– Senedd Cymru am 11:27 am ar 24 Mawrth 2020.
Symudwn yn awr at eitem 8, sef datganiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y coronafeirws, COVID-19. Y Gweinidog Iechyd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym eisoes wedi clywed y Prif Weinidog yn amlinellu'r ystod o fesurau eithriadol y mae pedair Llywodraeth y DU wedi'u cymryd yn ystod y dyddiau diwethaf—mesurau a fu'n angenrheidiol i ymateb i ddifrifoldeb y sefyllfa hon, gan fod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Fy mhrif flaenoriaeth o hyd yw lleihau niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol y coronafeirws, amddiffyn cymunedau a diogelu pobl agored i niwed, darparu gofal i gleifion, gofalu am fudd a lles ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gall fod, wedi'i chyfarparu ac mor gydnerth ag y gall fod ar gyfer yr wythnosau i ddod. Yn y pen draw, diben clir popeth a wnaf yw achub cymaint o fywydau â phosib.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd parhaus yn nifer yr achosion o'r coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru. Yn anffodus, rydym ni wedi cael rhagor o farwolaethau, ac mae'n wir ddrwg gennyf fod unrhyw deulu wedi colli rhywun annwyl a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant at bawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw eisoes.
Rwy'n deall bod pobl yn poeni. Rwyf innau hefyd. Rwy'n deall bod pobl yn ceisio amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd. Rwyf innau hefyd. Mae rhai pobl yn dewis cadw stôr o eitemau hanfodol neu'n ynysu eu hunain mewn ardaloedd mwy diarffordd i ffwrdd o'u cartref arferol. Rwy'n gofyn i bobl yn y cyfnod ansicr hwn i beidio â chynhyrfu, i fod yn feddylgar, i feddwl am eich teuluoedd, ac i feddwl am eraill hefyd. Mae'r holl gamau yr wyf yn eu cymryd gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio i'ch diogelu chi a'ch teuluoedd. Rwy'n cydnabod bod temtasiwn i brynu bwyd neu gynnyrch ychwanegol i ofalu am eich anwyliaid. Ond mae digon o fwyd i bawb os gwnawn ni siopa fel arfer heb gronni yn ormodol. Er fy mod yn deall y pryder sy'n arwain at gronni yn ormodol, mae'n brifo'r rhai mwyaf agored i niwed a'r bobl sydd â'r lleiaf o fodd. Mae hefyd yn brifo pobl na allan nhw o reidrwydd gyrraedd siopau'n gynnar. Fel y gwyddom ni, pobl yn ein gwasanaethau brys, ein gweithlu gofal cymdeithasol ac yn ein GIG yw'r rhain yn aml—yr union bobl yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn awr yn fwy nag erioed. Yn yr un modd, rydym yn cynllunio ein gwasanaethau iechyd yn seiliedig ar le mae pobl yn byw. Mae'n hynod bwysig i chi a'ch GIG eich bod yn mynd adref ac yn aros gartref.
Bydd yr wythnosau i ddod yn heriol a bydd y galwadau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i gynyddu. Dyna pam y gweithredais ar fyrder i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gallant fod ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau.
Ein hymateb i'r argyfwng hwn oedd adeiladu ar ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i gryfhau'r strwythurau sydd ar waith, ac i gyflwyno mwy o fesurau'n gyflym i gryfhau ein cydnerthedd. Er enghraifft: mae 111 a Galw Iechyd Cymru ar-lein wedi bod yn allweddol i ddarparu cyngor; mae datrysiadau digidol yn cael eu cyflwyno'n gyflym, megis y gallu i ddarparu ymgynghoriadau fideo ym maes gofal sylfaenol ac fel dewis arall yn lle apwyntiadau cleifion allanol; mae cryfhau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi eu rhoi mewn sefyllfa i ddarparu ymatebion iechyd a gofal cymdeithasol integredig i gymunedau lleol; mae sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ein helpu i fynd i'r afael ag anghenion sylweddol y gweithlu.
Rwyf hefyd wedi gwneud penderfyniadau mwy anodd fel ein bod yn barod i ofalu am niferoedd ychwanegol o bobl sâl iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu achub mwy o fywydau. Drwy leihau triniaethau dewisol nad ydynt yn rhai brys dros dro 10 diwrnod yn ôl, mae byrddau iechyd wedi cael amser i baratoi mewn ffordd fwy cynlluniedig a phwyllog. Mewn gwahanol ysbytai, gweithredwyd ar frys i gynyddu capasiti gofal critigol ac i adleoli a hyfforddi staff yn barod ar gyfer y galw cynyddol y disgwyliwn ei weld.
Ddoe, roedd tua 45 y cant o'r lleoedd mewn unedau gofal critigol yn cael eu defnyddio. Mae tua 15 y cant o'r cleifion naill ai'n achosion posibl o COVID-19 neu'n achosion sydd wedi'u cadarnhau. Mae gennym ni gynlluniau ar waith i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru ar unwaith i ychydig dros 300. Mae gwaith helaeth yn cael ei wneud i gynyddu nifer y gwelyau â pheiriannau anadlu a all gael eu darparu yng Nghymru, gan gynnwys prynu dros 600 o beiriannau anadlu ychwanegol, ac rydym yn parhau i edrych ar ddewisiadau eraill ar frys.
Penderfynais drefnu yr wythnos diwethaf fod rhannau o ysbyty newydd Ysbyty Athrofaol y Grange ger Cwmbrân yn agor yn gynt na'r bwriad. Bydd hyn yn darparu 350 o welyau ysbyty ychwanegol erbyn diwedd mis Ebrill. Mae trafodaethau brys hefyd yn mynd rhagddynt gyda'r sector ysbytai preifat yng Nghymru i sicrhau capasiti ychwanegol.
Rwyf wedi cytuno i lacio trefniadau contract a monitro dros dro ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a staff. O fewn hynny, mae fferyllfeydd cymunedol yn parhau i fod yn y rheng flaen, a byddant hyd yn oed yn fwy pwysig o ran helpu i gefnogi grwpiau o bobl agored i niwed sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu am wythnosau i ddod.
Rwy'n gwybod y bu pryder eithaf dealladwy ynghylch pa mor hawdd oedd hi i gael gafael ar gyfarpar diogelu personol. Rwyf wedi gweithredu i wella'r trefniadau yng Nghymru ar gyfer diogelu ein staff iechyd a gofal rheng flaen sy'n gofalu am achosion posib o COVID-19 neu achosion sydd wedi'u cadarnhau.
Rwyf wedi awdurdodi ymgyrch sylweddol i ddarparu cyfarpar diogelu personol i'r saith bwrdd iechyd, gwasanaeth ambiwlans Cymru a Felindre. Er y dylai unrhyw un sy'n amau fod y coronafeirws arno aros gartref ac na ddylai ymweld â lleoliad gofal sylfaenol, fel mesur o ddiogelwch, mae cyfarpar diogelu personol wedi'u cyflenwi i bob clinig meddyg teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau a fferyllfeydd. Mae gan wasanaethau gofal cymdeithasol ran hanfodol yn ein hymateb i COVID-19, ac rwyf wedi awdurdodi rhyddhau cyfarpar diogelu personol hefyd i'w defnyddio gan ddarparwyr gofal cymdeithasol. Mae cyflenwadau sylweddol wedi cyrraedd ddoe, ac fe gaiff llawer iawn eu danfon heddiw.
Trof yn awr at ein gweithlu. Rydym ni i gyd yn cydnabod y bydd pawb sy'n gweithio i ddarparu ein gwasanaethau rheng flaen eisoes dan bwysau aruthrol, ac ni chredaf fod digon o eiriau i fynegi fy niolch i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n parhau i weithio'n ddiflino i ofalu am bobl ym mhob un o'n cymunedau.
Gwyddom y bydd pethau'n gwaethygu cyn iddyn nhw wella. Dyna pam yr ydym ni'n gweithredu ymhellach mewn modd na welwyd erioed o'r blaen i gefnogi ein gweithlu presennol. Gofynnir i bobl sydd wedi gadael neu wedi ymddeol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y tair blynedd diwethaf ailgofrestru gyda'u cyrff proffesiynol perthnasol neu, ym maes gofal cymdeithasol, i gysylltu â'u hawdurdod lleol.
Rydym ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio sgiliau myfyrwyr sy'n awyddus i gyfrannu. Mae myfyrwyr meddygol ar eu blwyddyn olaf, myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael cynnig y cyfle i ymgymryd â swyddi dros dro ar gyflog llawn i roi hwb pellach i'r rheng flaen. Bydd y rhai sy'n ymuno yn cael cyfnod sefydlu a hyfforddiant llawn a phriodol.
Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad y coronafeirws: i olchi ein dwylo yn rheolaidd, i leihau cyswllt cymdeithasol, i gadw at y cyngor ar ymbellhau cymdeithasol, ac i aros gartref os ydych chi'n arbennig o agored i niwed. Rydym ni'n ysgrifennu at bobl agored i niwed y mae eu cyflyrau iechyd presennol yn golygu y gallan nhw fod yn sâl iawn gyda'r coronafeirws. Rydym yn gofyn i'r bobl hyn gymryd mesurau llymach fyth i amddiffyn eu hunain rhag y feirws hwn. Rydym yn gweithio gyda meddygon teulu, awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol i wneud yn siŵr bod y bobl hyn yn gallu elwa ar yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cefnogi yn ystod yr wythnosau anodd sydd i ddod.
Mae'r sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu yn un ddigynsail. Bydd yr wythnosau nesaf yn fwy heriol na'r hyn yr ydym ni wedi'i weld yn ystod 20 mlynedd o gael Llywodraeth yng Nghymru. Os gwelwch yn dda, gofalwch am eich hunain a gofalwch am eich gilydd.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, yn arbennig? Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i chi eich hun, eich cyd-Aelodau yn y fan yma, a hefyd i'ch cydweithwyr mewn Llywodraethau eraill. Rwy'n credu, yn anarferol i aelod o'r wrthblaid, efallai, eich bod yn bendant yn haeddu ein diolch y tro hwn.
A gaf i ymuno â chi hefyd i ddiolch i'n staff rheng flaen? Ond nid y rhai o fewn y gwasanaeth iechyd yn unig, ond y rhai sy'n cefnogi'r staff hynny. Felly, eu teuluoedd eu hunain, y garejys sy'n darparu'r MOTs i'r nyrsys y mae angen iddyn nhw yrru i'r gwaith, er enghraifft, ac i bawb sy'n ymbellhau'n gymdeithasol, sy'n deall bod hyn yn ymwneud ag achub bywydau—nid yn unig eu bywyd eu hunain, ond bywyd pobl o'u cwmpas hefyd.
