– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Awst 2020.
Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar COVID-19. Dwi’n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Fe drefnwyd y sesiwn heddiw a'r datganiad hwn er mwyn rhoi cyfle i Aelodau graffu ar yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws yng Nghymru. Cafodd y rheoliadau hynny eu diwygio ddydd Gwener diwethaf, 31 Gorffennaf. Ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, ar 15 Gorffennaf, cafwyd cyhoeddiadau pwysig yn ymwneud â chefnogi'r economi a'r sector ddiwylliannol, ac yn ymateb i ddigartrefedd.
Ym maes iechyd a gofal, rydym wedi croesawu ffigurau calonogol o ran recriwtio meddygon dan hyfforddiant ac wedi cyhoeddi’r rhaglen fwyaf erioed i gynnig brechiad yn erbyn y ffliw. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at y bobl hynny sy'n rhan o'r cynllun gwarchod, ac mae pedwar prif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig wedi datgan y dylid ymestyn y cyfnod hunanynysu i 10 diwrnod mewn ymateb i symptomau coronafeiwrs neu brawf cadarnhaol.
Mewn meysydd eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghoriad ar y drefn gymorth i amaethwyr ac ar gynlluniau i leihau plastig untro yng Nghymru. Rydym wedi cyhoeddi datganiadau ysgrifenedig er mwyn tynnu sylw Aelodau'r Senedd at y datblygiadau hyn.
Lywydd, rwyf am ganolbwyntio yn awr ar yr adolygiad tair wythnos. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, dros y tair wythnos ddiwethaf, fod y rhagolygon mewn perthynas â'r coronafeirws wedi gwaethygu mewn sawl rhan o'r byd, o Manila i Bogota, o Awstralia i'r Unol Daleithiau. Yn Ewrop, cyngor Llywodraeth y DU oedd ailgyflwyno'r trefniadau cwarantin ar gyfer ymwelwyr sy'n dychwelyd o Sbaen a Lwcsembwrg, ac mae rheoliadau i'r perwyl hwnnw wedi'u gosod gerbron y Senedd. Yn Lloegr, ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, cyflwynwyd cyfyngiadau symud lleol newydd yn Luton, Blackburn with Darwen, Oldham, a Rochdale, cyn i gyfyngiadau mwy cyffredinol gael eu hailgyflwyno ddydd Gwener diwethaf ar draws gogledd-orllewin Lloegr a gorllewin Swydd Efrog.
Lywydd, cyfeiriaf at hyn er mwyn nodi cyd-destun sefyllfa’r feirws yng Nghymru. Ni ddylai unrhyw un fod o dan unrhyw gamargraff na allai'r feirws hwn ddychwelyd yn gyflym ac mewn modd niweidiol yma yng Nghymru hefyd. Ac i fod yn glir, mae enghreifftiau o gynnydd lleol o ran achosion o’r coronafeirws wedi codi, ac yn parhau i godi, yma yng Nghymru. Mae gennym achosion parhaus yn Wrecsam. Credwn fod y clwstwr yn Rowan Foods bellach dan reolaeth, a chafodd yr achos olaf sy'n gysylltiedig â'r clwstwr hwn ei nodi ar 24 Gorffennaf. Yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae camau'n parhau i gael eu cymryd i fynd i'r afael â chynnydd mewn achosion yno. Ers i'r clwstwr gael ei ddatgan ar 25 Gorffennaf, mae saith achos wedi'u nodi yn Ysbyty Maelor fel heintiau newydd a ddaliwyd yn yr ysbyty. Nid oes unrhyw heintiau newydd wedi'u dal yn yr ysbyty wedi cael eu nodi ar chwech o'r saith diwrnod diwethaf. Mae'r tîm rheoli achosion yn parhau i gyfarfod yn ddyddiol a chaiff ei gefnogi gan ystod o bartneriaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Oherwydd y ddau glwstwr a gafwyd ar safleoedd penodol, gwnaed penderfyniad gan arweinwyr iechyd y cyhoedd lleol i gynnig profion cymunedol gwirfoddol torfol mewn rhannau o Wrecsam. O'r 1,418 o bobl a brofwyd, 11 achos positif newydd yn unig a nodwyd, sef cyfradd positifrwydd o 0.7 y cant. O ystyried bod y Gydganolfan Bioddiogelwch yn nodi cyfradd positifrwydd o 4 y cant fel y trothwy ar gyfer unrhyw bryder newydd, mae'r ffocws yn Wrecsam yn parhau i fod ar atal lledaeniad yr achosion safle-benodol, ac wrth gwrs, mae ein system brofi, olrhain, diogelu yn rhan hanfodol o’r ymdrech hon.
Lywydd, mae llawer o ddiddordeb wedi bod yng nghyflymder canlyniadau profion yn y system Profi, Olrhain, Diogelu. Yn y profion cymunedol yn Wrecsam, profwyd dros 95 y cant o samplau o fewn 24 awr i'w derbyn, ac mae hynny’n dangos, pan fydd angen canlyniadau cyflym o'r fath, y gall y system eu darparu. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd y nifer uchaf erioed o brofion yng Nghymru o fewn 24 awr.
Nawr, wrth gwrs, mae cynnydd lleol mewn achosion yn cyfrannu at yr asesiad cyffredinol o'r sefyllfa yng Nghymru. Serch hynny, yn y cyfnod cyn yr adolygiad yr wythnos diwethaf, amcangyfrifwyd fod y rhif R yng Nghymru rhwng 0.6 a 0.9. Yn y model a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, cyfrifwyd bod y rhif R ar gyfer Cymru yn is nag ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Lloegr, ond po leiaf yw cylchrediad y feirws, y mwyaf ansefydlog y daw’r rhif R, a dyna pam rydym yn dibynnu ar nifer ehangach o ddangosyddion, gan gynnwys canlyniadau profion. Yn hynny o beth, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd 41,451 o brofion yng Nghymru, ac roedd 0.8 y cant ohonynt yn achosion positif. Mae degau o filoedd o brofion wedi'u cynnal ar staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal, ac yn yr wythnos ddiwethaf, roedd cyfradd y canlyniadau positif ar gyfer staff a phreswylwyr yno yn 0.3 y cant.
Y casgliad y daeth y prif swyddog meddygol iddo yn sgil yr holl ddata hwn, fel y nodwyd yn ei asesiad a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'n newidiadau yr wythnos diwethaf, yw bod y feirws wedi'i reoli mor effeithiol yng Nghymru fel bod cyfiawnhad dros lacio pellach ar sail iechyd y cyhoedd. O ganlyniad, o ddydd Llun yr wythnos hon ymlaen, mae lletygarwch dan do wedi ailgychwyn mewn tafarndai, caffis, bwytai a gwestai yng Nghymru. Ddydd Llun nesaf, bydd campfeydd dan do, sbas, canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do i blant yn ailagor.
Lywydd, penderfynodd y Cabinet yr wythnos diwethaf y byddem yn neilltuo llawer o'r lle i weithredu sydd ar gael inni i ddarparu hyblygrwydd newydd ar gyfer cyfarfodydd rhwng teulu a ffrindiau, ond mae ein trafodaethau wedi cydnabod mai dyma'r elfen fwyaf peryglus o ran unrhyw fesurau i lacio’r cyfyngiadau symud. Felly, rydym wedi penderfynu gohirio unrhyw benderfyniad ar hyn tan yn ddiweddarach yn y cylch. Ein nod o hyd yw adfer peth o'r rhyddid y bu'n rhaid i bobl ei ildio yn ystod y rhan hon o'u bywydau, ond ni fyddwn ond yn gwneud hynny os ceir achos iechyd y cyhoedd cryf dros gyfiawnhau cyfarfodydd pellach dan do rhwng teulu a ffrindiau. Yn y cyfamser, ni fydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol bellach yn berthnasol i blant o dan 11 oed, ac mae hyblygrwydd newydd wedi'i ddarparu ar gyfer cyfarfod â theulu a ffrindiau yn yr awyr agored.
Lywydd, yn y cyhoeddiad ddydd Gwener, nodais gynlluniau hefyd i gryfhau'r modd y caiff rheolau coronafeirws eu gorfodi yng Nghymru. Er bod y rhan fwyaf o unigolion a busnesau yn gweithio'n galed i gadw pawb yn ddiogel, nid yw hynny'n wir am bawb. Mae unigolion sy'n ymddwyn fel pe bai'r argyfwng wedi dod i ben yn creu risg o niwed i eraill. Nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl. Mae’n tanseilio'r ymdrechion y mae pawb arall yn eu gwneud. Heddiw, rwyf wedi cyfarfod ar wahân gyda’r heddlu a chydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddiolch iddynt am eu gwaith hanfodol ac i ailddatgan yr ymrwymiad a rennir gennym i gefnogi’r rheini sy’n gwneud y pethau iawn i ddiogelu pob un ohonom.
