Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 24 Mai 2016.
Mae'n fygythiad, fel y gwyddom. Mae rhoi gormod o wrthfiotigau ar bresgripsiwn ac ymwrthedd iddynt yn broblem fyd-eang sy'n gofyn am atebion byd-eang. Serch hynny, mae gennym ni gynllun cyflawni yng Nghymru—glasbrint ar gyfer camau gweithredu penodol a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar arafu lledaeniad ymwrthedd. Ceir 12 o gamau gweithredu penodol yn y cynllun hwnnw. Maent i gyd wedi eu cynllunio, wrth gwrs, i wneud yn siŵr ein bod yn cyfrannu at arafu ymwrthedd, o ran bacteria a firysau, i gyffuriau sydd wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd maith. Mae rhai o'r straeon yr wyf i wedi eu gweld yn y newyddion yn peri dychryn, o ran yr hyn a allai ddigwydd oni bai y buddsoddir mewn gwaith ymchwil nawr.