2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r seilwaith drafnidiaeth yng Nghwm Cynon am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0005(FM)
Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ym mhob rhan o Gymru. Erbyn hyn, nodir mai cysylltiad Cwm Cynon yw’r cynllun â’r brif flaenoriaeth yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2015-20, ac rydym ni wedi dyrannu arian i'r cyngor i ddatblygu cynllun Porth y De Cynon.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'n newyddion da bod y gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu cyswllt traws-gwm yn rhan ddeheuol Cwm Cynon, diolch i'r ffaith fod Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda'i gilydd ac yn buddsoddi i wella rhwydweithiau lleol. A fyddwch chi’n parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i fwrw ymlaen â’r prosiect seilwaith pwysig hwn, sydd â'r potensial i fod o fudd i gymudwyr ac i roi hwb i adfywiad economaidd ledled fy etholaeth?
Byddwn, mi fyddwn. Dyddiau cynnar yw hi eto, wrth gwrs, gan mai dyma’r gwaith paratoadol sy'n cael ei wneud, ond byddem yn disgwyl i Rhondda Cynon Taf wneud cyflwyniad ffurfiol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn gwybod bod Aberdâr yn agos yn ddaearyddol at yr A470 a'r A465, ond rydym ni’n gwybod nad yw’r ffyrdd yn dda o ran pobl yn dod i mewn i Aberdâr, ac mae'n bwysig cael llwybr cyflym allan i Flaenau'r Cymoedd o'r dref. Byddwn yn gweithio, wrth gwrs, gyda chyngor Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod hynny'n digwydd yn y blynyddoedd i ddod.
Brif Weinidog, mae arweinydd Rhondda Cynon Taf wedi dweud bod y model cytundeb dinas yn allweddol erbyn hyn i wella seilwaith trafnidiaeth a hybu adfywiad economaidd. A fydd eich Llywodraeth, yn y tymor i ddod, yn gweithio'n effeithiol gyda’r holl bartneriaid i sicrhau bod y model cytundeb dinas yn cael ei roi ar waith yn effeithiol?
Bydd, yn sicr. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda'r 10 awdurdod lleol dan sylw i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn dwyn ffrwyth. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn ddibynnol, wrth gwrs, ar arian o lawer o wahanol ffynonellau. Rydym ni’n gwybod bod y metro, er enghraifft, yn ddibynnol ar £125 miliwn o gyllid o ffynonellau Ewropeaidd, a phe byddai hwnnw’n cael ei golli, byddai'n peryglu hyfywedd y metro. Ond byddwn yn parhau i weithio, wrth gwrs, gyda phob lefel o Lywodraeth i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn cael ei ddatblygu.