O ran busnesau, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae ein rheoliadau’n gosod cyfrifoldeb uniongyrchol ar yr unigolyn sy'n gyfrifol am safle i roi pob cam rhesymol ar waith i leihau'r risg o ddal y coronafeirws. Cytunwyd ar ganllawiau gyda'r gwahanol sectorau i egluro beth y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol, ac mae llawer o fusnesau wedi buddsoddi amser, egni ac arian i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu mewn modd diogel mewn perthynas â’r coronafeirws. Er mwyn eu cefnogi, byddwn yn darparu pwerau newydd i awdurdodau lleol ymyrryd yn gyflym ac yn bendant lle nad yw hynny’n digwydd, a bydd hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i safleoedd gau os oes angen. Cyflwynir y rheoliadau ddydd Gwener yr wythnos hon, 7 Awst, a byddant yn dod i rym ddydd Llun 10 Awst.
Yn olaf, Lywydd, gan edrych ymlaen tuag at ddiwedd y cylch sydd eisoes wedi dechrau, mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, wedi rhybuddio yno y gallai’r cyfyngiadau symud eisoes fod wedi'u llacio i’r graddau mwyaf posibl. Yma yng Nghymru, rydym wedi mabwysiadu dull gwahanol, dull cam wrth gam, ond ar ddiwedd y cylch hwn ar 21 Awst, byddwn o fewn pythefnos i ailagor ysgolion ym mis Medi. Bydd angen inni flaenoriaethu unrhyw le i weithredu ar y pwynt hwnnw i sicrhau y gellir cyflawni'r foment hanfodol bwysig hon i'n plant a'n pobl ifanc yn ddiogel ac yn llwyddiannus, ac efallai na fydd llawer o le i fynd y tu hwnt i hynny yn yr adolygiad nesaf. Bydd hynny oll, Lywydd, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar drosglwyddiad, yn ddiweddarach ym mis Awst, a byddaf yn adrodd eto i'r Aelodau ar hynny i gyd ymhen tair wythnos. Diolch yn fawr.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, er bod cyfraddau COVID-19 yn parhau i fod yn gymharol isel ledled Cymru, fel y nodwch yn eich datganiad, yn anffodus mae nifer y cleifion sy'n cael eu heintio â'r coronafeirws tra bônt yn yr ysbyty yng ngogledd Cymru wedi cynyddu. Fel y dywedoch chi, bu cynnydd yn nifer yr achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddar, ac yno y cofnodwyd y nifer uchaf o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Brif Weinidog, yn amlwg, ceir problem mewn perthynas â rheoli'r haint yng ngogledd Cymru, a hynny gan fwrdd iechyd sydd o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth. A allwch ddweud wrthym, felly, pam fod cyfraddau heintio yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cynyddu'n ddiweddar? A allwch ddweud wrthym hefyd pa gamau uniongyrchol rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y cyfraddau heintio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, o gofio eich bod yn dweud eich bod yn rhoi camau ar waith? A allwch roi sicrwydd i bobl gogledd Cymru y bydd yr achosion hyn yn cael eu rheoli yn awr, o ystyried eich bod yn uniongyrchol gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd yn yr ardal honno?
Wel, Lywydd, hoffwn ddweud yn glir fod camau eisoes wedi'u cymryd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae'r sefyllfa wedi sefydlogi, fel y dywedais yn fy natganiad. Cafwyd 76 o achosion yn ystod y saith diwrnod blaenorol, ac roedd hynny wedi gostwng i 27 yn y saith diwrnod diwethaf—gostyngiad o 64 y cant. Ledled Wrecsam, mae cyfradd yr achosion, a oedd yn 61.8 fesul 100,000 ar 26 Gorffennaf, wedi gostwng i 19.9 yn y saith diwrnod diwethaf, ac mae'n parhau i ostwng. Felly, mae'r sefyllfa yn Wrecsam o dan reolaeth i raddau helaeth, ac mae'n parhau i wella, a hynny oherwydd y camau y mae'r ysbyty ei hun wedi'u cymryd—gorfodi defnydd o fasgiau wyneb, gosod offer sgrinio corfforol newydd, un fynedfa ar gyfer y cyhoedd, a phrofi pob claf wrth iddynt gyrraedd, drwy ba bynnag lwybr y cyrhaeddant yr ysbyty. Pan fydd y cleifion hynny'n cael eu sgrinio, mae'r rheini yr amheuir fod ganddynt y coronafeirws yn cael eu trosglwyddo i ystafell ochr ar ward COVID-positif ac yn cael eu nyrsio gan dîm nyrsio ar wahân. Mae'r rhai heb unrhyw symptomau yn cael eu cadw ar wahân nes bod canlyniadau swab ar gael. Mae cleifion sy'n cael canlyniad positif yn cael eu rhoi ar ward COVID-positif, ac mae cleifion sy'n cael canlyniad negyddol yn cael eu trosglwyddo i wely cyffredinol. O ran y staff, mae'r holl staff yn Ysbyty Maelor yn cael eu profi. Mae chwe chant o'r profion hynny eisoes wedi'u harchebu. Cyfyngir ar symud staff drwy’r ysbyty, caiff staff asiantaeth eu cyfyngu i wardiau penodol, a darparwyd miloedd o eitemau ychwanegol o gyfarpar diogelu personol yn yr ysbyty—cyfres gynhwysfawr o fesurau, gyda mwy o fesurau'n cael eu hychwanegu bob dydd, ac fel y dywedais, Lywydd, mae llwyddiant y mesurau hynny eisoes i’w weld.
Brif Weinidog, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, dros yr wythnosau diwethaf, gwelsom fusnesau a chyfleusterau’n ailagor yn raddol, sy'n golygu bod pobl yn gwneud mwy a mwy o ryngweithio, boed hynny yn y gwaith neu yn y gymuned. Fodd bynnag, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn ddryslyd ynghylch caniatâd i fwyta mewn bwyty dan do gyda phobl o'r tu allan i'w haelwyd neu eu haelwyd estynedig. Nawr, fel y gwyddoch, mae cynllun Llywodraeth y DU, Eat Out to Help Out, yno i annog pobl i gefnogi'r diwydiant lletygarwch, ac mae llawer o bobl yn awyddus i gefnogi bwytai, caffis a thafarndai lleol. Fodd bynnag, o gofio na fu unrhyw newidiadau i'r polisi ar swigod cymdeithasol, rwy'n siŵr y gallwch ddeall y bydd cyfarfod â mwy o bobl o’r tu allan i'ch aelwyd, neu eich aelwyd estynedig, mewn lleoliadau lletygarwch yn peri’r dryswch hwnnw. A allwch ddweud wrthym felly beth yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar swigod cefnogaeth a phryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu caniatáu unrhyw newidiadau penodol i'r polisi hwnnw, o gofio eich bod yn dweud yn eich datganiad y byddwch yn edrych arno yn hwyrach yn y cylch? Ac a allwch ddweud wrthym pa mor hyderus yw Llywodraeth Cymru ynglŷn ag unrhyw lacio pellach ar y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol rhwng pobl, gan fod y cyfyngiadau wedi'u llacio bellach i ganiatáu i bobl ddychwelyd i'r gwaith ac i ryngweithio ymhellach yn y gymuned?
Wel, Lywydd, fel y dywedais yn fy natganiad, ni fydd swigod cymdeithasol—gallu pobl i gyfarfod dan do—yn cael eu llacio tan ddydd Gwener yr wythnos nesaf ar y cynharaf. Byddwn yn adolygu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gylchrediad y feirws ddydd Mercher a ddydd Iau nesaf, ac yna'n gwneud penderfyniad a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.
Mae ein gofal wrth ddarparu rhyddid pellach i bobl gyfarfod dan do yn seiliedig ar y dystiolaeth a welwn mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae Public Health England yn nodi bod 70 y cant o'r holl heintiau newydd a geir yn Lloegr yn deillio o gysylltiadau yn y cartref. Felly, nid oes niferoedd mawr o bobl yn dal y feirws yn y gweithle, nac mewn bwytai nac wrth gyfarfod yn yr awyr agored, ond mae saith o bob 10 haint newydd yn deillio o'r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio o fewn y cartref. A pho fwyaf y caniatawn i hynny ddigwydd, y mwyaf o gyfleoedd a ddarparwn i'r feirws ail-ledaenu, ac os rhowch gyfleoedd newydd i'r feirws hwn, fe fydd yn ail-ledaenu. Dyna pam ein bod wedi mabwysiadu'r dull rhagofalus sydd gennym yng Nghymru.
