4. 2. Datganiad: Penodiadau i'r Cabinet

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:39, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf hefyd yn llongyfarch yr holl Ysgrifenyddion—mae'n ddrwg gennyf; nid ydynt yn Weinidogion bellach—am gael eu penodi gennych chi yr wythnos diwethaf, ac rwyf yn dymuno yn dda iddynt yn eu hymdrechion, er tegwch. Efallai eu bod ar ochr arall y ffens i mi yn wleidyddol, ond yn amlwg mae llawer o bobl yn dibynnu ar y penderfyniadau yr ydych chi a’ch swyddogion yn eu gwneud, ac, mewn gwirionedd, nid wyf yn credu ei bod yn werth i unrhyw un ohonom deimlo unrhyw atgasedd tuag atoch gan y bydd llawer o bobl yn dioddef os byddwch yn gwneud camgymeriadau. Ond, byddwn ni fel gwrthblaid yn amlwg yn eich dwyn i gyfrif ac ni fyddwn yn dal her rhag gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich dwyn i gyfrif am y penderfyniadau a'r gweithredoedd y byddwch yn eu gwneud fel Llywodraeth—yn wir, fel Llywodraeth glymblaid bellach, yn amlwg gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eistedd ar y fainc flaen gyda chi yn y fan yna.

Byddwn yn ddiolchgar, Brif Weinidog, pe gallech ymhelaethu ymhellach ar y cytundeb y gwnaethoch â'r cenedlaetholwyr Cymreig yr wythnos diwethaf o ran y pwyllgorau neu grwpiau ymgynghorol. Nid wyf yn hollol siŵr beth yw eu statws, na beth yw eu swyddogaeth ffurfiol yn y Llywodraeth, ac nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl eraill yn gwybod ychwaith, i fod yn onest â chi. Ac rwyf yn meddwl bod eich sylwadau ddydd Sul yn cyfeirio at y ffaith eich bod chithau hefyd wedi drysu ychydig ynglŷn â seilwaith, ynglŷn â beth yn union yr oedd Plaid Cymru yn ofyn amdano o ran y cais seilwaith i'ch Llywodraeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut yn union y bydd y grwpiau neu’r pwyllgorau gwaith hynny yn gweithio o fewn y Llywodraeth. Yn arbennig, rydych wedi dweud y byddai eich Llywodraeth yn darparu Gweinidogion fel cynrychiolwyr, ac yn amlwg byddai'r ysgrifenyddiaeth yn dod o'r gwasanaeth sifil. A yw’n ddisgwyliedig gan Blaid Cymru felly, y bydd y cynrychiolwyr yn Aelodau'r Cynulliad neu a gânt enwebu unrhyw un i fod ar y gweithgorau hynny? Ac a fydd y Llywodraeth yn rhwymedig i ganlyniadau’r pwyllgorau a’r gweithgorau hynny a sefydlwyd drwy'r cytundeb a wnaethoch yr wythnos diwethaf a oedd yn caniatáu i'ch enwebiad fynd ymlaen?

Hoffwn hefyd ddeall yn union nawr lle y mae Betsi yn sefyll, oherwydd yn amlwg roedd gan y Dirprwy Weinidog gyfrifoldeb am y mesurau arbennig a gyflwynwyd yn Betsi Cadwaladr yn y gogledd, ac yr wyf yn tybio bod hynny’n wir o hyd, sef mai’r Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol, neu a yw’r cyfrifoldeb wedi’i drosglwyddo i'r Gweinidog llawn —yr Ysgrifennydd, ddylwn i ddweud—yr Ysgrifennydd iechyd llawn yn y Llywodraeth newydd hon? A ydych chi'n gallu nodi unrhyw gynnydd o ran Betsi yn symud allan o fesurau arbennig? Byddai hynny'n rhoi cryn sicrwydd i'r nifer fawr o bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau’r bwrdd iechyd lleol hwnnw.

