1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2016.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa mor bwysig yw cymorthdaliadau cyhoeddus i ffermwyr Cymru? OAQ(5)0009(ERA)
Gwnaf. Mae taliadau polisi amaethyddol cyffredin o £350 miliwn bob blwyddyn yn chwarae rhan hanfodol bwysig yn cynnal hyfywedd ffermydd Cymru a gwireddu gweledigaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ynghylch diwydiant amaethyddol ffyniannus a gwydn yng Nghymru.
Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod cymhorthdaliadau wedi bod yn elfen bwysig yn incwm ffermwyr drwy gydol fy oes, cyn i ni fynd i mewn i’r farchnad gyffredin, fel y’i gelwid bryd hynny, ac ers hynny wrth gwrs, ac os yw’r wlad yn pleidleisio dros adael yfory, yna byddai cymhorthdaliadau cyhoeddus yn parhau ar eu lefel bresennol fan lleiaf oherwydd ein bod yn talu £2 i mewn ac ond yn cael £1 yn ôl. Roedd gennym system dda o gymhorthdaliadau yn seiliedig ar daliadau diffyg cyn 1973 a oedd yn cynnal incwm ffermydd gan sicrhau bwyd rhad i’r bobl.
Rwy’n credu bod sylwadau’r Aelod i gyd yn gwbl ddamcaniaethol.
A gaf fi gyflwyno ambell ffaith i chi, Weinidog? A gaf fi eich cyfeirio at erthygl yn yr ‘Agricultural History Review’, o dan y pennawd ‘Measuring Regional Variation in Farm Support: Wales and the UK, 1947-72’? Dyma oedd casgliad yr erthygl hon: roedd cymorthdaliadau blaenorol i ffermydd cyn ffurfio’r UE yn cosbi Cymru pan oedd maint y fferm yn llai ar gyfartaledd nag yn y DU gyfan. Y ffaith yw bod gan ffermwr yng Nghymru fwy yn gyffredin â ffermwyr ledled gweddill yr UE nag sydd ganddo â chriw o Dorïaid asgell dde sy’n cefnogi preifateiddio a heb ddiddordeb mewn dim heblaw chwyddo a hyrwyddo’u lles eu hunain. Mae’n well i ffermwyr Cymru aros yn yr UE. Dyna gasgliad llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr heddiw, yma yn y Cynulliad hwn, yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru. Rwy’n gobeithio y byddwn, yn ystod y 24 awr olaf, yn gweithio’n galed i ddarparu’r sicrwydd y mae’r gymuned amaethyddol ei hangen y byddwn yn gwarchod eu buddiannau, ond fel rhan o Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig.
Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Roeddwn yn y digwyddiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, sydd wedi anfon neges gadarnhaol iawn i’w haelodau y dylent bleidleisio dros aros yn yr UE yfory. Gwyddom fod y farchnad sengl yn gwbl allweddol i’n sectorau ffermio a bwyd ac rwy’n credu bod y peryglon sy’n gysylltiedig â’r posibilrwydd o adael yn sylweddol. Nid ydym yn gwybod, ac mae’r hyn a glywn gan rai gwleidyddion, fel rwy’n ei ddweud, yn seiliedig ar ddamcaniaeth lwyr a gwyddom fod 81 y cant o elw busnesau ffermio yng Nghymru yn deillio o’r cymorthdaliadau y maent yn eu derbyn gan yr UE.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Llywodraeth flaenorol Cymru i symud i’r gyfradd fodiwleiddio o 15 y cant wedi’i gwneud yn llawer anos i rai ffermwyr yng Nghymru gystadlu yn y farchnad yn erbyn cynhyrchwyr bwyd o wledydd eraill. O ystyried yr amgylchiadau hyn, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i sicrhau bod ffermwyr yn cael cyfle i gael mynediad uniongyrchol at y cronfeydd hyn o dan y cynllun datblygu gwledig er mwyn gwneud iawn am golli enillion o dan golofn 1?
Wel, mewn gwirionedd, wyddoch chi, rwyf ar ganol fy mis cyntaf yn y portffolio ac rwy’n credu eu bod yn cael mwy na’r 15 y cant yn ôl mewn gwirionedd. Rydym yn y broses o sefydlu’r cynllun grantiau bach ac mae’r ffermwyr yn hapus iawn â’r hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â hynny.