Nawr, os yw'r feirws yn parhau i gael ei reoli’n effeithiol yng Nghymru ddiwedd yr wythnos nesaf, hoffwn allu mynd ymhellach na ble rydym ar hyn o bryd i ganiatáu mwy o gyfleoedd i deulu a ffrindiau gyfarfod dan do. Ond ni fyddwn yn gwneud hynny os yw’r dystiolaeth yn dangos y byddai hynny'n ychwanegu at y risg sy'n ein hwynebu yng Nghymru mewn ffordd a fyddai'n annog y feirws i ledaenu unwaith eto. Gwn y bydd yr Aelod yn deall bod ein dull rhagofalus yn cael ei atgyfnerthu ymhellach gan y ffordd y bu’n rhaid gwrthdroi camau i lacio’r mesurau dros y ffin, a heddiw yn yr Alban, fel y bydd wedi'i weld, am fod y feirws ar gynnydd eto. Felly, mae'n rhywbeth anodd sy'n rhaid ei gydbwyso'n ofalus iawn. Byddwn yn ystyried y data, fel bob amser, ac yn gwneud penderfyniad erbyn dydd Gwener yr wythnos nesaf.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae'n galonogol iawn bod nifer yr achosion newydd a recordiwyd yng Nghymru yn isel, bellach yn gyson yn y degau nid dros y cant. Onid dyma'r adeg, Brif Weinidog, inni fabwysiadu strategaeth o ddileu'r feirws—strategaeth sero COVID, fel y'i gelwir—gan unioni ein hunain â sylwadau Prif Weinidog yr Alban, a ddywedodd yr wythnos diwethaf fod angen i bob gwlad yn y Deyrnas Gyfunol gefnogi cynllun o'r fath? Yn ôl yr Athro Susan Michie, sy'n aelod o bwyllgor SAGE, mae strategaeth ddileu yn llawer mwy ymarferol yn ynysoedd Prydain o gymharu â chyfandir Ewrop.
Ar 1 Gorffennaf, gan gyfeirio at nifer o wledydd ar draws y byd sydd wedi cofleidio'r strategaeth yma'n llwyddiannus, mi ofynnais ichi wneud cais i'r gell ymgynghori dechnegol i edrych ar fabwysiadu polisi o ddileu'r feirws yng Nghymru. A allwch chi ddweud beth ddaeth o'ch trafodaethau gyda'r gell ymgynghori ac a ydych chi'n cefnogi galwad Prif Weinidog yr Alban? Gydag astudiaethau yn America a'r Eidal yn dangos bod plant nid yn unig yn trosglwyddo'r feirws ond hefyd yn grŵp oedran sy'n gyrru'r feirws mewn modd arwyddocaol, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o effaith hyn ar eich strategaeth o ran coronafeirws yng Nghymru?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price. Dwi wedi cael cyfle yn barod i siarad gyda Phrif Weinidog yr Alban, a byddaf yn siarad â hi unwaith eto cyn diwedd y prynhawn heddiw. Beth dwi wedi siarad gyda hi amdano yw'r ffaith fy mod i'n meddwl ein bod ni yn yr un lle. Yn Saesneg, ein huchelgais ni yw cael
y lefel isaf bosibl o atal y feirws, ac yna cynnal y lefel isaf bosibl honno drwy'r camau rydym yn eu cymryd. A chredaf fod hynny'n gyson iawn â'r hyn y mae Prif Weinidog yr Alban wedi'i nodi fel uchelgais. Ac wrth gwrs, rydym yn parhau i drafod hyn a chamau eraill gyda hi, a chyda Phrif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon hefyd.
Mae Adam Price yn llygad ei le, Lywydd, yn tynnu sylw at her ailagor ysgolion ar ôl y gwyliau. Mae gwneud hynny'n parhau i fod yn uchelgais gadarn gennym. Rwy’n siŵr y bydd wedi gweld datganiad Comisiynydd Plant Lloegr heddiw ynglŷn â'r niwed a wneir i blant o fethu ailafael yn eu haddysg—niwed cymdeithasol yn ogystal â niwed i’w haddysg. Byddwn yn parhau i ddilyn y dystiolaeth dros weddill y mis, ac fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, os oes gennym fwy o le i weithredu yng Nghymru pan gyrhaeddwn 21 Awst, am y tair wythnos y tu hwnt i hynny, ailagor ysgolion yn ddiogel ac yn llwyddiannus fydd ein prif flaenoriaeth ar gyfer unrhyw le y gallai fod gennym i symud.
Dangosodd data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cyfraddau marwolaeth Cymru 2.78 y cant yn uwch na’r gyfradd farwolaethau gyfartalog rhwng 2015 a 2019 dros chwe mis cyntaf y flwyddyn hon. Mae'n bwysig cydnabod bod hynny'n is na Lloegr a'r Alban, ond serch hynny, roedd Cymru yn y pumed safle o ran marwolaethau ychwanegol yn Ewrop dros y cyfnod hwnnw. Pam fod y Prif Weinidog yn credu ein bod wedi gwneud yn wael o gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill?
Ar 28 Mawrth, ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth at y Gweinidog iechyd i annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu strategaeth ymyrraeth gynharach ar gyfer unigolion a chanddynt symptomau COVID, yn debyg i'r hyn a fabwysiadwyd mewn rhai gwledydd Ewropeaidd. Mewn ymateb, cydnabu'r Gweinidog y dystiolaeth newydd fod ymyrraeth gynnar yn effeithiol wrth drin cleifion.
Pam, felly, ei bod wedi cymryd tan 16 Mehefin, fwy na deufis yn ddiweddarach, i’r cyngor clinigol newid, a pham ei bod wedi cymryd tan ddoe, fwy na phedwar mis ers i’r Gweinidog gydnabod y dystiolaeth, i wneud datganiad i gadarnhau y bydd adnoddau ar gael o'r diwedd i helpu meddygon teulu i wneud mwy o ddefnydd o ocsimetreg pwls, fel rydym wedi annog yn gyson? Onid yw'n wir, Brif Weinidog, y gallai cannoedd o fywydau fod wedi eu hachub, o bosibl, pe bai hyn wedi digwydd yn gynt?
Wel, Lywydd, nid yw ef na minnau'n gwybod a yw hynny'n wir, ac ni fydd unrhyw fodd inni wybod hynny. Ymddengys i mi mai dyfalu di-fudd yw hynny. Mae'n wir ein bod wedi gweld marwolaethau ychwanegol yng Nghymru dros gyfnod y coronafeirws. Rwy'n falch iawn o ddweud bod marwolaethau yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf yn is na'r cyfartaledd pum mlynedd, felly rydym bellach mewn cyfnod llai stormus o ran hynny. Rwy'n siŵr y bydd y rheswm pam fod y Deyrnas Unedig wedi cael lefelau uwch o farwolaethau ychwanegol na gwledydd Ewropeaidd eraill yn destun ymchwil yn y dyfodol. Mae angen deall yn well hefyd pam fod gan Gymru gyfradd is o farwolaethau ychwanegol na Lloegr neu'r Alban. Ar yr wyneb, byddech yn meddwl bod hynny'n mynd yn groes i'r ffeithiau. Mae gennym boblogaeth hŷn, salach a thlotach na thros y ffin, ac mae ein ffigurau marwolaethau ychwanegol fel arfer yn adlewyrchu natur y boblogaeth honno. Bydd angen rhywfaint o ymchwil i ddeall pam fod y gwrthwyneb wedi digwydd yn ystod argyfwng y coronafeirws, ac nid yw'n gysur o gwbl i'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig.
Mae'r Aelod yn gofyn pam na wnaed pethau ym mis Mawrth a mis Ebrill yn y ffordd a argymhellwyd gan ei lefarydd iechyd. Wel, y gwir amdani yw y bu’r gwasanaeth iechyd yn gweithio’n ddiflino yn mynd i’r afael ag argyfwng y coronafeirws ar ei anterth, gyda channoedd lawer o bobl yn dod drwy ddrysau ysbytai ac arnynt angen—eisoes angen—darpariaethau a gwelyau gofal critigol. Ac er bod camau'n cael eu cymryd i wella mesurau atal—ac yn sicr, yn yr hydref, byddwn yn gwybod mwy am y ffordd y gall ymyrraeth gynnar gael effaith gadarnhaol ar gynnydd y clefyd hwn—ar y pwynt hwnnw yng nghromlin y pandemig, ffocws ein system oedd peidio â chael ei gorlethu gan y galw a gynhyrchwyd eisoes gan ledaeniad y clefyd.
Rydym bellach wedi gallu cadarnhau cyllid ar gyfer ystod eang o bethau y byddwn yn gallu eu gwneud dros weddill y flwyddyn hon yn dilyn cadarnhad gan Drysorlys y DU ynglŷn â'r arian a fydd ar gael i Gymru. Cyn gynted ag y bu modd inni gadarnhau'r ffigurau hynny, cyhoeddasom fanylion ynglŷn â sut y defnyddir yr arian hwnnw. Ac fel y dywed yr Aelod, byddwn yn gallu gwneud mwy i sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael y dyfeisiau pwls y bydd arnynt eu hangen i fesur ocsigen yng ngwaed pobl—arwydd cynnar, ac arwydd nad yw’n hawdd ei ganfod weithiau, o bresenoldeb coronafeirws.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Brif Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a hefyd am y gwaith parhaus eithriadol o galed rydych wedi bod yn ei wneud? Rydym wedi bod ar doriad—rwy’n amau na fyddwch yn cael cyfle i fynd ar eich gwyliau fel ambell un arall efallai—a gwn fod eich llwyth gwaith wedi bod yn eithriadol. Felly, diolch am hynny.