Efallai ei bod hi'n werth atgyfnerthu'r pwynt nad yw manwerthwyr nad ydyn nhw'n rhan o'r categorïau y soniwyd amdanyn nhw ychydig yn gynharach yn gallu mynnu bod eu gweithlu yn mynd i'r gwaith pan fo'r Llywodraeth eisoes wedi dweud wrthyn nhw fod angen i'r gweithwyr hynny aros gartref.
Ond efallai y caf i ofyn ychydig o gwestiynau penodol i chi. Dechreuaf gyda'r gwelyau, os caf i, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud ar Sharp End neithiwr eich bod, rhwng y cyfleuster yng Ngwent a rhywfaint o gapasiti preifat, wedi dynodi 500 o leoedd gwelyau ychwanegol—efallai fod hynny wedi cynyddu ychydig heddiw—a'ch bod yn ffyddiog y gallen nhw gael eu staffio drwy ddefnyddio rhai o'r nyrsys ychwanegol, meddygon dan hyfforddiant ac ati y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw hefyd. Ond yn Hywel Dda yn unig—ac rwy'n cyfeirio at fwrdd iechyd bychan yn fwriadol yn y fan yma—maen nhw eisoes wedi cyfrifo y bydd angen 1,600 o welyau ychwanegol arnyn nhw i ateb y galw mwyaf ym mis Mai neu fis Mehefin. Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni beth fydd y diffyg mewn gwelyau ledled Cymru a gyfrifwyd ar gyfer y cyfnod mwyaf hwnnw o alw? Rwy'n sylweddoli na allwch chi fod yn fanwl gywir. Ymhle ydych chi'n bwriadu creu'r capasiti ychwanegol? Ydych chi'n ffyddiog y byddwch yn cael digon o ymateb i'ch galwad am nyrsys dan hyfforddiant, meddygon dan hyfforddiant, meddygon wedi ymddeol yn ddiweddar ac ati, i staffio'r gwelyau hynny'n ddigonol?
Ar hynny'n benodol, a ydych chi'n edrych ar y gweithwyr gofal iechyd cysylltiedig hefyd—eich ffisiotherapyddion, eich therapyddion galwedigaethol, eich podiatryddion, ac ati—i helpu llenwi rhai o'r bylchau sgiliau hyn? Ac os felly, rwy'n sylweddoli eich bod wedi dweud y caiff bawb gyfnod sefydlu ac y byddan nhw'n cael eu hyfforddi'n llawn, ond mewn beth yn union? Pa fath o sgiliau fydd ar goll ac ymhle fyddan nhw ar goll? Efallai y gallwch chi roi syniad inni hefyd o faint o weithwyr gofal iechyd cysylltiedig sydd wedi dod ymlaen yn ogystal â'r meddygon dan hyfforddiant, y nyrsys a'r nyrsys a'r meddygon sydd wedi ymddeol. A ydych chi mewn sefyllfa eto i roi unrhyw arwydd inni ynghylch y niferoedd sy'n cynnig eu hunain?
Profi: unwaith eto, fe wnaethoch chi ddweud ar Sharp End neithiwr eich bod yn awyddus i gyflwyno profion y tu hwnt i'r GIG i ofal cymdeithasol, yr heddlu ac eraill—ac rwy'n sylweddoli nad yw hynny ar fin digwydd, ond y caiff ei wneud—gan ddweud eich bod yn cynyddu'r capasiti yn sylweddol. Ar hyn o bryd, y pryder yw nad yw pob un o'n staff yn y GIG yn cael eu profi. Felly, a allwch chi roi syniad i ni o bwy o fewn staff y GIG sy'n cael eu profi ac ymhle y maen nhw'n cael eu profi? A yw hyn yn digwydd ar y safle y maen nhw'n gweithio ynddo, neu a oes gofyn iddyn nhw fynd i rywle arall? Os felly, ble mae'r safleoedd hynny? Pwy sy'n gwneud y profion? Oherwydd os ydym yn cynyddu capasiti, bydd arnom ni angen yr unigolion i swabio, ond bydd hefyd angen technegwyr labordy ychwanegol neu unigolion priodol eraill i gynnal y profion. Efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni ymhle y caiff y gwaith labordy hwnnw ei gynnal. Ai yn Ysbyty'r Waun yn unig, ynteu a ofynnir i leoliadau eraill yn y brifysgol neilltuo amser yn eu labordai i wneud y gwaith hwnnw?
Yna, peiriannau anadlu. Rwy'n credu eich bod wedi sôn bod 600 o beiriannau anadlu yn y system. Efallai y gallwch chi gadarnhau hynny; wnes i ddim clywed yn iawn. Unwaith eto, fe ddywedoch chi neithiwr fod gennych chi gapasiti o 75 y cant, neu gapasiti wedi'i asesu, ar y ffordd. Ond eto, i ddyfynnu un o'r byrddau iechyd lleol llai, Hywel Dda, maen nhw'n cyfrifo bod angen tua 200 o beiriannau anadlu arnyn nhw. Maen nhw wedi llwyddo, rhwng eu stoc eu hunain a rhai o ysbytai preifat gerllaw a phrifysgolion—mae ganddyn nhw tua 80. Mae hynny ymhell o fod yn 75 y cant, heb sôn am 100 y cant. A allwch roi rhyw syniad inni pryd y bydd y peiriannau anadlu newydd yn cyrraedd Cymru? Fe wnaethoch chi sôn fod y DU yn ei chyfanrwydd yn cronni a rhannu adnoddau, felly byddai'n eithaf defnyddiol gwybod lle mae Cymru yn y ciw. Gwn fod hynny'n ffordd braidd yn anffodus o eirio'r peth, ond mae'n debyg y bydd rhai rhannau o Gymru'n cael y peiriannau anadlu hyn ychydig yn hwyrach nag eraill, felly, pe gallech chi roi syniad inni o bryd y bydd rhywfaint o'r cyfarpar yn cyrraedd.
Dillad diogelu, rydych chi wedi sôn am hyn. Unwaith eto, dim ond hyn a hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, ac er fy mod yn deall yn llwyr eich bod yn cael gafael ar fwy, a allwch chi roi syniad i ni ynghylch sut yr ydych chi'n blaenoriaethu o ran i ble mae'r rhain yn mynd ar hyn o bryd? Gan eich bod wedi sôn am yr holl staff rheng flaen ychydig yn gynharach, rwy'n credu, ond hyd yn oed mewn ysbyty unigol bydd rhai meysydd penodol sydd efallai â mwy o flaenoriaethau nag eraill—adrannau damweiniau ac achosion brys er enghraifft. Sut fyddai'r rheini yn cymharu â, wn i ddim, wardiau canser neu famolaeth neu debyg? Yn amlwg, mae llawdriniaethau dewisol wedi cael eu canslo, felly nid oes angen i chi sôn am hynny, ond mewn ysbyty beth yw'r flaenoriaeth?
Ac yna, yn olaf: adfer. Bydd yn digwydd ryw ddiwrnod, dim ond i dawelu meddyliau pawb. Beth ydych chi wedi'i ddweud wrth y byrddau iechyd lleol ar hyn o bryd ynghylch dod â thimau ynghyd i baratoi ar gyfer adfer? Oherwydd dydym ni ddim yn sôn am ohirio popeth chwe mis yn unig. Bydd hon yn broses enfawr o ddal i fyny oni fydd hi? Gobeithio, o fewn blwyddyn. A ydych chi'n gofyn iddyn nhw ddod at ei gilydd i sefydlu timau didoledig i ddechrau blaengynllunio? Unwaith eto, ailadroddaf y cwestiwn hwnnw ar gyfer adran iechyd Llywodraeth Cymru—er fy mod yn tybio ei fod yn berthnasol i bob adran, mewn gwirionedd—ynghylch a oes gennych chi grŵp o bobl, hyd yn oed un bychan, sy'n ymroi i flaengynllunio a sut y byddwn yn adfer pan fydd y gwaethaf o hyn ar ben? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cwestiynau. Ceisiaf ymdrin mor gyflym ag y gallaf â'r cwestiynau fel y'u gofynnwyd. O ran nifer y gwelyau, mae'r 350 o welyau sy'n cael eu rhyddhau yn Ysbyty Athrofaol y Grange, ynghyd â thua 150 yr ydym yn disgwyl cael cytundeb yn eu cylch gan y sector preifat, yn rhoi 500 o welyau ychwanegol. Cyfleusterau cam-i-lawr ydyn nhw mewn gwirionedd; nid oes gan y sector preifat gapasiti ar gyfer gofal dwys.
Ond mae'r sylw a wnaeth cyfarwyddwr meddygol Hywel Dda heddiw wrth ddisgrifio'r hyn y maen nhw'n ei wneud ynghyd â'r awdurdod lleol, yn addasu rhai o adeiladau awdurdodau lleol, a'r cynnig a wnaed gan y Scarlets i ddefnyddio rhai o'u hadeiladau hwythau hefyd, yn ymwneud unwaith eto â llif, i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd allan i'r cyfleuster cam-i-lawr hefyd. Felly, rydym ni'n credu y byddwn ni'n gallu cael digon o bobl i ddod i wneud hynny.
Nawr, mae'r amrywiaeth o bobl, gan gynnwys proffesiynau perthynol i iechyd, sydd yng nghanol eu hastudiaethau israddedig, yn bobl yr ydym yn credu y gallwn ni eu cyflogi mewn mathau o swyddogaethau cefnogi gofal iechyd, i gael pobl i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol cofrestredig. Byddant yn cael eu talu'n iawn am eu gwaith; ni fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw ddod i wneud hynny am ddim. Rwyf wedi gweld sïon ar led mewn rhai rhannau o ddrysfa'r cyfryngau cymdeithasol sy'n awgrymu ein bod ni'n ceisio cael pobl i wneud hyn am ddim. Nid ydym yn cynnig hynny. Mae'n amlwg bod hynny'n golygu—a'r sylwadau a roddodd y Prif Weinidog yn gynharach ynglŷn â'r aildrefnu ar y gyllideb—pwysau ariannol ychwanegol sylweddol i sicrhau bod gweithlu ar gael sy'n gallu gwneud hynny, yn union fel y pwysau i gael mwy o gyfarpar diogelu personol i'r gwasanaeth, a'r peiriannau anadlu ychwanegol y byddwn ni'n ceisio eu prynu'n unigol, ond hefyd yn rhan o gyflenwad y DU.
