<p>Seilwaith Trafnidiaeth yng Nghwm Cynon</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Byddwn, mi fyddwn. Dyddiau cynnar yw hi eto, wrth gwrs, gan mai dyma’r gwaith paratoadol sy'n cael ei wneud, ond byddem yn disgwyl i Rhondda Cynon Taf wneud cyflwyniad ffurfiol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn gwybod bod Aberdâr yn agos yn ddaearyddol at yr A470 a'r A465, ond rydym ni’n gwybod nad yw’r ffyrdd yn dda o ran pobl yn dod i mewn i Aberdâr, ac mae'n bwysig cael llwybr cyflym allan i Flaenau'r Cymoedd o'r dref. Byddwn yn gweithio, wrth gwrs, gyda chyngor Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod hynny'n digwydd yn y blynyddoedd i ddod.