Roeddech yn sôn am nod y rheoliadau. Ar y dechrau, roeddwn dan yr argraff mai eu diben oedd diogelu'r GIG ac i sicrhau nad oedd capasiti’r GIG yn cael ei orlethu. Yn gymharol gynnar yn y broses, ymddengys bod hynny wedi'i gyflawni. Pan fo Adam Price yn eich gwahodd i ddweud a ydych yn bwriadu dileu—'Ai dyna'r nod?'—nid ydych yn dweud 'ie' wrth hynny. Roeddwn wedi meddwl bod peidio â chaniatáu i R fynd uwchlaw 1 yn nod clir. Rwyf wedi cwestiynu hynny o'r blaen. Ymddengys i mi fod nifer yr achosion o leiaf mor bwysig ag R. Yn eich sylwadau yn awr, rwy'n credu eich bod wedi rhoi mwy o ffocws ar hynny nag a gawsom o'r blaen efallai. Ond mae’r uchelgais o gael y lefel isaf bosibl—nid wyf yn gweld sut, yn ymarferol, y mae hynny o gymorth i wneud penderfyniadau, yn enwedig pan fo R yn isel ac yn ansefydlog. Soniasoch am gyfraddau achosion o 0.7 y cant a 0.8 y cant o gymharu â 4 y cant fel y lefel pryder am achosion newydd—gan y ganolfan bioddiogelwch o leiaf—a chafwyd llawer o sôn gennych am le i weithredu, ond sut y gwnewch y penderfyniadau hyn?
Mae'n siŵr y bydd angen rhywfaint o ddadansoddi cost a budd wrth edrych ar y lefel is o lawer, diolch byth, o farwolaethau ac achosion difrifol yn yr ysbyty sydd gennym bellach, ond mae pobl a'u lles a'r economi yn gweithredu dan gyfyngiadau eithaf llym o hyd. Pan fydd pobl yn ystyried a ydynt yn mynd i ryngweithio, mae'r perygl o ddal y feirws yn isel iawn yn gyffredinol, ond gall cost peidio â rhyngweithio—yn gymdeithasol yn ogystal ag yn economaidd—fod yn uchel o hyd, ac nid wyf yn deall yn iawn sut rydych yn penderfynu beth sy'n cael ei lacio ai peidio. Ac rydych yn sôn am le i weithredu, ond nid yw'r uchelgais o gael y lefel isaf bosibl yn darparu safon feintiol y gallwch wneud penderfyniadau yn ei herbyn.
Mae gennym hefyd lawer iawn o fanylder a chymhlethdod a microreoli o ran yr hyn y dylai pobl ei wneud ai peidio, a ph’un a yw'n gyfraith neu'n rheoliadau, ac mae pethau ychydig yn wahanol yng Nghymru i'r hyn ydynt yn Lloegr, a phan fyddwch yn cwyno am bobl nad ydynt yn dilyn yr union gyfarwyddiadau, mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd iawn dal i fyny â beth yw’r cyfarwyddiadau hynny. Os ydynt yn ystyried bod y risg yn isel iawn, ond fod y gost iddynt o beidio â gwneud rhywbeth neu beidio â rhyngweithio—bydd llawer o bobl yn ei wneud. Onid ydych yn deall hynny?
Cawsom £59 miliwn ar gyfer y celfyddydau. Dywedasoch fod yr arian hwnnw wedi’i basio ymlaen, ond £53 miliwn yn unig ohono sydd wedi’i ddosbarthu yng Nghymru. Beth a wnewch gyda'r £6 miliwn arall?
Un maes rwyf wedi cael cwynion yn ei gylch yn fy etholaeth—dywed canolfan farchogaeth David Broome yng Nghas-gwent fod cystadleuwyr dros y ffin yn iawn, ond oherwydd y gyfraith a'r hyn rydych yn ei wneud yng Nghymru, ni allant gynnal digwyddiadau neidio ceffylau, ac mae'r cyfyngiad o 30 o bobl ar unrhyw beth yn yr awyr agored, hyd yn oed os nad yw pobl yn agos iawn at ei gilydd, yn berthnasol. A oes unrhyw beth y gallech ei wneud i'w cynorthwyo? Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod David Rowlands atoch 10 diwrnod yn ôl, ond nid yw wedi cael ateb eto.
Yn olaf, credaf fod hyder ac asesiad pobl o risg o leiaf yr un mor bwysig â beth yw'r gyfraith neu'r union ganllawiau. A allwch ddweud yn glir wrth bobl: a ydych am i bobl fynd yn ôl i'r gwaith pan allant, neu a ydych yn dal i ddweud bod yn rhaid i bobl aros gartref pan allant? Oddeutu traean yn unig o weithwyr swyddfa sydd gennym yn ôl yn y gwaith. Mae hynny'n cymharu ag oddeutu tri chwarter yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Onid ydym yn mynd i weld dinistr economaidd llwyr tra bo hynny'n parhau?
Wel, Lywydd, diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd wrth gyflwyno ei gwestiwn. Mae'n gofyn sut rydym yn gwneud y cyfrifiadau a wnawn, a gallaf esbonio ein proses yn gryno. Dyma wythnos gyntaf y cyfrif hwn—adolygiad tair wythnos. Yr hyn a fydd yn digwydd ar draws Llywodraeth Cymru yw y byddwn yn llunio'r rhestr hiraf y gallwn ei chreu o'r holl wahanol bethau y gallem eu gwneud eto i lacio’r cyfyngiadau ar fusnesau ac ar unigolion, ac fel mae'n digwydd mae canolfannau marchogaeth ar y rhestr honno. Yna, byddwn yn cael cyngor gan y prif swyddog meddygol erbyn diwedd yr wythnos hon, a ddechrau wythnos nesaf, byddwn yn dechrau cyfyngu’r rhestr honno i'r pethau y credwn fod yr achos cryfaf dros eu gwella. Ac yna, rydym yn pwyso a mesur hynny yn y drydedd wythnos yn erbyn y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym ar draws ystod eang o ddangosyddion am lefel y clefyd yng Nghymru ar hyn o bryd, a hynny sy'n rhoi ymdeimlad i ni o faint o le i weithredu sydd gennym a pha gamau y gallwn eu cymryd. Rydym yn cael ein harwain gan gyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a Sefydliad Iechyd y Byd i gymryd un cam ar y tro yn unig fel bod cyfle i gysylltu'r camau rydych yn eu cymryd a'r effaith a gânt ar gylchrediad y feirws.
Credaf mai'r hyn sy’n anodd o ran safbwynt yr Aelod yw hyn: fod hwn yn feirws lle gallwch fynd o’i reoli’n effeithiol i ledaeniad eang mewn mater o ychydig wythnosau yn unig. Felly, yn Melbourne yn Awstralia, bedair wythnos cyn i 5 miliwn o bobl gael eu rhoi dan gyfyngiadau symud unwaith eto, cafwyd dyddiau pan nad oedd unrhyw achos newydd yn cael ei nodi ymhlith y 5 miliwn o bobl hynny—dim un achos newydd—a phedair wythnos yn ddiweddarach, mae’r feirws yn lledaenu i’r fath raddau fel bod yn rhaid i'r 5 miliwn o bobl gael eu rhoi dan gyfyngiadau llymach nag ar unrhyw adeg cyn hynny, a bu'n rhaid cynyddu'r mesurau hynny ymhellach wrth i dalaith Victoria ddatgan eu bod yn wynebu trychineb. Nawr, os mai ychydig wythnosau yn unig sydd rhwng ein sefyllfa ni heddiw a thrychineb, ni allwch fforddio bod yn siriol ac yn optimistaidd ynglŷn â sut y bydd y feirws yn gweithredu yng Nghymru, ac nid dyna sut y gwnawn bethau yma yn Llywodraeth Cymru.
Ar ddau gwestiwn penodol a grybwyllodd yr Aelod, Lywydd—o ran y celfyddydau, ni chyfeiriodd at y £16 miliwn roeddem eisoes wedi'i ddarparu i'r celfyddydau yng Nghymru o’n hadnoddau ein hunain. Felly, mae'r buddsoddiad cronnol yn y celfyddydau yn llawer mwy na'r cyllid canlyniadol a gawsom at y diben hwnnw: nid yw £6 miliwn yn llai, mae oddeutu £10 miliwn yn fwy na'r hyn a gawsom.
A'n cyngor i bobl yng Nghymru yw os gallwch weithio gartref yn effeithiol, mae'n dal i fod yn well i chi wneud hynny. Nawr, 'gweithio'n effeithiol' yw'r ymadrodd cywir. Os na allwch weithio gartref yn effeithiol, mae'r ddadl dros ddychwelyd i'r gwaith yn gryfach. Ond yma yn Llywodraeth Cymru, er enghraifft, lle buom yn gweithredu gyda phawb, bron â bod, yn gweithio gartref, gwelsom ein bod yn gallu gwneud hynny'n effeithiol iawn yn wir ac nid wyf am weld niferoedd mawr o bobl yn dychwelyd i weithleoedd lle nad yw hynny’n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad effeithlon y sefydliad hwn. Mae’n llawer gwell, o safbwynt amgylcheddol ac o safbwynt iechyd y cyhoedd, ein bod yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn caniatáu i fwy o bobl weithio gartref am gyfnod hwy.
