Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 29 Mawrth 2023.
Wel, dwi'n meddwl bod y Llywodraeth wedi gweithredu—rŷn ni wedi camu i mewn; rŷn ni wedi rhoi cyfle i'r bwrdd i weithredu, a beth welsom ni oedd ddim y math o welliannau y byddem ni'n disgwyl eu gweld. Dyw'r adroddiad yma ddim yn dderbyniol. Mae'r adroddiad yn canmol y staff i raddau. Mae rhai ohonyn nhw yn feirniadol o rai o'r staff ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw llygad ar hynny achos mae hwnna'n rhan o'r diwylliant sydd rhaid newid, yn arbennig yn Ysbyty Glan Clwyd. Dwi'n cytuno bod angen inni edrych ar beth yw rôl yr uwch reolwyr yn fan hyn a dwi'n gwybod bod y cadeirydd newydd yn edrych i mewn i'r pethau yma.
O ran staffio, dwi'n falch o ddweud eu bod nhw nawr mewn sefyllfa lle mae dau consultant newydd yn yr adran, felly mae e lan i'r full complement o ran beth sy'n ddisgwyliedig mewn emergency department. Hefyd, rŷn ni wedi gweld recruitment ar gyfer bands 4, 2 a 5, a nawr beth sy'n digwydd yw bod sesiynau misol yn digwydd lle mae rheolwyr yn gwrando ar y gofidion sydd gan staff ac yn gwneud yn siŵr bod gyda staff gyfle i ddweud beth sydd yn eu poeni nhw.