2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.
9. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â llygredd aer yng Nghymru? OAQ(5)0008(FM)
Rydym ni’n llunio cynigion i adnewyddu’r system o reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru, ac mae gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus swyddogaeth allweddol o ran sicrhau hynny.
Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod llygredd aer trefol yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus, a rhestrodd Casnewydd ymhlith y pump uchaf yng Nghymru. Gan fod llygredd aer yn fater iechyd cyhoeddus, rydym ni’n gwybod y bydd cynnydd mawr i lygredd aer yn ystod cyfnodau o dagfeydd traffig. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i’m hetholwyr y bydd mesurau effeithiol yn cael eu cymryd i leddfu tagfeydd sy'n dod drwy Gasnewydd ar yr M4?
Ie, rydym ni’n gwybod bod tagfeydd yn broblem feunyddiol ar yr M4 a thwneli Brynglas. Nid yw'n mynd i ddiflannu. Mae angen rhoi sylw iddo, ac mae'n un o’r prif achosion o lygredd aer pan fo ceir yn segur, yn y twneli ac wrth aros i fynd i mewn i'r twneli. Mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith andwyol ar ansawdd yr aer. Felly, bydd cael gwared ar y tagfeydd traffig hynny yn hynod bwysig i wella ansawdd aer yn y dyfodol.