Brif Weinidog, rwyf wedi sylwi dros yr wythnosau diwethaf, lle caiff y cyfyngiadau eu llacio, mewn sawl man fel siopau, bwytai a thafarndai, fod pobl, mewn gwirionedd, yn dal i fod yn amharod i fynd allan i wario arian yn y busnesau hynny. Roeddwn yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, er enghraifft, ac roedd siopau ar agor, ond roedd canol y ddinas yn eithaf gwag. Mae pentref siopa McArthurGlen yn agos i fy etholaeth. Unwaith eto, mae siopau'n cau yn gynnar yno gyda'r nos am nad yw nifer yr ymwelwyr yr hyn y dylai fod. Y pryder sydd gennyf yw bod cyfyngiadau’n cael eu llacio ond mae'n cymryd peth amser i'r cyhoedd newid yn ôl i sefyllfa sydd bron â bod yn normal o ran gwario arian yn y busnesau hynny. A ydych yn rhannu fy mhryder, felly, os daw’r cynllun ffyrlo i ben ym mis Hydref, y byddwn yn gweld cynnydd gwirioneddol wedyn yn nifer y swyddi a gollir gan y bydd bwlch rhwng diwedd y cynllun ffyrlo ac ailddechrau rhywbeth sy'n debyg i fasnach normal. Os ydych yn rhannu'r farn honno, pa drafodaethau y bwriadwch eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pha gefnogaeth y gellid ei rhoi ar waith i fusnesau ar ôl y cynllun ffyrlo?
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Carwyn Jones am y pwyntiau hynny? Mae'n llygad ei le: ledled y byd gwelsom mai un peth yw ailagor lleoliad, a bod perswadio pobl i ddychwelyd yno yn fater arall. Dyna pam ein bod wedi rhoi cymaint o bwyslais yng Nghymru ar adeiladu'r profiad o wneud pethau'n llwyddiannus, oherwydd lle gall pobl weld bod eu lles yn cael ei ystyried yn iawn a bod mesurau lliniaru ar waith yn iawn, credaf y gwelwn fwyfwy o fudd i’r economi, ac yn sicr, rydym am weld hynny yma yng Nghymru, ond mae'n dibynnu ar gynyddu hyder unigolion wrth i fusnesau ddangos llwyddiant.
Mae Carwyn Jones yn llygad ei le hefyd, Lywydd, yn nodi, o ran argyfwng economaidd, na fydd y coronafeirws drosodd i lawer o sectorau erbyn mis Hydref. Rwy'n deall yn iawn pam na all y Canghellor barhau i ddarparu cynllun ffyrlo lle gall busnesau ddychwelyd at yr hyn a oedd yn arfer bod yn normal, ond rydym wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth y DU na ddylent feddwl am ddiwedd y cynllun ffyrlo fel erfyn di-awch—y dylai fod yn gynllun wedi'i deilwra, lle bydd y sectorau a fydd angen cefnogaeth barhaus yn cynllunio’r gefnogaeth honno gyda Llywodraeth y DU er mwyn caniatáu i'r busnesau hynny oroesi’r coronafeirws a bod yn fusnesau llwyddiannus eto yn y dyfodol. Credaf fod hynny er budd yr economi. Credaf ei fod yn fuddsoddiad y dylai'r Canghellor fod yn barod i'w wneud, yn hytrach na dim ond ei ystyried yn wariant pellach, gan mai’r busnesau hynny yw’r busnesau a fydd yn talu trethi yn y dyfodol, a bydd rhywfaint o gymorth iddynt y tu hwnt i fis Hydref yn eu rhoi yn y sefyllfa honno yn nes ymlaen y flwyddyn nesaf.
Rydym yn gwneud y pwyntiau hynny pryd bynnag y gallwn, mewn sgyrsiau gyda Phrif Weinidog y DU, yn y cyfarfodydd cyllid pedairochrog y mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn eu mynychu, yn y cyfarfodydd y mae Ken Skates, fel Gweinidog yr economi, yn eu cael gyda'i swyddogion cyfatebol—teilwra'r cynllun, yn hytrach na'r hyn sydd wedi'i gynllunio ar hyn o bryd: diwedd sydyn a chyflym iddo, mewn ffordd a fydd yn niweidio busnesau sydd newydd ddechrau cael eu traed tanynt.
Brif Weinidog, diolch am bopeth rydych yn ei wneud yn yr argyfwng presennol, ac yn enwedig yr amser y mae'n rhaid i chi ei dreulio wrth eich desg yn y swyddfa yn gwneud penderfyniadau allweddol er budd Cymru. Yn eich datganiad, soniwch am am Ysbyty Maelor Wrecsam, a'r achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae cryn dipyn o egni wedi’i roi i hynny. Pam nad yw'r Llywodraeth wedi cynorthwyo'r bwrdd iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i'w gwneud hi'n orfodol i bobl wisgo masgiau wyneb mewn lleoliadau fel ysbytai a chartrefi gofal, lle mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir y bydd hynny o gymorth? Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r bwrdd iechyd wedi gofyn am hynny, ond nid yw'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi darparu camau gweithredu cadarn i gefnogi’r cais hwnnw. A allwch egluro pam, os gwelwch yn dda?
Ac yn ail, yn eich datganiad, rydych yn sôn am brofi, ac er ei bod yn braf gweld bod canlyniadau profion mewn rhai ardaloedd wedi bod yn gadarnhaol—rydych yn crybwyll cyfradd ddychwelyd canlyniadau o 95 y cant mewn 24 awr, ond yn anffodus, gwyddom fod rhai o ffigurau'r gyfradd ddychwelyd wedi bod mor isel â 26, 27 y cant mewn 24 awr yn genedlaethol. Mae'n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol ac ni fydd yn gyfradd ddychwelyd dderbyniol yn y drefn brofi. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gynyddu'r cyfraddau dychwelyd yn genedlaethol i fod yn agosach at y 90 y cant fel bod gennym drefn brofi effeithiol yma yng Nghymru?
Lywydd, diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau. Wel, i fod yn glir, mae masgiau wyneb yn orfodol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac maent wedi bod yn orfodol ers i'r clwstwr gael ei ddatgan, a barn Llywodraeth Cymru yw y dylid defnyddio masgiau wyneb lle ceir achos clinigol dros wneud hynny. Nid oes achos clinigol dros eu gwisgo mewn mannau lle mae cylchrediad y feirws o dan reolaeth i’r fath raddau fel nad ydynt yn ychwanegu unrhyw ddiogelwch o bwys i bobl, ond lle ceir achos, achos clinigol, dros eu defnyddio, dylid eu defnyddio wrth gwrs, ac maent yn orfodol yn Ysbyty Maelor Wrecsam oherwydd y sefyllfa yno.
O ran cyflymder dychwelyd canlyniadau profion, Lywydd, fel y dywedais yn fy natganiad, cafodd 13,330 o brofion eu dychwelyd o fewn 24 awr yr wythnos diwethaf—y nifer uchaf erioed. Ond roeddwn am wneud un pwynt arall i Andrew ac i eraill: ar hyn o bryd, y ffordd rydym yn cofnodi'r pethau hyn yng Nghymru yw ein bod yn cofnodi pob prawf fel pe bai angen iddo fod yn ôl o fewn 24 awr, ac nid yw hynny'n synhwyrol. Mae unrhyw un sy'n symptomatig, unrhyw un sy'n mynd i ysbyty, unrhyw un sy'n cael prawf yn y gymuned yn Wrecsam—roedd angen i'r rheini ddod yn ôl cyn gynted â phosibl. Ond rydym yn cynnal miloedd o brofion mewn cartrefi gofal bob wythnos ar bobl nad ydynt yn symptomatig o gwbl ar sail gwyliadwriaeth. Mae'r achos dros gael eu canlyniadau hwy yn ôl mewn 24 awr yn wan iawn yn wir, a byddai'n anodd iawn i gartrefi gofal wneud hynny gan eu bod yn dibynnu ar batrymau shifft a rhedeg y cartref yn y ffordd y gwnânt, ac mae'n cymryd mwy na diwrnod iddynt anfon y profion y maent yn eu derbyn i'r labordy. Ac mae'r cloc yn dechrau tician yr eiliad y maent yn derbyn y prawf, nid yr eiliad y bydd y labordy’n derbyn y prawf.
Nawr, rydym yn cofnodi pob un o'r rhain fel pe bai'r un brys ar gyfer pob prawf. Nid yw hynny'n ffordd synhwyrol o wneud pethau, ac mae'n rhoi pwysau diangen ar y system. Felly, rwyf am allu rhoi gwybod i bobl yng Nghymru am yr holl brofion a gynhaliwn, y rhai lle mae cael canlyniadau o fewn 24 awr yn glinigol bwysig a'r rhai sy'n cael eu gwneud at ddibenion gwyliadwriaeth, lle nad oes ots o safbwynt clinigol os yw'n cymryd 48 awr i'r canlyniadau ddod yn ôl.