Felly, ydw, rwy'n credu y gallwn ni ddod o hyd i ddigon o staff, ond mae'n rhaid i mi ailadrodd y rhybudd a roddais o'r blaen sef y bydd y ffordd yr ydym yn gofalu am bobl yn wahanol; nid dim ond addasu cyfleusterau nad ydynt fel arfer yn edrych fel ysbytai i greu mathau o gyfleusterau iechyd a gofal, ond yn yr un modd, y ffordd y mae staff yn gallu gofalu am bobl a'u trin. Y math o gymarebau yr ydym wedi arfer eu gweld ac yn disgwyl eu gweld ar adegau arferol—wel, efallai y bydd yn rhaid i ni i gyd oddef ffordd wahanol o ofalu am bobl os ydym yn mynd i allu blaenoriaethu pobl sydd â'r angen mwyaf, ond hefyd nifer y bobl a all fod mewn uned adfer gan symud allan o'r lleoliad anghenion sylweddol iawn hwnnw ar adeg briodol.
Felly, mae 5,000 o lythyrau eisoes wedi eu hanfon at bobl sydd wedi gadael y gofrestr yn ddiweddar, ac mae nifer o'r rheini yn dod yn ôl i mewn. Byddaf yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau pan fyddwn mewn sefyllfa synhwyrol i wneud hynny ynghylch nifer y bobl sydd wedi cytuno neu wedi dweud y byddent yn hoffi dychwelyd i'r gofrestr.
O ran profion ychwanegol, nodwyd y blaenoriaethau yn natganiad y prif swyddog meddygol yr wythnos diwethaf ochr yn ochr â fy natganiad i ynghylch profion. Fel y dywedais, dylai profion ychwanegol sylweddol y dylem allu eu cyflawni o fewn yr wythnos neu fwy nesaf olygu bod mwy o bobl yn y gwasanaeth iechyd a gweithwyr allweddol eraill—. Ac, fel y dywedais, cafwyd llawer o sylwadau am ofal cymdeithasol a'r heddlu yn arbennig—i wneud yn siŵr bod modd profi'r bobl hynny a'u cael yn ôl i'r gweithle os yw'r prawf yn rhoi'r canlyniad cywir.
O ran rhywfaint o'r capasiti hwnnw, yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym ni hefyd yn siarad â'r sector prifysgolion, sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn yn cyflwyno cynnig o gymorth, ond hefyd, mewn negodiadau ledled y DU, rwyf wedi cymeradwyo'r hyn a ddylai fod yn gytundeb y gallwn ni ei gadarnhau yn fuan gydag un neu ddau o ddarparwyr mawr yn y sector preifat a fydd yn rhoi, nid yn unig mwy o gapasiti ond hefyd cydnerthedd a chadernid o ran cynnal profion. Ac o fewn hynny, mae rhai trefniadau ar gyfer Cymru yn unig, ond mae yna hefyd rai trefniadau ar gyfer y DU gyfan i atgyfnerthu'r trefniadau profi hynny.
Mae hynny'n mynd â ni at eich sylw am beiriannau anadlu. Mae gennym ni tua 600 o rai ychwanegol. Mae mwy ar y ffordd. Mae cronfa'r DU yn gronfa ar gyfer y DU yng ngwir ystyr y gair; ni ddylai olygu 'un genedl yn gyntaf a bydd eraill yn cael rhai os bydd unrhyw rai ar ôl', ac mae hynny'n wirioneddol bwysig gan ein bod yn ceisio cydweithio a gweithio'n effeithiol i ddiwallu anghenion ledled y Deyrnas Unedig. Ac mae'n werth nodi y gall yr anghenion hynny fod yn wahanol mewn gwahanol genhedloedd a gallant fod yn wahanol ar adegau gwahanol. Rydym ni'n gweld y ffigurau yn Llundain, er enghraifft, felly maen nhw'n debygol o gael yr ergyd fwyaf gyntaf, ond ni fydd hi wastad yn wir fod Llundain yn cael blaenoriaeth dros rannau eraill o Loegr, heb sôn am y gwahanol genhedloedd o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n bwysig bod hynny'n cael ei weld o fewn y cyd-destun hwnnw.
O ran cyfarpar diogelu personol, mae'n werth nodi'r ffaith bod angen cyfarpar gwahanol mewn gwahanol leoliadau, ac, unwaith eto, mae'r prif swyddog meddygol wedi cyhoeddi rhywfaint o arweiniad ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y defnydd o Gyfarpar diogelu personol a beth yw'r cyfarpar priodol ar gyfer pobl. Dylai bod mwy o sicrwydd, fodd bynnag, oherwydd fe wn i ei fod yn bryder y mae Aelodau ar draws y Siambr a'r tu allan wedi dweud eu bod yn ei glywed yn lleol. Felly, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig arall heddiw i nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud, yr hyn y disgwyliwn ei wneud, ac os bydd pryderon a chwynion unigol, nodi i le y gall pobl fynd gyda'r pryderon a'r cwynion hynny er mwyn iddyn nhw gael sylw'n gyflym, oherwydd rwy'n sicr nad wyf eisiau i'n staff rheng flaen deimlo naill ai nad oes cyfarpar diogelu personol priodol ar gael neu nad oes mwy ar ei ffordd, oherwydd dyna'n union yr ydym yn ceisio'i gyflawni, ac mae hynny'n cynnwys ailstocio'r cyflenwadau sydd gennym ni ar hyn o bryd.
O ran adfer, y gwir plaen yw nad wyf wedi gofyn ac nid wyf yn disgwyl i fyrddau iechyd fod â thimau o bobl yn paratoi nawr ar gyfer adfer gan nad yw'r ymdrech sydd ei hangen arnom ni i baratoi ar gyfer yr hyn sy'n dod, yn fy marn i, yn caniatáu inni wneud hynny. Wrth inni symud ymlaen, ac wrth inni, gobeithio, ddechrau gweld gostyngiad yn nifer yr achosion, gostyngiad yn nifer y bobl y mae angen y gofal mwyaf sylweddol arnyn nhw, byddwn wedyn yn gallu barnu faint o ymdrech fydd ei hangen ar gyfer adfer a deall sut beth fydd y normalrwydd newydd. Oherwydd os cawn achos sylweddol, bydd yn effeithio ar yr hyn y byddwn yn ei drafod ac yn dadlau fel arfer ynghylch perfformiad y GIG, a'r cwestiynau treiddgar a heriol a ofynnwn i'n gilydd. Ym mhob gwlad yn y DU, gwelwn na fyddwn yn dychwelyd i'r cyfnod hwnnw yn gyflym iawn, ac mae angen rhywfaint o onestrwydd o fewn y gwasanaeth iechyd ynglŷn â hynny, ond hefyd ymhlith y cyhoedd, ynghylch pa mor hir y bydd hi'n cymryd i ni ddod yn ôl ar ein traed a rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle byddwn yn deall sut y bydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn parhau i wasanaethu pobl yn y cyfnod normal yr ydym i gyd yn gobeithio ac yn disgwyl ei weld cyn hir.
Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud pa mor falch yr ydym ni i gyd rwy'n siŵr o'i weld yn ôl yn y rheng flaen. Gwn ei fod yn gweithio'n galed iawn pan oedd yn hunanynysu, ond mae'n dda iawn ei weld yma. Mae'n rhaid y bu yn gyfnod pryderus iawn iddo ef a'i deulu ac rwy'n falch iawn o'i weld yma gyda ni heddiw.
Hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth pobl eraill, am y rheini, fel y dywedodd y Gweinidog, sydd eisoes wedi colli anwyliaid i'r feirws hwn, ac am y gwaith gwych y mae ein staff iechyd a gofal—a chredaf fod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cofio sôn amdanyn nhw hefyd, oherwydd ar wahân i unrhyw beth arall, maen nhw'n gwneud gwaith pwysig iawn i atal pobl rhag mynd mor sâl nes bod angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty. Felly, hoffwn ategu'n fawr y sylwadau y mae Aelodau eraill wedi'u gwneud am y gwaith ardderchog y mae ein staff iechyd a gofal yn ei wneud.
Rwyf eisiau cyfeirio at rai materion y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn amdanyn nhw, a rhoi ychydig mwy o sylw i'r rheini efallai, ac yna mae ambell beth arall yr hoffwn i ei grybwyll os bydd y Dirprwy Lywydd yn caniatáu hynny.
Yn gyntaf oll, dim ond i egluro ychydig yn fwy am y peiriannau anadlu. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei atebion i Suzy Davies. Felly, mae gennym ni 600 o awyryddion. A yw'r rheini gennym ni nawr ynteu a ydyn nhw wedi cael eu harchebu? A yw'r Gweinidog yn disgwyl iddyn nhw fod yn ddigonol? Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd dweud oherwydd nad ydym yn gwybod eto beth yw patrwm y clefyd. Pryd y gallwn ni ddisgwyl bod mewn sefyllfa lle y gall fod yn ffyddiog bod gennym ni ddigon o'r rhain i ddiwallu'r anghenion sy'n debygol o godi?
Os gallaf gyfeirio'n ôl eto at welyau gofal critigol, ac, unwaith eto, soniodd am hyn yn ei ddatganiad, mae'n dweud bod angen inni ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol. A allai roi i ni—? Rwy'n gwybod ei bod hi'n amhosib bod yn benodol am y pethau hyn, Dirprwy Lywydd, mewn cyfnod o argyfwng, ond byddai o gymorth i bobl, rwy'n credu, pe gallem ni gael syniad pryd rydym ni'n disgwyl cael y gwelyau gofal critigol hynny yn barod i'w defnyddio.
Os caf i ddychwelyd yn fyr at y profi. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am ddehongliad, dehongliad y DU neu Gymru o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ond byddai o gymorth i mi pe bawn yn gallu deall ychydig mwy ynghylch sut y mae'r cyngor hwnnw'n wahanol ar gyfer Cymru a'r DU. Oherwydd mae'n bennawd, onid yw? Mae'r cyhoedd yn clywed Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud, 'Profwch, profwch, profwch'; rydym ni'n gwneud penderfyniadau i wneud pethau'n wahanol yn y fan yma. A chredaf y byddai o gymorth, nid nawr, efallai, ond os yw'r Gweinidog eisiau ysgrifennu atom, fel y gallwn ni roi esboniad i'n hetholwyr ynglŷn â pham nad ydym yn dilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd. Rydym yn gwybod y bu yn llwyddiannus iawn, er enghraifft, mae gwneud hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr Almaen.
