<p>Gorddefnyddio Gwrthfiotigau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:19, 24 Mai 2016

Nid wyf yn mynd i goethan â doctor; mae e’n iawn i ddweud, wrth gwrs, fod yna ddyletswydd arnom ni i gyd i sicrhau nad ydym yn gorofyn. Mae yna dueddiad i bobl feddwl, os oes rhywbeth yn bod arnoch chi, fod yna bilsen i bopeth. Nid felly y mae hi, wrth gwrs, ac mae hi’n bwysig bod pobl yn sylweddoli, gyda rhai pethau, nad oes yn rhaid cael antibiotig. Byddai antibiotig ddim yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw gyda firws ta beth. Felly, rwy’n derbyn y pwynt nad yw hwn yn ddyletswydd dim ond i ddoctoriaid, ond yn ddyletswydd ar y cyhoedd yn gyfan gwbl.