Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 24 Mai 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'n newyddion da bod y gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu cyswllt traws-gwm yn rhan ddeheuol Cwm Cynon, diolch i'r ffaith fod Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda'i gilydd ac yn buddsoddi i wella rhwydweithiau lleol. A fyddwch chi’n parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i fwrw ymlaen â’r prosiect seilwaith pwysig hwn, sydd â'r potensial i fod o fudd i gymudwyr ac i roi hwb i adfywiad economaidd ledled fy etholaeth?