Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 29 Mawrth 2023.
Y Dinesydd yn 50 oed: pleser mawr i fi yn y Senedd yma yw nodi hanner canrif ers sefydlu’r papur bro cyntaf yng Nghymru, ac hynny yn ein prifddinas fan hyn. Gweledigaeth yr annwyl Mered oedd Y Dinesydd, ac roedd nifer o Gymry amlwg yn rhan annatod o'r Dinesydd ar y cychwyn, gan gynnwys yr hynod weithgar Shân Emlyn, yr unigryw David Meredith, a’r newyddiadurwr profiadol Vaughan Hughes. Yng nghanol prysurdeb eu bywydau bob dydd, mae llu o wirfoddolwyr wedi gweithio’n ddyfal ac yn aml yn hollol ddiddiolch i sicrhau bod Y Dinesydd yn dathlu hanner canrif. Gwireddwyd y freuddwyd yn y rhifyn cyntaf o gyfoethogi bywyd Cymraeg y brifddinas ac i ddod â Cymry Cymraeg at ei gilydd. Fe arweiniodd sefydlu’r Dinesydd at bapurau bro ledled Cymru a thu hwnt—ac, os ŷch chi'n meddwl ble mae'r 'tu hwnt', Yr Angor yn Lerpwl, dan olygyddiaeth D. Ben Rees, yw'r 'tu hwnt'—dros 59 o bapurau bro bellach, gan gynnwys Llais Ogwen, yr ail i cael ei sefydlu yn Hydref 1974, Tafod Elai yn ardal Pontypridd, Clochdar yng Nghwm Cynon a’r Gloran yng Nghwm Rhondda. Mae Caerdydd wedi elwa ar hyd y blynyddoedd o Gymry Cymraeg yn symud i’r brifddinas. Dyma, yn sicr, un enghraifft o leiaf o gyfraniad Caerdydd i fywyd Cymraeg ein gwlad. Prynwch, gyfeillion, y bumper edition mis nesaf. Diolch yn fawr.