Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 29 Mawrth 2023.
Mae'r Comisiwn yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau o bob rhan o'r wlad i ddod i'r Senedd ar ymweliadau addysgol. Mae'r ymweliadau hyn gyda swyddog addysg yn ddwy awr o hyd, ac maent yn cynnwys taith a sesiwn addysgol yn Siambr Hywel. Mae cymhorthdal teithio o £1 y filltir ar gael os oes angen teithio dros 10 milltir i gyrraedd y Senedd. Mae'r cynllun ar waith ers dros 10 mlynedd, a chytunwyd ar y gyfradd uwch hon i ddenu ysgolion i ymweld â'r Senedd, ac mae'n uwch na'r ddarpariaeth safonol HMRC, wrth gwrs, sydd ond yn 40c y filltir.