Ac a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, eto—? Mae wedi sôn ein bod ni'n cyrraedd sefyllfa lle byddwn ni'n gallu profi gweithwyr gofal iechyd allweddol. A gaf i godi'r mater gydag ef eto, y gwn fod fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth ac eraill wedi'i godi, ynghylch profion ar gyfer teuluoedd gweithwyr allweddol? Rwy'n ymwybodol yn y rhanbarth yr wyf yn ei chynrychioli o sefyllfaoedd lle mae gennych chi ddau riant, sydd ill dau'n gweithio mewn rhannau o'r gwasanaeth iechyd, sy'n aros gartref oherwydd eu bod yn ofni bod gan eu plant rai symptomau. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried—. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ddechrau gyda'r staff, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond a allwn ni ystyried cynnwys—. Mae'n sefyllfa annymunol iawn i'r teulu, ond mae'n wastraff ofnadwy ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol pan fo dau weithiwr proffesiynol â chymwysterau uchel yn gorfod aros gartref pan efallai nad oes dim byd o'i le arnyn nhw, nac ar eu teulu.
Gwn y bydd y Gweinidog yn rhannu fy mhryder ynglŷn ag iechyd a lles corfforol, ac iechyd a lles emosiynol pobl sy'n hunanynysu am gyfnodau hir. A'r pwynt penodol yr wyf eisiau ei godi gydag ef—mae fy nghyd-Aelod Leanne Wood wedi gofyn imi sôn am hyn—yw sefyllfa teuluoedd a all fod yn agored i gam-drin domestig. Gwyddom i gyd, er enghraifft, yn anffodus, pan fydd teuluoedd gyda'i gilydd am gyfnodau hir, y gall y sefyllfaoedd hyn waethygu. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog heddiw a wnaiff gynnal rhagor o drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros y materion hyn, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio'n adeiladol gyda'r sector i roi mesurau ar waith. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, gan rai gwirfoddolwyr yn y sector y gallem ni ddefnyddio safleoedd gwely a brecwast gwag, gallem ddefnyddio hosteli gwag ar gyfer llety brys i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Oherwydd mae'n rhaid inni dderbyn—ac rydym ni wedi gweld, ysywaeth, mewn gwledydd eraill fod y sefyllfaoedd hynny wedi cynyddu.
Roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am fferylliaeth gymunedol. Bydd yn ymwybodol bod rhai aelodau staff ar y rheng flaen yn cael profiadau eithaf erchyll, gyda phobl— fel y dywedodd y Prif Weinidog—yn mynd yn ddiamynedd, yn mynd yn ymosodol. Ac mae'n sôn bod angen i ni barchu swyddogaeth y fferyllydd cymunedol yn llawn. Tybed beth fyddai ei farn am—ac mae hwn yn benderfyniad anodd—ond mae fferyllwyr cymunedol wedi dweud wrthyf eu bod yn cael ychydig o drafferth o ran dosbarthu nwyddau, ac os oes gan bobl aelod iach yn y teulu sy'n gallu mynd allan a chasglu, byddent yn falch pe bai pobl yn cael cyngor i wneud hynny. Ond rwy'n deall efallai fod gan y Gweinidog a'r gweddill ohonom ni bryderon ynglŷn â throsglwyddo pellach yn hynny o beth, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod beth fyddai Cyngor y Gweinidog o dan yr amgylchiadau hynny.
Roedd gennyf i rai cwestiynau i'w gofyn am gyfarpar diogelu personol. Mae'r Gweinidog wedi cynnig datganiad ysgrifenedig inni, ac nid wyf eisiau peri oedi i'r Siambr drwy ofyn y rheini yn fanwl, ond rwy'n gobeithio y bydd y datganiad hwnnw'n rhoi sylw i'r materion dosbarthu. Mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud wrthyf fod y cyfarpar diogelu yn cyrraedd Caerdydd ac yn cyrraedd Abertawe, ond nid yw'n mynd i'r ardaloedd gwledig, ac nid yw'n mynd i'r Cymoedd, yn enwedig o ystyried y sector gofal yn hytrach na'r sector iechyd. Gall hyn fod yn achos o bobl yn codi pryderon mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, fel y crybwyllodd y Gweinidog, ac efallai yr ymdriniwyd â hyn eisoes, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gall dawelu ein meddyliau.
Soniodd y Prif Weinidog, wrth ymateb i gwestiynau, am rai o'r sgiliau a fydd gan bobl sydd wedi gweithio ym maes lletygarwch, o ran glanweithdra, darparu bwyd, darparu cymorth sylfaenol. Tybed a yw'r Gweinidog wedi trafod gyda'r byrddau iechyd lleol a chyda darparwyr gofal i weld pa ddefnydd y gallent ei wneud o'r sgiliau hynny, ac yn wir, o ran rhai lleoliadau lletygarwch ar gyfer pobl pan fyddant mewn cyfnod cam-i-lawr, pryd yn y bôn yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yw gofal a chymorth—pryd nad oes angen cymorth meddygol aciwt arnyn nhw. Ac rwy'n ddiolchgar iddo am sôn am Barc y Scarlets. Roeddem yn falch iawn y buont mor barod i weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol a'r awdurdod lleol. Ac mae hefyd yn sôn yn ei ddatganiad am drafodaethau gyda lleoliadau ysbytai preifat. Tybed a allwn ni gael rhywfaint o arweiniad ynghylch pryd y gallai'r rhain gael eu cwblhau, gan fod hon yn amlwg yn sefyllfa ddwys.
Dau bwynt byr i orffen, un y gall y Gweinidog dybio o bosib ei fod braidd yn anghonfensiynol. Mae osteopathiaid wedi cysylltu â mi yn fy rhanbarth, ac mae'n amlwg na fyddant yn rhoi triniaeth i'w cleientiaid preifat. Gwyddom mai triniaeth yw osteopathi. Nid ydym yn ei ddarparu drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae'n driniaeth sydd â sail wyddonol gref. Roedd rhai o'r osteopathiaid hynny yn holi a fyddai'n bosib iddyn nhw wirfoddoli efallai i ddod i'r ysbytai i roi cymorth i staff. Dywedant fod llawer o'u cleientiaid preifat mewn gwirionedd yn staff y GIG sydd â phroblemau o ganlyniad i godi pethau. Felly, hoffwn daflu'r syniad yna i bair y Gweinidog i weld a oes grwpiau eraill o bobl sy'n gweithio mewn meysydd gofal nad ydyn nhw yn y sector cyhoeddus, ond sydd efallai'n meddu ar sgiliau y gallan nhw eu cynnig ar hyn o bryd.
Ac, yn olaf, o ran sefydliadau'r trydydd sector, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod rhai o'n cyrff trydydd sector yn hanfodol, o ran y gofal y maen nhw'n ei ddarparu a'r cyngor a'r cymorth y gallan nhw eu darparu. Bydd wedi gweld yr elusennau canser, er enghraifft, yn dod at ei gilydd. Tybed pa sicrwydd all y Gweinidog ei gynnig i'r sector hwnnw y caiff ei ddyfodol hirdymor ei ddiogelu. Clywais yr hyn a ddywedodd Paul Davies wrth y Prif Weinidog yn gynharach ynglŷn â'r angen i ariannu gwasanaethau rheng flaen ar hyn o bryd, ond wrth gwrs bydd angen y sefydliadau hynny arnom ni pan fydd yr argyfwng hwn ar ben, ac os cawn ein hunain mewn sefyllfa—. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru newid ei blaenoriaethau cyllidebol, ni fyddai neb yn amau hynny am eiliad, ond os cawn ni ein hunain yn y sefyllfa pan ddaw'r cyfnod adfer a ninnau wedi colli rhai o'r sefydliadau allweddol hynny yn y trydydd sector, oherwydd nad yw eu cyllid yn gynaliadwy, rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddem ni wedyn yn gorfod ailadeiladu'r rhwydwaith hwnnw.
Felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn falch iawn o'i weld yma heddiw, ac rwy'n gobeithio y gall ymateb i rai o'r sylwadau penodol yr wyf wedi'u gwneud.
Diolch am y sylwadau a'r dymuniadau da. O ran peiriannau anadlu, mae'r 600 yn cynnwys darpariaeth sydd gennym ni a thua 200 sydd ar eu ffordd. O ran y cwestiwn a fydd y nifer y byddwn yn gallu eu caffael, yn ein barn ni, yn ddigon, wel mae hynny'n dibynnu ar sut fydd yr haint yn datblygu. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn wrth inni geisio bod yn onest gyda'n gilydd nad ydym yn darparu ffigurau i roi rhywfaint o sicrwydd ffug. Rwy'n credu y byddai'n anghywir ceisio pennu amserlen fympwyol ar gyfer diwedd hyn neu osod terfyn uchaf ar nifer y bobl yr effeithir arnyn nhw'n ddifrifol. Bydd angen i ni barhau i ddeall yr her ac i geisio ymateb i'r her sy'n effeithio arnom ni a'r wlad i gyd. Felly, bydd angen i ni gaffael mwy, a byddwn ni'n gwybod beth sy'n ddigon wrth i ni agosáu at y digwyddiad. Ond ni ddylai unrhyw Aelod yma nac unrhyw aelod o'r cyhoedd gamddeall a chredu bod yna unrhyw beth heblaw ymdrech sylweddol rhwng y pedair Llywodraeth i wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi cael y cyfarpar priodol i ymdrin â'r her.
O ran dyblu gwelyau gofal critigol, fy nealltwriaeth i yw y bydd y gwaith i wneud hynny'n cael ei wneud ar unwaith. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau wedi gweld, er enghraifft, yr eitem ragorol a wnaeth Channel 4 News ar y gwaith ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddangos y gwaith y maen nhw wedi'i wneud eisoes i ddyblu eu cyfleusterau gofal critigol ar sawl un o'u safleoedd, a dyna'r gwaith yr oedden nhw'n gallu ei wneud gan fod yr holl driniaethau dewisol wedi eu gohirio. A phe byddem ni wedi cael wythnos arall o driniaethau dewisol, ni fyddai wedi bod yn fater o bobl yn dod i mewn yr wythnos honno yn unig, ond y ffaith bod pobl mewn gwelyau mewn ysbyty yn gwella am gyfnod wedyn mewn nifer o achosion, ac ni fyddai ein staff wedi gallu gwneud y gwaith paratoi hwnnw. Felly, rwy'n falch bod y cam i ohirio'r triniaethau hynny wedi golygu ein bod bellach wedi paratoi'n well o lawer ar gyfer yr hyn yr ydym yn gwybod sydd ar y gorwel.
