Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 29 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Llywydd. Wythnos diwethaf, fe wnes i ofyn cwestiwn i’r Gweinidog amaeth ynghylch defnyddio grym caffael y Llywodraeth i ddefnyddio gwlân Cymru, er enghraifft mewn carpedi yn ein cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr un modd, pa ystyriaeth mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i sicrhau bod gwlân Cymru yn cael ei ddefnyddio ar ystâd y Senedd, a bod polisi caffael yn nodi’r angen am wlân Cymru, er enghraifft, yn y ffabrig sydd i’w weld ar lawr y Siambr yma, neu ar hyd waliau’r Siambr yma, yn enwedig pan fyddwn ni’n gweld y Siambr yn ymestyn yn fwy o faint? Diolch.