Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 29 Mawrth 2023.
Ie, dwi’n ymwybodol o’ch cefnogaeth ar gyfer y deunydd pwysig hynny, sef gwlân yng Nghymru. Dwi’n rhannu eich uchelgais chi ar gyfer y deunydd cynaliadwy iawn hynny. Dwi’n meddwl ein bod ni yn neunawfed blwyddyn y Siambr yma, ac mae’r gwlân sydd ar y welydd ac ar y llawr wedi para mor hir â hynny, sy’n dangos, wrth gwrs, pa mor dda yw’r cynnyrch yna. Fel y sonioch chi, fe fydd yna gyfnod, os bydd deddfwriaeth yn mynnu hynny, pan fydd angen ymestyn y Siambr yma ac, o bosibl, bryd hynny bydd angen rhoi ystyriaeth i weld a fydd y gwlân yn para ac angen cael ei brynu o’r newydd ar gyfer y Siambr yma. Ac os byddwn ni’n prynu gwlân bryd hynny, yna dwi’n gobeithio y bydd yn lliw mwy diddorol na’r llwyd yma a benderfynwyd arno 18 mlynedd yn ôl.