Yr wythnos diwethaf, roedd cyfradd yr achosion ar gyfer staff mewn cartrefi gofal, o'r holl bobl rydym yn eu profi bob wythnos, yn 0.1 y cant, a bydd rhai o'r rheini'n ganlyniadau positif ffug hefyd wrth gael eu hailbrofi. Nid oes achos cryf dros roi pwysau ar y system i'w cael yn ôl o fewn 24 awr, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r profion hynny'n cael eu blaenoriaethu dros y rheini a chanddynt achos clinigol dilys dros ddychwelyd canlyniadau'n gyflym.
Dau beth—mi wnaf i drio mynd trwyddyn nhw'n sydyn. Mae Adam Price wedi sôn yn barod am arafwch y Llywodraeth yn ymateb i'r galw am ymyrraeth gynharach o ran triniaeth ocsigen. Mi wnaf i atgoffa'r Prif Weinidog mai'r rheswm roedden ni'n galw am hyn oedd er mwyn tynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd a cheisio achub bywydau.
Peth arall sy'n debyg o fod mewn peryg o gostio bywydau, dwi'n meddwl, ydy arafwch ailgyflwyno gwasanaethau yn yr NHS. Nawr, dwi wedi ysgrifennu at gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr heddiw yn rhannu rhwystredigaeth meddygon orthopedig yn Ysbyty Gwynedd sydd wir eisiau cael dechrau efo'u gwaith elective eto. Mae yna bron i 3,000 o gleifion yn aros dros 36 wythnos; buaswn i'n hoffi ymateb y Prif Weinidog i hynny.
Ond hefyd, wrth inni drafod llacio rheoliadau neu lacio cyfyngiadau heddiw, dwi eisiau gwybod mwy am barodrwydd y Llywodraeth i dynhau'r rheoliadau lle mae angen. Dwi hefyd eisiau gweld rheolau llymach ar orchuddion wyneb. Ond hefyd, mae yna sawl ardal o risg uchel wedi cael eu cydnabod rŵan—ardal Wrecsam, rhannau o ogledd-orllewin Lloegr. Mae miloedd o bobl o'r ardaloedd hynny wrth gwrs yn dod i lefydd fel fy etholaeth i ar eu gwyliau ar hyn o bryd. Rŵan, os nad ydy'r Llywodraeth yn barod i ddweud wrth bobl am beidio â theithio, ydych chi, fel cam lleiaf, yn barod i gynyddu'r cyfathrebu ynglŷn â sut y dylen nhw ymddwyn ar ôl cyrraedd, oherwydd mae yna beryglon, wrth gwrs, o bobl yn mynd i dafarndai, bwytai ac ati, neu'n gor-gronnu mewn niferoedd mawr?
Well, Llywydd, i ymateb i'r pwynt olaf i ddechrau, wrth gwrs rŷn ni'n cydnabod bod pobl yn dod i Gymru o Loegr, ac rŷn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn Lloegr. Does dim pwynt, dwi'n meddwl, jest dweud wrth bobl i beidio â dod i Gymru heb gael pethau yn eu lle i reoli hwnna, a dwi ddim yn meddwl bod hwnna'n ymarferol i'w wneud. So, i gryfhau'r negeseuon, dwi'n cytuno gyda hwnna, ac rŷn ni'n dweud bob tro i bobl, 'Os ydych chi'n dod i Gymru, helpwch ni i gyd i gadw Cymru'n ddiogel.' Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i Gymru—dwi'n siŵr eu bod nhw eisiau gwneud hynny.
Fel y dywedais i yn y datganiad, pan rŷn ni'n gweld pobl sydd ddim yn fodlon cydymffurfio â'r rheoliadau yng Nghymru, rŷn ni wedi cryfhau'r pwerau sydd gyda'r awdurdodau lleol i weithio gyda'r heddlu ac yn y blaen—i fod yn glir gyda nhw, os yw pobl ddim yn fodlon cydymffurfio â'r sefyllfa yma yng Nghymru, ein bod ni'n fodlon gwneud pethau i fod yn glir gyda phobl am eu cyfrifoldebau nhw. Dwi wedi siarad y bore yma gydag arweinydd Cyngor Gwynedd, a dwi'n siŵr a dwi'n gwybod eu bod nhw'n awyddus i wneud popeth maen nhw'n gallu ei wneud yn yr ymdrech hon.
O ran dychwelyd at weithgareddau normal yn y gwasanaeth iechyd, rydym wedi defnyddio peth o'r lle i weithredu a fu gennym dros y pedwar cylch diwethaf i ddechrau sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn dychwelyd i'w weithgareddau mwy arferol—dyna pam ein bod wedi gallu ailagor gwasanaethau yn y gymuned; dyna pam ein bod wedi gallu ailagor gwasanaethau sgrinio. Y pen draw un fydd llawdriniaethau o'r math y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth atynt. Roedd cynhyrchiant o hyd at wyth llawdriniaeth y dydd mewn theatrau orthopedig yn y cyfnod cyn COVID. O dan amodau COVID, bydd hynny'n gostwng i dair llawdriniaeth y dydd. Mae honno'n her wirioneddol, ac mae'n her wirioneddol i bob gwasanaeth iechyd, gyda'r holl fesurau diogelwch y bydd angen inni eu rhoi ar waith yn y dyfodol i atal risgiau ychwanegol i gleifion ac i staff, hyd yn oed os yw ein theatrau'n gweithio’n ddi-stop, na fyddant yn gallu cyflawni'r un nifer o lawdriniaethau a gynlluniwyd ac a ddisgwyliwyd o'r blaen.
Bydd honno'n her i'r gwasanaeth iechyd wrth wynebu'r gaeaf yn arbennig, a bydd angen sgyrsiau rhwng cleifion a'u clinigwyr, ond nid oes ateb hawdd i hyn, ac nid oherwydd diffyg ymdrech ar ran clinigwyr neu fyrddau iechyd i ailddechrau'r gweithgareddau hynny. Yn syml, yng nghyd-destun y coronafeirws, nid yw'n bosibl dychwelyd at y math o arferion gwaith a oedd yn ddiogel yn ôl ym mis Ionawr a mis Chwefror eleni.
Brif Weinidog, cefais fy nghalonogi’n fawr gan eich ateb cynharach i Adam Price, gan fy mod i'n bersonol yn awyddus iawn i weld Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i strategaeth di-COVID i Gymru. Cefais fy nghalonogi’n fawr hefyd wrth i chi ailddatgan eich ymrwymiad i flaenoriaethu ailagor ysgolion. Wrth gwrs, y pwynt arall a wnaeth Comisiynydd Plant Lloegr oedd mai ysgolion a ddylai fod yn gyntaf i agor ac yn olaf i gau, ac mae hynny hefyd yn rhywbeth sy'n ymddangos yn y cyngor gwyddonol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael ar ailagor ysgolion.
Nawr, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r penderfyniad i ailagor tafarndai dan do a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar ein cynlluniau i ailagor ysgolion, felly a gaf fi ofyn i chi sut y byddwch yn mynd ati i flaenoriaethu plant ac ysgolion, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd heddiw yn Aberdeen, lle cafodd clwstwr o achosion eu cysylltu â thafarn yn ôl yr hyn a ddeallaf?
Hoffwn eich holi hefyd ynglŷn ag archfarchnadoedd. Fel y gwyddoch, rwy'n wirioneddol bryderus fod llawer o archfarchnadoedd bellach wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio systemau unffordd, cyfyngiadau ar niferoedd ac ati, ac mae llawer o fy etholwyr yn dweud wrthyf nad ydynt yn teimlo'n ddiogel wrth fynd i'r siopau. Beth a wnewch, Brif Weinidog, i sicrhau bod siopau hanfodol yn deall yr angen i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol yng Nghymru? Diolch.
Lywydd, diolch i Lynne Neagle am hynny. Rwy'n fwy na pharod i ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru y bydd ailagor ysgolion yn cael y brif flaenoriaeth ym mha bynnag fodd sydd gennym o barhau i lacio’r cyfyngiadau symud yn ail hanner y mis hwn ac ym mis Medi. Bydd ein dull o ymdrin ag unrhyw glystyrau o achosion a welwn o ganlyniad i fesurau eraill rydym eisoes wedi'u cymryd yn debyg i'r hyn a welsoch yn yr Alban heddiw ac yn Lloegr eisoes—byddwn yn cyflwyno cyfyngiadau symud lleol yn effeithiol i atal cylchrediad y feirws yn yr ardaloedd hynny, fel y credaf inni ddangos ein bod wedi gallu ei wneud ar Ynys Môn, ym Merthyr Tudful, ddechrau’r mis diwethaf.