Ac o ran gwybod beth sydd ar y gorwel, rwy'n cydnabod eu bod yn gwestiynau cwbl ddilys gan Aelodau o bob plaid i'w holi, oherwydd mae Aelodau Llafur yn y fan yma ac eraill sydd wedi holi ynghylch y gwahaniaeth rhwng y prif gyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch profion a beth yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yma. Ac mae'r cyngor yr ydym yn ei gael yn uniongyrchol gan ein prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd a chan ein prif swyddog meddygol, sy'n gweithio gyda'i gydweithwyr yn nhair cenedl arall y DU, yn ymwneud â'r ffordd yr ydym yn defnyddio'r adnodd sydd gennym ni ar hyn o bryd. Oherwydd pe bawn i'n dweud mai ein huchelgais yw darparu profion cymunedol ar raddfa eang nawr, mewn gwirionedd nid oes gennym ni'r gallu i wneud hynny, a phe bawn yn ceisio gosod amcan cwbl amhosib, ni fyddem yn defnyddio'r adnodd sydd gennym mewn ffordd synhwyrol nac effeithiol, a dyna pam fod y profion yn cael eu targedu fel y maen nhw. Ond dyna pam, fel y dywedais, o'r penwythnos ymlaen, wrth i ni ehangu ein gallu i brofi, y byddwn yn gallu profi mwy o grwpiau o bobl a byddwn yn gallu profi grŵp llawer ehangach o bobl wedi hynny.
Felly, mae'r profion yn offeryn i'n helpu ni i ddeall beth sy'n digwydd o ran yr achosion. Mae hefyd yn offeryn i'n helpu i drin pobl ac yn hollbwysig i gael staff yn ôl i'r gwaith, gan fod eich sylw am deuluoedd a phrofion yn bwysig, oherwydd y nod o gael y staff hynny yn y grwpiau hynny yw er mwyn eu rhyddhau i ddychwelyd i'r gwaith, ac mae hynny'n sicr o olygu bod yn rhaid i chi brofi digon o bobl o fewn yr uned deuluol i wneud yn siŵr y gallwch chi gael y sicrwydd hwnnw er mwyn iddyn nhw ddychwelyd. Ond, wrth gwrs, nid profi yw'r unig fater. Ni fyddem ni yma heddiw yn y ffurf hon sydd wedi ei chwtogi'n sylweddol, gyda nid yn unig y canllawiau, ond y gofynion am gadw pellter cymdeithasol, pe baem ni'n credu mai profi oedd yr unig fesur. Ni fyddem yn sôn am beiriannau anadlu ac am gyfarpar diogelu personol. Felly, mae ynglŷn ag ystod eang o fesurau gwahanol y mae'n rhaid i ni eu defnyddio. Byddwn wrth fy modd petai un ateb i ddatrys hyn, ond nid oes un ateb yn unig.
Ac o ran trais a cham-drin domestig, rwy'n cydnabod y pryder y mae'r Aelod wedi sôn amdano. Maen nhw wedi bod yn nodweddion rheolaidd yn ein sgyrsiau yng nghyfarfodydd y Llywodraeth, i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu dal mewn perthynas dreisgar, mewn cartref treisgar, ac i sicrhau fod pobl yn cael eu cefnogi o hyd.
O ran fferylliaeth gymunedol, rwyf wedi cyhoeddi ystod o fesurau i geisio cefnogi fferyllfeydd cymunedol, y newidiadau i oriau a gyhoeddais ar y penwythnos, y sylwadau yr wyf wedi'u gwneud am gyflenwi cyfarpar diogelu personol hefyd, ond hefyd y sylw y byddaf yn ei ailadrodd eto yn ddiweddarach heddiw, os yw pobl yn gofyn am gael eu meddyginiaeth oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw hunanynysu, i'r rhan fwyaf o bobl mae'n bosib i unigolyn y gellir ymddiried ynddo ymgymryd â'r gwaith hwnnw ar eu rhan—nid yw'n golygu bod angen iddo fynd i'r cartref i wneud hynny. Er enghraifft, es i i siopa dros fy mam ar y penwythnos. Gwelais hi ar Sul y Mamau, ond gwelais hi ar ôl imi adael ei siopa wrth ei drws cefn a siaradais â hi drwy ffenest y gegin a oedd wedi cau. Nawr, dydw i ddim yn sant—mae fy chwaer-yng-nghyfraith yn siopa dros fy mam fel arfer—ond mae modd mynd a gwneud pethau sy'n golygu nad oes angen i'r unigolyn hwnnw fynd allan, ac, yn yr un modd, nad oes rhaid i chi alw ar wasanaethau danfon nwyddau. Yn achos rhai pobl, fodd bynnag, ni fydd ganddyn nhw bobl yn y sefyllfa honno ac wedyn bydd angen iddyn nhw ddibynnu ar wasanaeth cyflenwi gan fferyllfa gymunedol. Felly, mae ein gwasanaethau cymunedol yn wynebu heriau sylweddol, felly hefyd ein rhwydwaith fferylliaeth gymunedol.
O ran cyfarpar diogelu personol mewn lleoliadau gofal, hoffwn ddweud fy mod wedi cynnwys ychydig o hyn yn fy natganiad, a bydd mwy heddiw, ond mae'n bwysig iawn, yn y cyfnod anodd a wynebwn, na fyddwn yn credu bod rhywbeth yn well mewn rhan arall o'r wlad, oherwydd eu bod nhw yn ei gael yn gyntaf ac ni ddylen nhw ei gael. Rwyf wedi siarad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac â'u prif lefarwyr ar ofal cymdeithasol, a holl aelodau'r cabinet gofal cymdeithasol pan ddechreuodd y sefyllfa hon. A phan siaradais â nhw ar ddechrau'r wythnos hon, roedden nhw'n pryderu am roi cyfarpar diogelu personol i'r maes gofal cymdeithasol, ac roedd hynny ar draws y wlad i gyd. Nid oedd fel petai Caerdydd yn meddwl bod popeth yn fendigedig, diolch yn fawr—roedd pob un ohonyn nhw yn awyddus i sicrhau bod nwyddau ar eu ffordd ac yn cael eu darparu. Felly, nid oes un rhan o'r wlad yn cael mantais gan achosi anfantais i ran arall, a gobeithio, erbyn diwedd heddiw, y bydd cyflenwadau digonol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.
Ac o ran y cytundeb sector preifat, y 350 o welyau ychwanegol, deallaf fod hynny ar fin digwydd, ac wedyn dylai fod yn bosib defnyddio'r capasiti hwnnw. Dydw i ddim yn siŵr ynghylch sefyllfa gwasanaethau osteopathi. Rwy'n siŵr y bydd gan y prif swyddog meddygol farn, a chyfarwyddwyr meddygol hefyd ynghylch pa mor ddefnyddiol fydd hynny i'n staff.
Ac o ran y trydydd sector—nid yn unig yn y dyfodol, ond mae'r trydydd sector yn wirioneddol bwysig i ni nawr. Mae'r gwaith yr ydym yn gorfod ei wneud i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn golygu bod angen i awdurdodau lleol a'r trydydd sector gydweithio. Mae'r rhwydweithiau o wirfoddolwyr y maen nhw'n helpu i'w cydlynu yn hynod o bwysig i gefnogi'n ymarferol niferoedd mawr iawn o bobl yr ydym ni wedi eu cynghori i ynysu, ac mae hynny'n anodd. Felly, byddan nhw'n bwysig yn y dyfodol, byddant, ond mewn gwirionedd maen nhw'n hanfodol bwysig yn ein hymdrech i frwydro yn erbyn COVID-19 nawr.
Y peth cyntaf, fel llawer un arall yma, yr wyf eisiau ei wneud heddiw yw diolch i'r holl staff sy'n parhau i fynd i'w gwaith ledled y GIG, ar draws y sector gofal ac ar draws yr asiantaethau cyflenwi i gael pethau i'r lle y mae eu hangen arnom ni a phan mae eu hangen arnom ni ar yr adeg dyngedfennol hon. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y bobl hynny'n deall, os nad ydyn nhw'n deall yn barod, ein bod i gyd yn eu gwerthfawrogi hefyd. Yn sgil darparu gwybodaeth a nwyddau, rwyf am ddechrau gofyn rhai o'm cwestiynau.
Y cwestiwn cyntaf, mae'n debyg, y gofynnir i'r rhan fwyaf ohonom ni yn aml yw ble i fynd i gael cyngor da. Rydym ni wedi gweld digon o arbenigwyr yn ymddangos ar y rhyngrwyd yn dweud pethau sy'n eithaf peryglus, a dweud y gwir, gan fod y cyngor yn sylfaenol anghywir ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag ailadrodd ble i fynd am gyngor da—cyngor dibynadwy—a sicrhau ei fod ar gael.
O ran cyflenwadau, unwaith eto, os ceisiwch chi brynu rhywbeth syml fel paracetamol, sef yr hyn a wnes i ddoe, efallai y gofynnir i chi dalu £3 amdano. Nid yw hynny'n dderbyniol mewn gwirionedd. Ac, unwaith eto, mae'n ymwneud â chael y cyflenwadau hynny y bydd ar bobl eu hangen ar gyfer eu gofal meddygol o ddydd i ddydd i'r fferyllfeydd cymunedol hynny y bydd pob un ohonom ni yn dibynnu arnynt, ond hefyd gofyn i archfarchnadoedd sy'n cyflenwi i gyfyngu ar y cyflenwad, rhywbeth y mae rhai ohonyn nhw yn ei wneud, cyfyngu ar beth y mae pobl yn ei brynu.
Rwyf hefyd wedi cael gwybodaeth, ac mae'n eithaf amlwg os ydych chi'n edrych ar archfarchnadoedd, am fformiwla babanod yn diflannu oddi ar y silffoedd. Mae hyn yn ddifrifol. Mae angen bwydo babanod, ac eto rwyf wedi clywed straeon am bobl yn prynu llaeth fformiwla fel modd o roi llaeth sych yn eu te a'u coffi. Mae hynny'n sefyllfa echrydus. Felly, unwaith eto, mae'n apêl, mewn gwirionedd, i bobl ystyried bod y geiriau 'fformiwla' a 'babanod' yn mynd gyda'i gilydd am reswm da iawn, iawn.
