Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 24 Mai 2016.
Mae'n braf clywed, Brif Weinidog, eich bod yn cydnabod bod hwn wir yn fygythiad byd-eang i iechyd a chyfraddau goroesi dynol o achosion cyffredin. Rydym ni wedi tybio erioed y byddem yn goroesi’n rhwydd y clefydau cyffredin a allai achosi marwolaeth erbyn hyn. Mae'r Athro O'Neill yn galw am weithredu byd-eang ar hyn, o ran gorddefnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid yn ogystal â gorddefnyddio presgripsiynau ar eu cyfer i fodau dynol. Tybed sut y mae’r cynllun cyflawni hwn a gyhoeddwyd ychydig cyn i ni fynd i’r toriad yn mynd i ymdrin â’r amrywiadau o ran arferion, yn ein hysbytai ac yn ein meddygfeydd. Rwy’n sylwi’n benodol, yng nghlwstwr meddygon teulu dwyrain Caerdydd, bod gorbresgripsiynu sylweddol ar gyfer clefydau anadlol o’i gymharu â chlystyrau eraill, a byddai'n ddefnyddiol archwilio pam mae’r gwahaniaethau hyn yn bodoli a sut yr ydym ni’n mynd i ymdrin â nhw.