Bydd yr ystod o gamau y byddwn yn eu cymryd yn lleol yn dibynnu ar natur yr achosion. Bydd rhestr o gamau y bydd timau rheoli achosion lleol yn gallu eu defnyddio. Bydd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar gyfer yr Aelodau, yr wythnos nesaf rwy’n credu, gobeithio, a fydd yn nodi ein hymagwedd tuag at sut y gallai cyfyngiadau symud lleol gael eu sbarduno, gan bwy fydd y grym i gymryd camau, beth yw'r rhestr o gamau gweithredu posibl, a beth fydd y broses ar gyfer llacio cyfyngiadau symud wrth i'w heffeithiolrwydd gydio. Yn y ffordd honno, gobeithiwn allu osgoi'r angen i roi mesurau ar waith ledled y wlad, yn enwedig mesurau a fyddai'n effeithio ar blant.
O ran archfarchnadoedd, cyfarfu fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths â'r archfarchnadoedd yng Nghymru y bore yma. Pwysleisiodd wrthynt fod y gyfraith yn wahanol yng Nghymru, fod ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol—nid cyngor yn unig—sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff ac i'r bobl sy'n siopa ynddynt. Cafodd sicrwydd gan y sector ynghylch sawl mater, ac ymrwymiad y byddent yn edrych ar rai o'r cwynion a wnaed i fy swyddfa ac i Aelodau eraill yma—i'w swyddfeydd—hefyd, am y ffordd y mae rhai archfarchnadoedd yn gweithredu'n lleol.
Maent yn sectorau pwysig tu hwnt ac maent wedi llwyddo'n rhyfeddol yn ystod argyfwng y coronafeirws i aros ar agor ac i barhau i fwydo pobl yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Ond mae ganddynt gyfrifoldeb hefyd, ac yma yng Nghymru, rydym yn benderfynol iawn o egluro'r cyfrifoldeb hwnnw wrthynt, a bod yn rhaid iddynt ei ysgwyddo.
Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog. Mae gennyf gwpl o gwestiynau. Yn gyntaf—ac fe soniwyd yn rhannol am hyn mewn ateb a roesoch i gwestiwn ychydig funudau yn ôl—ar y gwasanaeth iechyd a llawdriniaethau, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ar ôl cael llawdriniaethau wedi’u gohirio oherwydd y sefyllfa gyda COVID-19. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch ynglŷn â pha mor anodd yw hi i bethau ddychwelyd at fod yn normal yn y dyfodol agos ac nad yw'r capasti yno, ond mae angen i mi roi rhyw fath o arweiniad i fy etholwyr. Felly, tybed a all Llywodraeth Cymru ddweud yn glir, a darparu rhywfaint o eglurhad ynghylch pryd y gall llawdriniaethau sydd wedi'u gohirio ailddechrau, a phryd y gallwn ddisgwyl rhyw fath o normalrwydd.
Yn ail, chwaraeon. Caniatawyd i ganolfannau marchogaeth dan do ailagor yn yr Alban a Lloegr—yn yr Alban ar 29 Mehefin ac yn Lloegr ar 4 Gorffennaf, rwy’n credu. Ni chredaf fod hyn wedi digwydd eto yng Nghymru. Felly, a allech roi rhywfaint o eglurhad, neu a allech godi hyn gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol, fel ein bod yn gwybod pryd y gallwn ddisgwyl i ganolfannau dan do ailagor yng Nghymru, yn rhannol o leiaf?
Ac yn olaf—
Na, nid oes lle i ‘yn olaf’.
Na? Iawn.
Mae'n ddrwg gennyf. Diolch, Nick. Brif Weinidog.
Wel, diolch i Nick Ramsay. Mae llawdriniaethau wedi ailddechrau yng Nghymru. Mae llawdriniaethau’n digwydd bob dydd. Mae'n fater o flaenoriaethu clinigol. Y rheol yng Nghymru bob amser yw y bydd y rheini sydd â'r angen mwyaf yn cael y gwasanaeth yn gyntaf, a mater i glinigwyr ei drafod â'u cleifion yw hynny. Ni chredaf y bydd rheol fwy manwl na hynny, a'r cyngor yn gyffredinol yw y bydd yn rhaid i bobl drafod y mater â'u meddyg ymgynghorol a chael cyngor yn y ffordd honno.
O ran canolfannau marchogaeth dan do, rwyf eisoes wedi trafod hyn yn gynharach yr wythnos hon gyda'r prif swyddog meddygol ac eraill; mae'n rhan o'r adolygiad tair wythnos cyfredol. Os ydym mewn sefyllfa ar ei ddiwedd i lacio ymhellach, gall y sefydliadau yng Nghymru sy'n gweithredu ym maes marchogaeth wybod ein bod yn mynd ati’n weithredol i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud ar eu cyfer.
Mae llawer o rieni wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon am y lleoedd cyfyngedig ar fysiau i ysgolion. Mae problemau ar bob bws sy'n effeithio ar weithwyr allweddol hefyd, ond mae prinder lle ar fysiau ysgol yn achosi straen arbennig i rieni sydd â phlant mewn gwahanol ysgolion, i rieni sydd â phlant mewn ysgolion Cymraeg, y bobl sydd wedi talu am le yn y gorffennol ac na allant wneud hynny mwyach. Felly, beth a ddywedwch wrth y rhieni hynny, gan gynnwys mam plentyn awtistig sy'n methu cael sedd ar fws i'w mab gyrraedd yr ysgol ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol uwchradd? A sut rydych yn ystyried y ddwy astudiaeth a gyhoeddwyd gan rwydwaith JAMA Pediatrics sy'n awgrymu bod plant ifanc yn lledaenu COVID-19 yn fwy effeithlon nag oedolion, gan beri risg amlwg i berthnasau bregus? Ymddengys i mi fod hynny'n mynd yn groes i’ch cyhoeddiad ar roi diwedd ar fesurau cadw pellter cymdeithasol i rai dan 11 oed. Felly, a wnewch chi gyhoeddi'r cyngor a arweiniodd at y penderfyniad hwnnw, ac a wnewch chi ymrwymo i ystyried yr ymchwil newydd hon a'i heffaith, yn enwedig ar ein dinasyddion mwyaf bregus?
Lywydd, rydym yn cyhoeddi'r cyngor yn wythnosol, felly bydd yr Aelod yn gweld hynny i gyd, fel y bydd eisoes wedi gallu gweld yr holl dystiolaeth rydym wedi'i chyhoeddi ar drosglwyddiad ymhlith plant a’r perygl i blant o ddal yr haint. Bydd ein grŵp cynghori technegol yn edrych ar y ddwy astudiaeth hon, ac os bydd yn newid eu meddyliau, byddant yn dweud hynny wrthym. Ond mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth wedi bod ar ochr arall y rhaniad hwnnw, gan gynnwys mewn lleoedd fel Denmarc, lle mae ganddynt fwy o brofiad eisoes o blant yn dychwelyd i'r ysgol. Felly, mae mwy nag un astudiaeth yma, ac nid yw mwyafrif y dystiolaeth ar yr ochr y mae'r Aelod wedi'i nodi hyd yma.
O ran lleoedd ar fysiau, rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr bysiau i sicrhau ein bod, i'r graddau mwyaf sy'n bosibl, yn gallu darparu cludiant ysgol effeithiol i blant sy'n dychwelyd i'r ysgol yn yr hydref.
Rwy’n llwyr gefnogi safbwynt y Llywodraeth o ran blaenoriaethu dychweliad pob disgybl, gobeithio, i’r ysgol erbyn dechrau’r flwyddyn ysgol y mis nesaf. Yn gysylltiedig â'r newid pwysig i'r rheoliadau ddydd Gwener diwethaf nad oes angen i blant hyd at 11 oed gadw pellter cymdeithasol mwyach, oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion, rwy'n awyddus i ddeall sut y bydd hynny'n hwyluso ailagor pob ysgol gynradd ar gyfer pob disgybl yn llawnamser, a hefyd a fydd hynny wedyn yn galluogi clybiau brecwast a gwasanaethau ar ôl ysgol cofleidiol i weithredu fel arfer hefyd, gan fy mod yn siŵr y bydd hynny'n ddefnyddiol iawn i rieni y bydd angen iddynt wneud trefniadau eraill ar gyfer gofal plant fel arall.
Gan gymryd bod y wybodaeth o Ddenmarc a mannau eraill yn dal dŵr ar ôl craffu arni ac nad yw plant ysgolion cynradd yn ffynhonnell ar gyfer lledaenu’r coronafeirws, yn amlwg, mae hynny’n ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar yr ysgolion uwchradd, lle mae angen mesurau cadw pellter cymdeithasol, a tybed sut y mae’r Llywodraeth yn cynorthwyo ysgolion uwchradd i sicrhau bod y nifer uchaf o ddisgyblion yn gallu mynychu y rhan fwyaf o'r amser.
Ac yn olaf, roeddwn—
Na. Nid oes lle i'ch ‘yn olaf' chi chwaith, mae'n ddrwg gennyf, Jenny. Y Prif Weinidog.