Byddwn i'n gofyn, unwaith eto, am daliadau cyfleustodau. Rwy'n gwybod y gall ymddangos yn rhyfedd fy mod i yn gofyn i chi, ond os na all pobl fwydo eu hunain ac os na allan nhw gadw eu hunain yn gynnes, byddant yn mynd yn eithaf sâl yn fuan. Rhai o'r bobl hynny sydd â mesuryddion talu o flaen llaw sydd fwyaf agored i niwed yn yr achos cyntaf. A gofynnaf eto—er fy mod yn sôn am bobl yn cael y tanwydd iawn—yn fy ardal i yn arbennig, mae llawer o bobl nad oes ganddyn nhw gyflenwad nwy, maen nhw'n dibynnu ar gyflenwadau olew, maen nhw'n dibynnu ar nwy petrolewm hylifedig. Mae'n ddrutach. Mae'r bobl hynny'n tueddu i fod yn fwy ynysig oherwydd lle maen nhw'n byw ac maen nhw'n tueddu i fod yn fwy oedrannus mewn rhai achosion. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau i helpu gyda'r cyflenwadau hynny, ond os cymerwn ni olew, er enghraifft, mae'n rhaid i chi brynu hwnnw mewn swmp yn gyffredinol, ac mae hynny'n gost enfawr i bobl ar adeg pan fydd eu harian yn mynd yn brin iawn. Felly, unwaith eto, mae'n ymwneud â sicrhau fod teuluoedd yn gallu byw'n effeithiol drwy gynhesu eu cartrefi a bwydo eu hunain hefyd.
Rhaid imi holi ynglŷn â gweithio ym maes iechyd trawsffiniol, yn enwedig ym Mhowys. Rwy'n gwybod y bydd eraill yn holi am feysydd eraill. Yn sicr, hoffwn gael diweddariad—mae llawer o bobl sy'n byw yn ardal Powys wedi cysylltu â mi—ynghylch sut y mae hynny'n gweithio iddyn nhw a pha mor ffyddiog ydym ni y bydd y bobl hynny ym Mhowys y mae angen gofal iechyd arnyn nhw yn gallu cael gafael arno.
Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged ichi am eich diweddariadau dyddiol. Maen nhw wedi bod yn glir. Ond rwyf hefyd eisiau diolch i bobl am eu cydweithrediad, oherwydd os na chawn y mwyafrif helaeth o bobl yn cydweithredu â'r cyfyngiadau llym hynny yr ydym yn gofyn iddyn nhw eu gosod arnyn nhw eu hunain, ni fyddwn, a bod yn onest, byth yn gallu ymdopi â'r feirws hwn. Nid wyf ond yn gobeithio y bydd pobl yn parhau felly, oherwydd fel y dywedodd rhywun gynnau, nid gwyliau mo hyn. Mae'n debyg bod hwn yn gyfnod lle bydd y rhai ohonom ni sy'n dod drwyddo—a gobeithio daw pob un ohonom ni drwyddo—yn edrych yn ôl ac yn rhyfeddu at y cyfnod hwn ac at ymddygiad pobl hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau cyson. Unwaith eto, hoffwn ailadrodd pwynt Joyce am ein staff ac, wrth gwrs, mae gan Joyce Watson aelodau yn ei theulu ei hun sy'n darparu gwasanaeth iechyd a gofal, a byddant yn deall yr ymroddiad y mae angen iddynt ei ddarparu a'r ffaith bod ein staff yn gwybod eu bod yn rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus. Maen nhw'n gwybod, wrth drin pobl sy'n sâl gyda chyflwr sy'n lledaenu'n weddol gyflym drwy boblogaeth y DU, fod her wirioneddol yn eu hwynebu hwythau hefyd. Maen nhw'n parhau i wneud hynny, ond yn ddealladwy maen nhw eisiau'r offer er mwyn gwneud eu gwaith, ac maen nhw eisiau cefnogaeth y cyhoedd er mwyn iddyn nhw allu gwneud eu gwaith hefyd.
Mae eich sylw ynglŷn â chael gwybodaeth o ffynonellau priodol yn bwysig, fel nad yw pobl yn rhoi baich diangen ar ein gwasanaethau iechyd a gofal gan eu bod yn poeni neu'n gwneud pethau amhriodol oherwydd y buont yn edrych ar rannau rhyfedd o'r rhyngrwyd neu faterion sy'n deillio o'r cyfryngau cymdeithasol. Felly, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, datganiadau gan y Prif Swyddog Meddygol—maen nhw'n ffynonellau o gyngor y gellir ymddiried ynddynt er mwyn i bobl ddysgu am beth sy'n digwydd yng Nghymru ac i ble i fynd i gael cyngor a chymorth.
Pan ddaw'n fater o gydlynu cymorth lleol, bydd awdurdodau lleol yn gweithredu fel canolwyr gyda swyddogaeth gydgysylltu i sicrhau fod cymorth a chyngor yn cael eu rhoi, a byddant, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r trydydd sector. Fel yr wyf wedi dweud ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym yn cael sgyrsiau gyda'r fyddin ynghylch y cymorth posib y gallan nhw ei ddarparu yn yr ymdrech, gan fod nifer sylweddol o bobl agored i niwed yng Nghymru y bydd angen eu cefnogi.
O ran eich sylw am orelwa, mae'n sylw da. P'un a yw'n paracetamol, Calpol neu nwyddau arferol eraill, mae'n warthus gweld rhai pobl yn cymryd mantais fasnachol sylweddol, yn aml o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed drwy godi prisiau'n sylweddol pan nad oes problem cyflenwi, dim ond cyfle masnachol. Yn union fel y digwyddodd heddiw, rhoddwyd Sports Direct yn ei le yn gyflym, mae'n bwysig bod pobl eraill yn rhoi gwybod am ymddygiad o'r fath. Credaf y dylai pobl sy'n gwneud hynny nawr i wneud elw cyflym ystyried y ffaith bod cof da iawn gan y rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd pan ddaw'n fater o fanteisio arnyn nhw mewn ffordd mor dryloyw.
O ran eich sylw am gyfyngiadau ar nwyddau, ac mae'r sylw a wnewch chi am fwyd babanod yn un priodol iawn, nid oes angen o gwbl ichi gronni cyflenwad chwe mis, a beth y mae hynny'n ei wneud i bobl sy'n dibynnu ar y cynnyrch hwnnw, ac nad oes ganddyn nhw'r modd i fynd allan a phrynu swmp enfawr ymlaen llaw—. Mae archfarchnadoedd eu hunain eisoes yn mynd ati'n wirfoddol i gyfyngu ar gyflenwi a gwerthu amrywiaeth o eitemau. Un o'r pethau y mae llywodraethau ledled y DU wedi cytuno arno yw llacio rhai o'r rheolau cystadlu arferol sy'n rhwystro archfarchnadoedd rhag siarad â'i gilydd i gytuno ar beth i'w wneud. Mae amrywiaeth o feysydd lle, mewn gwirionedd, mae'n synhwyrol i'r archfarchnadoedd gydlynu'r hyn y maen nhw'n ei wneud, ac, mewn gwirionedd, rydym yn chwilio am safbwynt mwy cyson o ran y cyfyngiad gwirfoddol a gaiff ei blismona gan archfarchnadoedd ar nifer o eitemau, ond os na ddigwydd hyn, fel awgrymodd y Prif Weinidog, efallai y bydd yn rhaid inni ymyrryd a defnyddio pwerau y credwn sydd gennym ar gael i ni. Ond byddai'n well o lawer gennyf weld dull o reoli nad yw'n golygu rhagor o gamau cyfreithiol gan y Llywodraeth ac, yn yr un modd, byddai'n well o lawer gennyf weld lefel o ymddygiad a chydweithrediad cyhoeddus sy'n golygu nad oes angen gweithredu o gwbl.
O ran taliadau cyfleustodau, mae hynny'n sylw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ac yn ymwybodol iawn ohono o ran sut y mae cwmnïau cyfleustodau yn ymddwyn. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai mwy yn ymddwyn mewn ffordd gymharol dda. Mae eich sylw ynglŷn â phobl nad ydyn nhw ar y grid ar gyfer tanwydd a phŵer yn un y byddaf yn ei godi gyda chyd-Weinidogion, ond gwn ei fod yn fater gwirioneddol ac yn union fel yr ydych yn ei ddisgrifio. Yn aml, mae'r rhain yn bobl sy'n fwy ynysig yn gorfforol ac yn aml, ond nid bob amser, yn bobl hŷn, o bosib mewn categorïau mewn perygl hefyd.
O ran gofal ac iechyd trawsffiniol, dylai'r trefniant arferol fod yn berthnasol. Felly, os yw eich gofal iechyd eilaidd arferol dros y ffin yn Lloegr, yna dyna lle y dylai eich darpariaeth fod, os oes angen gofal dwys arnoch chi, er enghraifft, yn union fel petai'r trefniant fel arall. Nid yw'n fuddiol i neb gael naill ai ymagwedd 'dim ond i Gymru', neu yn wir ymagwedd 'dim ond i Loegr' lle caiff trefniadau trawsffiniol eu terfynu'n fwriadol mewn ffordd nad yw'n ymwneud â darparu'r math cywir o wasanaeth y dylai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mhob un o'r pedair cenedl ei ddarparu ar gyfer pobl sydd ag angen gwirioneddol.
O ran eich sylw am gydweithrediad y cyhoedd, cytunaf fod hynny'n allweddol, gan nad ydym ond wedi cymryd y camau sylweddol a wnaethom o fewn y 24 awr diwethaf gan fod y rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd yn cydweithredu wrth ddilyn y cyngor a'r arweiniad, ond nid digon ohonyn nhw. Felly, rydym ni wedi gorfod ymyrryd a chymryd camau eithriadol a gaiff eu hategu gan bwerau'r heddlu o fewn yr wythnos hon, ac mae mesurau eraill y gallem eu cymryd, ond byddai'n well o lawer gennyf fod mewn sefyllfa lle nad oes angen i lywodraethau gymryd mwy o gamau cyfreithiol cyfyngol a bod y cyhoedd yn deall y bydd eu hymddygiad yn allweddol i'r ffordd y mae'r coronafeirws yn lledaenu ac yn cael ei atal yn y pen draw, ac, yn y pen draw hefyd, nad ydynt yn gwneud hynny i wneud bywyd y Llywodraeth yn haws, maen nhw'n ei wneud er eu lles eu hunain a lles eu cymunedau eu hunain, a'r bobl hynny y mae'n debyg na fyddan nhw byth yn eu cyfarfod fel arall.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, ac mae'n dda eich gweld yn ôl yma gyda ni a chlywed bod eich teulu'n ddiogel ac yn iach. Hefyd, unwaith eto, ar ran fy mhlaid a minnau, rwy'n cydymdeimlo â phawb sydd wedi colli anwyliaid oherwydd y clefyd hwn.
