedi cael ei wneud o ran effaith cynnydd y gost sydd wedi bod mewn bysus yn benodol er mwyn sicrhau bod yna gyfleodd a'n bod ni hefyd yn pwysleisio i awdurdodau lleol pa mor bwysig ydy'r ymweliadau hyn, fel bod pawb yn elwa, nid dim ond criwiau bach o blant a phobl ifanc?