Wel, Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am ei chefnogaeth gadarn iawn drwy gydol hyn i blant a'r angen i'r plant hynny fod yn ôl yn yr ysgol. Mae'r wyddoniaeth yn newid mewn perthynas â’r coronafeirws. Mae aelodau Plaid Cymru wedi tynnu sylw at astudiaethau pellach heddiw, astudiaethau y mae angen eu hystyried, ond mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth rydym wedi’i gweld yn nodi nad yw plant yn lledaenu’r afiechyd ac nad ydynt yn dioddef o’r clefyd i’r un graddau ag eraill.
Mae plant yn dioddef mewn ffyrdd eraill. Mae plant o dan 11 oed sy’n clywed bod yn rhaid iddynt gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl y maent yn eu caru a phlant eraill y maent yn eu hadnabod yn dioddef drwy hynny hefyd. Felly, roeddwn yn falch iawn ddydd Gwener ein bod wedi gallu dweud bod y dystiolaeth yn dweud wrthym y gallwn godi'r cyfyngiad hwnnw ar eu bywydau, a dylai olygu y bydd y broses o ailagor ysgolion ym mis Medi yn haws yn y ffordd honno.
Nid dyma'r unig ran o'r darlun, fel y gwn fod Jenny Rathbone yn gwybod. Rhaid inni feddwl am oedolion yn yr ysgol. Nid yn yr ystafell ddosbarth y mae llawer o'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ysgolion i'w canfod; maent yn deillio o’r ffordd y mae pobl yn cyrraedd yr ysgol ac yn gadael yr ysgol, a'r holl bethau sy'n digwydd o amgylch ysgol. Felly, bydd penaethiaid yn dal i feddwl yn ofalus ynglŷn ag ailagor i'r graddau mwyaf y gallant ei wneud, gan gynnwys clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol ac ati.
Ac mewn ysgolion uwchradd, mae gennym fantais unigryw yng Nghymru yn yr ystyr fod plant wedi bod yn ôl yn yr ysgol uwchradd ddiwedd mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf, ac mae penaethiaid wedi dysgu llawer o hynny. Rydym yn gwneud llawer gyda'r sector i sicrhau bod y profiad hwnnw'n cael ei rannu a bod athrawon yn gallu dychwelyd i'r ystafell ddosbarth gyda phlant oedran uwchradd i'r graddau mwyaf sy'n bosibl.
Rydym yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol ar ddechrau'r tymor ysgol i ganiatáu i bobl wneud addasiadau yn yr ychydig wythnosau cyntaf hynny, a'n nod wedyn yw sicrhau bod cymaint â phosibl o blant yn dychwelyd am gymaint â phosibl o amser am fod hynny er lles iddynt, fel y mae ein comisiynydd plant ein hunain, yn ogystal â'r comisiynydd plant yn Lloegr, wedi’i ddweud mor rymus.
Neil Hamilton. Ni allaf eich clywed ar hyn o bryd, Neil Hamilton. Ie.
Diolch, Lywydd. Yn ystod ei ddatganiad, dywedodd y Prif Weinidog fod y rhagolygon mewn perthynas â'r coronafeirws
'wedi gwaethygu mewn sawl rhan o'r byd', ond un wlad lle nad yw hynny'n wir yw Sweden. Mae Sweden wedi cael 81,000 o achosion i gyd ers dechrau'r pandemig, ond y sefyllfa ddoe oedd mai dim ond 41 o bobl a gofrestrwyd fel rhai sydd mewn cyflwr difrifol neu gritigol, ac mae cyfartaledd symudol saith diwrnod y marwolaethau wedi gostwng bellach i rhwng un neu ddau y dydd.
Ar ddechrau'r cyfyngiadau symud ym Mhrydain, fe ddewisodd Sweden lwybr tra gwahanol. Ni chawsant gyfyngiadau symud gorfodol o gwbl, a dywedodd yr Athro Tegnell, prif gynghorydd Llywodraeth Sweden, na fyddai cyfyngiadau symud ond yn gohirio heintiau a marwolaethau ac na fyddent yn eu hatal rhag digwydd. Ymddengys bod hynny wedi'i gadarnhau gan brofiadau yn Lloegr, y cyfeiriodd y Prif Weinidog atynt.
Ar y sail honno, felly, er bod yn rhaid i bobl barhau i fod yn bersonol gyfrifol am arfer rhagofalon synhwyrol drwy gadw pellter cymdeithasol ac osgoi creu risgiau i'r rhai sy'n agored i niwed—yr henoed a'r rhai sydd â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes—a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod hi'n hollbwysig yn awr inni sicrhau bod yr economi mor iach ag y gallwn? Oherwydd mae cost economaidd i'r cyfyngiadau symud, ond hefyd, wrth gwrs, mae cost mewn pobl sydd â chlefydau difrifol na cheir diagnosis ohonynt ac na chânt eu trin, ac felly, dylem fod yn ystyriol yn ein hymateb a pheidio â chael ein dychryn gan y cynnydd diweddar yn yr achosion mewn rhannau eraill o Loegr.
Wel, Lywydd, mae tröedigaeth yr Aelod at achos democratiaeth gymdeithasol Sgandinafia wedi bod yn un o ffenomenau holl brofiad y coronafeirws. Ac mae'r sefyllfa yn Sweden yn llawer mwy cymysg nag y credaf ei fod yn dymuno ei awgrymu: cafwyd mwy o farwolaethau yn Sweden na Denmarc a Norwy gyda'i gilydd, a chafodd eu sector cartrefi gofal ei effeithio'n arbennig o wael. Felly, ni ddylai neb gredu bod un enghraifft wych i'w chael hyd yn oed yn Sweden.
Ond ar bwynt cyffredinol, nid wyf yn anghytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud: rydym eisiau i'r economi yng Nghymru ailagor, rydym eisiau i bobl gael bywoliaeth o'u blaenau ac i fusnesau lwyddo. Ond dyna pam ein bod wedi mynd ati yn y ffordd a wnaethom, oherwydd nid wyf yn credu bod dim yn anos i fusnes nag agor a chau wedyn, ac yna ailagor a'r perygl o gau eto. Oherwydd mae hynny'n erydu'r hyder y cyfeiriodd Carwyn Jones ato'n gynharach yn y sesiwn yn y bobl y mae'r busnesau hynny'n dibynnu arnynt: eu cwsmeriaid. Ac mae'r ffordd rydym wedi ceisio ei wneud yng Nghymru, mewn ffordd gam wrth gam heb, hyd yma, orfod gwrthdroi'r mesurau a gyflwynwyd gennym, yn dda i fusnes yn fy marn i, ac mae angen i fusnesau lwyddo mewn argyfwng sy'n economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd.
Ond fy nadl i fyddai fod ein hymagwedd tuag at hyn wedi bod yn dda, nid yn unig i iechyd y cyhoedd, ond mae'r hyn sy'n dda i iechyd y cyhoedd yn dda i fusnes, a dyna'r ffordd rydym wedi ceisio mynd ati.
Yn olaf, Jack Sargeant.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, mae trigolion wedi cysylltu â mi ynglŷn ag aelodau o'u teuluoedd sydd wedi dal coronafeirws tra yn yr ysbyty. Fel y gallwch ddychmygu, maent yn ddig ac yn ofnus iawn, a hynny'n gwbl briodol. Nawr, Brif Weinidog, mae hyn wedi digwydd mwy yng ngogledd Cymru nag yn unman arall, ac mae angen i bobl wybod eu bod yn ddiogel pan fyddant yn mynd i'r ysbyty. A wnewch chi ofyn i'ch swyddogion siarad â'r bwrdd iechyd i ofyn iddynt adolygu'r gweithdrefnau yng ngogledd Cymru, gyda'r nod o sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto yn y dyfodol?
Lywydd, diolch i Jack am hynny, ac wrth gwrs rwy'n deall ac yn cydymdeimlo â'r bobl sydd â pherthnasau yn yr ysbyty ac sy'n ofni dal coronafeirws pan fyddant yno. Mewn gwirionedd, bu hynny'n fwy nodweddiadol o dde Cymru, a de-ddwyrain Cymru yn enwedig, nag unrhyw ran arall o Gymru, gan gynnwys y gogledd.
Ond rwy'n rhoi sicrwydd llwyr i Jack Sargeant fod fy swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â'r tîm rheoli achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Rwyf wedi cyfarfod â hwy fy hun ddwywaith gyda'r Gweinidog iechyd yn y pum niwrnod diwethaf, i glywed am y gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth a chyngor sydd ei angen arnynt. Ac fel rwy'n dweud, rwy'n credu mai'r newyddion calonogol yw bod y sefyllfa yn yr ysbyty wedi sefydlogi, fod nifer yr heintiau newydd wedi bod yn isel yn ystod y dyddiau diwethaf, a chyda'r holl gamau sydd wedi'u cymryd eisoes, credaf y gall cleifion fod yn fwyfwy hyderus fod y digwyddiadau yn Ysbyty Maelor Wrecsam bellach o dan reolaeth.
Diolch i'r Prif Weinidog.