Hoffwn ddiolch i'n staff gwych yn y GIG a phawb sy'n ymwneud â'r gwaith ac yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd ofnadwy hwn. Rhaid i ni fel unigolion wneud popeth a allwn ni, oherwydd mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn hyn. Gweinidog, mae gennych fy nghefnogaeth barhaus i a'm plaid yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae gennyf ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn.
Rwyf wedi gweld adroddiadau bod meddygon teulu locwm yn gwrthod sifftiau oherwydd diffyg yswiriant salwch a thaliad hefyd os ydych yn marw wrth eich swydd. Dywedodd tua hanner y meddygon locwm a ymatebodd i arolwg Cymdeithas Genedlaethol y Meddygon Teulu Sesiynol eu bod yn cyfyngu ar bryd y byddent ar gael yn ystod y pandemig presennol; mae tri chwarter y rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn y categori mewn perygl oherwydd eu bod naill ai dros 70 neu wedi bod â chyflyrau iechyd sylfaenol eu hunain. Gweinidog, mae'r pandemig presennol yn golygu bod staff locwm yn bwysicach nag erioed. Nid yw problemau iechyd eraill yn diflannu oherwydd ein bod ni'n ymdrin ag achosion o feirws marwol. Pa sicrwydd gall Llywodraeth Cymru ei roi i feddygon teulu locwm, ac i bob meddyg teulu sy'n gweithio yng Nghymru, mewn gwirionedd, y byddant yn derbyn gofal yn ystod yr argyfwng hwn, ac a wnewch chi sicrhau bod meddygon teulu yn cael tâl a thaliad hefyd os ydynt yn marw wrth eu swydd?
Gweinidog, mae dros hanner yr achosion o'r coronafeirws yng Nghymru wedi bod ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. A yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi edrych ar y rhesymau pam fod gan y bwrdd iechyd hwn lawer mwy o achosion nag unrhyw fwrdd iechyd lleol arall? Pa fesurau ychwanegol sy'n cael eu darparu i'r bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol yn y rhanbarth i ymdopi â llwyth achosion bron i deirgwaith yn uwch na'r bwrdd iechyd lleol uchaf nesaf, ac 14 gwaith yn uwch na'r bwrdd iechyd sydd â'r boblogaeth fwyaf, sef Betsi Cadwaladr?
Roeddwn hefyd yn bryderus o gael e-bost y bore yma oddi wrth swyddog carchar yn y sector cyhoeddus, yr honnir iddo gael gwybod, er iddo gael llawdriniaeth ddargyfeiriol bedwarplyg ar y galon a'i fod yn dioddef o ddiabetes, nad yw yn y categori agored i niwed, a'u bod hefyd yn benderfynol o gadw'r gampfa ar agor yn y carchar. Tybed a allem ni roi canllawiau cryfach os bydd angen, i'r gwasanaeth carchardai, a darparu hefyd, mewn unrhyw fodd y gallwn ni, drwy'r fyddin efallai, gymorth i sicrhau bod y carchardai yn gynaliadwy.
Gweinidog, diolch byth, bod mwyafrif helaeth o'r rhai dros 70 yn dilyn cyngor y Llywodraeth ac yn ynysu eu hunain yn gymdeithasol. Fodd bynnag, mae llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i adael diogelwch y cartref i dalu biliau, gan nad oes ganddynt gyfrifon banc traddodiadol neu wasanaeth bancio ar-lein. Gan mai'r grŵp oedran hwn yw'r categori sy'n wynebu'r risg fwyaf, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chyd-Aelodau, gyda Llywodraethau Cymru a'r DU, ynghylch ffyrdd o sicrhau bod ein hetholwyr mwyaf agored i niwed yn gallu goroesi'r pandemig hwn yn niogelwch eu cartrefi?
Croesawaf yr hyn y mae Cyngor Caerdydd yn ei wneud i agor cyfleusterau parcio am ddim i feddygon a nyrsys sy'n gweithio yn y Bwrdd Iechyd. Gweinidog, a yw eich Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru i sicrhau bod digon o leoedd parcio am ddim i staff y GIG yn ystod y pandemig hwn? Ymelwa, unwaith eto—fel y soniodd Joyce Watson yn gynharach—ar nwyddau: a yw hynny'n fater i'r adran safonau masnach, Gweinidog? Oherwydd mae ymelwa drwy godi prisiau ar yr adeg hon yn dro sâl iawn.
Yn olaf, Gweinidog, mynegwyd nifer o bryderon wrthyf ynghylch pa mor anodd yw hi i'r sector gofal cymdeithasol gael gafael ar nwyddau—pryderon nid yn unig am gyfarpar diogelu personol, sydd, gobeithio, yn cael eu datrys, ond hefyd am brinder eitemau hanfodol eraill, fel padiau anymataliaeth. Gweinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan gartrefi gofal ledled Cymru stoc ddigonol o eitemau hanfodol?
Gweinidog, hoffwn ddiolch ar goedd i'ch swyddogion sy'n gweithio nos a dydd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhedeg yn esmwyth. Mae'n gyfnod heriol i bob un ohonom ni, ond rwy'n sicr y byddwn yn goroesi ac yn gryfach o'i herwydd. Ond nawr mae'n amser i fyfyrio, i helpu eraill yn y ffyrdd cyfyngedig y gallwn ni. Nid yw'n amser i hunanoldeb a thrachwant, ond yn amser i ddeall anghenion pobl eraill, ac i geisio, os gallwn, i wneud y baich yn llai i'r rhai sy'n llai ffodus na ni. Cadwch yn ddiogel, bawb. Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran eich sylwadau agoriadol ynghylch nid yn unig staff locwm, ond yn fwy cyffredinol, o ran y rhai sydd efallai mewn categorïau mewn perygl, roedd yn un o bryderon Cymdeithas Feddygol Prydain ynghylch gofyn i bobl ddychwelyd i'r maes: efallai eu bod yn bobl yn y categorïau mewn perygl mwyaf, naill ai oherwydd oedran neu gyflwr iechyd sylfaenol. Ond efallai y byddant yn gallu ymgymryd ag amrywiaeth o waith o bell. Dyna pam y penderfynais gyflwyno'r cyfle i gynnal ymgynghoriadau fideo—nid oes angen iddyn nhw fod mewn cysylltiad wyneb yn wyneb, ond gallant barhau i ddarparu cyngor o bell. Felly, mae'n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym ni o ran y bobl ym mhob rhan o'r system. Byddwch yn sylwi bod y Bil hefyd yn rhoi estyniad i'r ddarpariaeth ar gyfer indemniad er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i'r gwaith heb boeni am y risg iddyn nhw os aiff pethau o chwith.
O ran eich pwynt am farwolaeth yn y gwaith—credaf fod hwn yn bwynt arbenigol penodol, mwy gweithredol nag y byddwn yn ei ddisgwyl, ond fy nealltwriaeth i, fy atgof fy hun, yw ei fod, yn gyffredinol, yn tueddu i fod yn fudd o gynllun pensiwn, ac mae staff locwm yn dewis peidio â bod yn rhan o'r cynllun pensiwn. Felly, ni fyddwn i eisiau ceisio rhoi ateb i hynny. Byddai'n rhaid i mi fynd i ofyn am gyngor ynghylch hynny, pa fath o rwystr yw hynny, a pha un a oes pethau eraill y gallem eu gwneud mewn gwirionedd i annog mwy o feddygon locwm i barhau i ymarfer mewn ffordd sy'n ddiogel iddyn nhw ac i gleifion.
O ran Gwent, nid wyf yn disgwyl i'r sefyllfa bresennol sydd yn dangos bod mwy o achosion yng Ngwent fod y sefyllfa derfynol. Rwyf yn credu, pan edrychwch chi ar y ffaith bod clefyd y coronafeirws yn cylchredeg yn y gymuned mewn rhannau sylweddol o Gymru, fe welwch chi fod ffigurau mewn rhannau eraill o Gymru, ac yn wir mewn rhannau eraill o'r DU, yn dal i gynyddu.
Er hynny, rwy'n pryderu am effaith bosibl y coronafeirws ar ein cymunedau lleiaf cefnog. Mae Cymru, fel cenedl, o'i chymharu â Lloegr, o safbwynt iechyd, yn hŷn, yn dlotach ac yn salach. Felly, mae'r risg yn un amlwg. Nawr, bydd hynny'n amlygu ei hun mewn gwahanol rannau o Gymru yn wahanol, yn union fel y gwnaiff yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw gymunedau sy'n debyg iawn i'r rhai sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Felly, mae hynny'n bryder gwirioneddol, ond nid wyf yn credu y bydd y ganran yr ydym yn ei gweld ar hyn o bryd mewn cysylltiad â Gwent a gweddill y wlad yn aros fel y mae yn awr. Ein tasg yw gwneud yn siŵr bod pob rhan o'r wlad yn cael ei chefnogi'n briodol, ac nid ydym ni eisiau gweld unrhyw un rhan yn cael ei llethu o gwbl.
O ran eich sylwadau am garchardai, fel y gwyddoch, nid yw carchardai wedi'u datganoli, ac nid wyf mewn sefyllfa i ddechrau ymgymryd â chyfrifoldebau newydd ar hyn o bryd i geisio ymdrin â materion mewn carchardai. Ond un sylw yr wyf wedi ei wneud yng nghyfarfodydd rheolaidd COBRA yr wyf wedi bod yn eu mynychu gyda'r Prif Weinidog, ac yn wir mewn is-grwpiau COBRA, yw'r sylw bod llawer o'r swyddogaethau sydd heb eu datganoli yn cael effaith uniongyrchol. Er enghraifft, pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu ymgymryd â rhaglen rhyddhau yn gynnar, i leihau'r pwysau sydd ar garcharorion sydd mewn categorïau risg isel, wel mae gan nifer o'r carcharorion hynny gyflyrau iechyd sylfaenol sylweddol, ac mae'n ddigon posib y gallent fod y bobl a fyddai'n agored i niwed yn awtomatig ac y byddai angen cefnogaeth sylweddol arnyn nhw. Byddai angen inni wybod hynny ymlaen llaw er mwyn rhoi iddyn nhw y gefnogaeth y byddai ei hangen arnyn nhw. Mae gennym ni hefyd, ym Mrynbuga, nifer o garcharorion hŷn beth bynnag, a bydd rhai o'r rheini yn ddigon hen i fod yn y categori mewn perygl gan eu bod dros 70. Felly, mae unrhyw ddewisiadau a wneir ynghylch y carchardai, o ran dewisiadau ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda charchardai sy'n rhyddhau'n gynnar neu fel arall, yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau datganoledig.
