<p>Gorddefnyddio Gwrthfiotigau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:18, 24 Mai 2016

Brif Weinidog, efallai eich bod yn cytuno â fi wrth i fi ddweud bod y defnydd, neu’r gorddefnydd, o wrthfiotigau yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd, i ddweud y gwir. Fel rydym yn ymwybodol, mae’r defnydd o wrthfiotig yn digwydd yn y byd amaeth, yn ogystal, wrth gwrs, a chan feddygon teulu ac yn ein hysbytai. Wrth gwrs, mewn rhai gwledydd yn Ewrop ac ymhellach, rydych jest yn gallu prynu gwrthfiotig—nid oes yn rhaid ichi gael presgripsiwn yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, mae yna bwysau cynyddol ar feddygon, yn enwedig yn ein practisys ni, efallai, i fod yn rhagnodi pan, efallai, o gofio bod y llwnc tost arferol yn mynd i gael ei achosi gan firws, nid gwrthfiotig ydy’r driniaeth orau. Mae’n bwysig i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o hynny yn ogystal â’r meddygon hefyd. Felly, a fyddech chi’n cytuno bod angen codi ymwybyddiaeth, ond mai ein cyfrifoldeb ni i gyd ydy’r defnydd o wrthfiotig, neu’r camddefnydd neu’r gorddefnydd o wrthfiotig?