Ac, o ran eich sylw am y rhai dros 70, mae'r cymorth hwnnw'n cael ei gydlynu a'i arwain, fel y dywedais, gan lywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hefyd y Cynghorydd Huw David, y prif lefarydd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw wedi bod yn agored ac yn barod i helpu a chefnogi, ac felly hefyd eu cydweithwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol o fewn llywodraeth leol.
Mae angen i ni ailadrodd yr esiampl—y rheswm pam ein bod ni'n gofyn i bobl aros gartref yw i helpu i'w hamddiffyn nhw. Felly, nid yw oherwydd ein bod yn credu bod gan bobl dros 70 y clefyd coronafeirws a'u bod yn ei roi i bobl eraill—ond mewn gwirionedd oherwydd eu bod yn fwy agored i niwed ac yn fwy tebygol o ddioddef niwed gwirioneddol. Dyna pam ein bod ni wedi rhoi'r cyngor hwnnw, ac mae'r Llywodraeth yn arwain drwy esiampl—nid ein bod ni i gyd dim ond wedi cytuno fel Senedd gyfan i gael sesiwn lai heddiw, ond byddwch yn gwybod, ar ôl i'r cyngor hwnnw gael ei roi, bod aelodau o'r Llywodraeth sydd yn y categori hwnnw wedi gweithio o gartref ers hynny. Nid ydych chi wedi eu gweld yn y Siambr, nid ydynt yn dod i mewn i adeiladau Llywodraeth Cymru i weithio, mae'n rhaid iddyn nhw weithio o bell, ac mae'n bwysig iawn nad ydym ni ddim ond yn gofyn i bobl eraill ddilyn yr esiampl honno, ond ein bod yn ei dilyn ein hunain hefyd.
O ran parcio am ddim, rydym, wrth gwrs, yn ffodus o gael parcio am ddim ar draws ein hystadau ysbytai yma yng Nghymru, ond rwy'n falch bod Cyngor Caerdydd wedi sicrhau bod lleoedd parcio ychwanegol ar gael i staff y GIG er mwyn iddyn nhw allu cyrraedd y gwaith, a bod y gwasanaeth parcio a theithio arferol, trefniadau a allai fod wedi eu hatal rhag cyrraedd y gwaith mor brydlon â phosib wedi cael eu newid yn benodol ar gyfer gweithwyr y GIG, ond, wrth gwrs, mae'n ffaith, gan fod llai o bobl yn symud o gwmpas, fod llifoedd traffig yn wahanol iawn ac yn llawer cyflymach, fel y canfûm ar sawl achlysur yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.
Ac, o ran eich sylw am gyflenwadau cartrefi gofal, ceir sgwrs reolaidd rhwng swyddogion a llywodraeth leol a hefyd sefydliad mwyaf darparwyr y sector annibynnol ynglŷn â sut y mae stociau'n cael eu caffael a beth y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw, felly rwy'n ffyddiog bod perthynas adeiladol yn bodoli a bod trefniadau i bobl godi pryderon os oes ganddyn nhw rai.
Diolch. Yn olaf, Mick Antoniw.
Gweinidog, yn gyntaf, diolch i chi am yr holl atebion manwl a'r holl nodiadau cyngor rheolaidd ac ati, sydd o gymorth sylweddol i bob un ohonom ni, fe gredaf, sy'n ateb llawer, llawer o gwestiynau gan aelodau'r gymuned ar yr adeg arbennig o anodd hon. Ac mae'n gyfnod anodd a phryderus iawn, felly hoffwn ganmol ar goedd, rwy'n credu, y staff yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd, drwy gydol y cyfnod hwn, drwy gerddoriaeth a dawns, wedi cynhyrchu fideos, sydd wedi lledaenu fel tân gwyllt, bron, yn cyfleu negeseuon diogelwch. Nid yn unig y mae'n codi morâl y staff yn yr ysbyty, ond hefyd credaf mai dyma'r ffordd fwyaf rhagorol o gyfleu'r negeseuon diogelwch hynny, ac, os nad yw pobl wedi eu gweld, credaf y dylen nhw efallai gael golwg arnyn nhw a'u rhannu, oherwydd eu bod yn wirioneddol drawiadol—ac mae'n drawiadol bod y staff wedi llwyddo i roi o'u hamser eu hunain yn yr ysbytai i gynhyrchu'r rhain ac i esbonio i'r cyhoedd beth y maen nhw'n ei wneud.
A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau byr? Yn gyntaf—ac mae'n ymwneud â phrofi, oherwydd rwyf wedi cael meddygon teulu yn ardal Cwm Taf yn codi'r mater ynghylch aelodau o'r teulu â pheswch ac ati, sydd wedi golygu bod rhai staff allweddol yn gorfod aros adref, ac y bu anawsterau o ran gallu manteisio ar y gwasanaeth profi, nid oedd rhif y llinell gymorth ar gael ac ati. Tybed pa fonitro sy'n digwydd i sicrhau bod y problemau penodol hynny bellach wedi'u datrys, oherwydd gallant arwain at oedi sylweddol o ran dychwelyd i'r gwaith ymhlith staff meddygol allweddol.
Ac mae'r ail bwynt yn ymwneud â gwirfoddoli. Fel y gwelsom ni adeg y llifogydd, yn sicr yn ardal Rhondda Cynon Taf, daeth llawer, llawer o bobl ymlaen i helpu eu cymdogion a'u cyd-ddyn, a'r hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn nawr, fe gredaf, yw bod gennym ni lawer o bobl yn dod ymlaen i wirfoddoli. Mae Rhondda Cynon Taf, wrth gwrs, wedi sefydlu system ar gyfer cofrestru gwirfoddolwyr, oherwydd gall gwirfoddoli ynddo'i hun fod yn beryg oherwydd natur y coronafeirws, felly mae gwirfoddoli cyfrifol, mae'n ymddangos i mi, yn hollol allweddol. Ac oherwydd y gallai hyn orgyffwrdd â meysydd gofal cymdeithasol ac ati, tybed beth sy'n cael ei wneud i ledaenu'r arferion gorau sydd i'w gweld mewn rhai awdurdodau lleol ledled Cymru, ac i sicrhau bod canllawiau priodol ar gael ar gyfer gwirfoddoli diogel.
Diolch. Dechreuaf gyda'r un olaf, am wirfoddoli cyfrifol. Rydym ni wedi gweld llu o bobl sy'n barod i helpu i drefnu gweithgarwch yn eu cymuned eu hunain. Credaf fod swyddogaeth drefniadol awdurdodau lleol yn hynod o bwysig yn hyn o beth, ac yn sicr drwy brofiad cynghorau Rhondda Cynon Taf, a phrofiadau cynghorau eraill o lifogydd, mae'r ymdrech a wnaed ganddyn nhw eu hunain, yn rhoi sylfaen dda ar gyfer gwneud hynny nawr am gyfnod hirach o lawer. Ond rydym yn ceisio dysgu am yr hyn sydd yn gweithio, ac, o weld cyn-Weinidog llywodraeth leol yn y Siambr, mae'n deg dweud y ceir adegau pan nad yw pobl mor awyddus i ddysgu a mabwysiadu'r hyn sydd yn gweithio'n dda mewn rhan arall o Gymru, ond yn llawer hapusach i fod yn wahanol gan wneud pethau yn eu ffordd eu hunain. Mae hwn yn gyfnod lle dylid rhoi'r pethau hynny o'r neilltu, i ddeall beth sy'n gweithio'n dda ac i allu ei rannu a'i fabwysiadu'n gyflym ym mhob rhan o'r wlad lle bydd yn fuddiol—nid mewn llywodraeth leol yn unig; mae hynny hefyd wedi bod yn wir ar adegau amrywiol yn y gwasanaeth iechyd, lle na fu rhai byrddau iechyd bob amser yn barod i fabwysiadu arferion da mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth. Does dim amser i hynny, a does dim amynedd ar gyfer hynny nawr. Ac, fel rwy'n dweud, rwy'n credu, ar draws sbectrwm gwleidyddol llywodraeth leol, y bu cydweithio gwirioneddol ac mae wedi bod yn rhan drawiadol iawn o'r ymateb.
O ran profion, mae'r capasiti eisoes ar gynnydd ac, fel y nodais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, yn y briff i'r wasg dros y penwythnos, ac yn gynharach yn fy natganiad heddiw, mae'r cynnydd sylweddol mewn profion sydd ar ddod yn y dyfodol agos iawn yn caniatáu inni brofi mwy o bobl. A'r sylwadau yr ydych yn eu gwneud am feddygon teulu a'u teuluoedd—mae'n rhan o'r sylw ehangach hwnnw eisoes sef po fwyaf yw'r capasiti sydd gennym ni, y cyflymaf y gellir profi pobl i'w cael yn ôl i'r gweithle. Ond mae rhai o staff y GIG eisoes yn cael eu profi am eu bod yn ynysu eu hunain, a bydd pobl yn dychwelyd am eu bod eisoes wedi cael profion yn unol â'r canllawiau a roddwyd gan y Prif Swyddog Meddygol tua diwedd yr wythnos diwethaf.
Yn olaf, o ran y sylw calonogol iawn a wnaethoch chi ynglŷn â gwaith staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac nid ar draws Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn unig, ond ar draws y gwasanaeth iechyd drwyddo draw. Ar hap, gwelais ddolen i fideo o nyrsys yn Nhreforys y bore yma yn canu 'I'll Be There'. Nawr, mewn cyfnod arferol gyda meicroffon a chyfle i ganu cân fel honna, byddech yn cael trafferth i'm llusgo i ffwrdd—[Torri ar draws.] Mae'n gyfnod eithriadol, ond efallai nid mor eithriadol â hynny. [Chwerthin.] Mewn gwirionedd, mae gweld yr hyn y mae staff y gwasanaeth iechyd yn ei wneud drostynt eu hunain, ar gyfer eu morâl a'u lles eu hunain, ond hefyd i ddeall bod effaith ar eu cydweithwyr ac ar y cyhoedd hefyd, yn atgyfnerthu pa mor anhygoel o ffodus yr ydym ni i gael ymrwymiad a thosturi ein GIG a'n gweithlu ehangach. Fel y dywedais yn gynharach, bydd eu hangen arnom ni nawr yn fwy nag erioed.
Diolch yn fawr, Gweinidog iechyd.