Rwyf hefyd yn croesawu Lesley Griffiths i’w swyddogaeth materion gwledig a'r amgylchedd. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hynny oherwydd fy nghefndir amaethyddol ac rwyf yn nodi eich bod yn sôn am roi pwyslais ar weithredu’n lleol. Un o'r prif faterion y byddwn yn awgrymu y byddai’r gymuned amaethyddol yn benodol eisiau gweld cynnydd gan y Llywodraeth newydd ynglŷn ag ef yw TB mewn gwartheg. Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn gweld hynny fel blaenoriaeth ar gyfer eich Llywodraeth newydd, o ystyried, yn amlwg, fod y rhaglen frechu wedi ei hatal dros dro yn y Cynulliad diwethaf. Rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud y geiriau 'atal dros dro', oherwydd rhoddwyd y gorau i roi'r brechlyn. Pa eglurder y gallwch ei roi, gan fod eich Llywodraeth newydd wedi'i sefydlu bellach, ynghylch pa gamau y gallech chi eu cymryd i ddileu—ac rwyf yn defnyddio'r gair 'dileu'—TB mewn gwartheg yng Nghymru?

Hoffwn hefyd ddeall yn union sut y mae swyddfa’r Cabinet yn mynd i weithio. Yr wythnos diwethaf yn eich datganiad cyfeiriasoch at y ffaith y byddai'r Llywodraeth yn ffurfio swyddfa Cabinet, yn wahanol i’r adeg hon yn y Cynulliad diwethaf pan oedd llawer o sôn am yr uned gyflawni. Nawr, fel yr wyf wedi deall o'ch sylwadau yr wythnos diwethaf, mae'r uned gyflawni yn datblygu i fod yn swyddfa Cabinet. Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r gwahaniaeth, efallai y gallech chi ddweud wrthym, oherwydd credaf ein bod i gyd mewn gwirionedd yn awyddus i weld mwy o gyflawni a mwy o ddylanwad gan sefydliad o'r fath. Ai eich cyfrifoldeb chi, fel Prif Weinidog, neu ai cyfrifoldeb arweinydd y tŷ fydd hwn, oherwydd mae'n amlwg bod yr uned gyflawni yn adrodd i chi, swyddfa'r Prif Weinidog?

Hoffwn ymhelaethu ar y sylwadau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru, yn benodol ar addysg, oherwydd mewn gwirionedd, byddwn yn awgrymu ei fod yn cwmpasu pedair adran. Carl Sargeant sy’n gyfrifol am blant, Julie James sy’n gyfrifol am sgiliau, Kirsty Williams sy’n gyfrifol am y portffolio addysg ac Alun Davies sy’n gyfrifol am ddysgu gydol oes. Wrth lunio eich Cabinet, pam yr ydych wedi barnu ei bod yn angenrheidiol cael cymaint o swyddogaethau sy'n effeithio ar gynifer o bobl ifanc ym mhob rhan o'r Llywodraeth? Rwyf yn cymryd bod llawer o adrannau yn rhannu cyfrifoldebau, ond rydych wedi neilltuo’r cyfrifoldebau hynny yn glir i bedwar deiliad portffolio gwahanol, ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig deall beth oedd eich meddylfryd wrth wneud hynny, a sut yr ydych yn credu y bydd y swyddogaeth honno yn cael ei chyflwyno ar draws y Llywodraeth fel y ceir dilyniant ac y bydd y dyheadau y byddwch yn eu nodi, yn ddiau, yn cael eu cyflawni yn eich rhaglen lywodraethu.

Byddaf yn terfynu gyda’r sylw olaf yr hoffwn ei wneud, sef eich bod wedi dod ag Alun Davies yn ôl i'r Llywodraeth. Rwyf yn dymuno'n dda iddo yn ei ymdrechion fel Dirprwy Weinidog, ond rwyf yn cyfeirio at eich sylwadau pan adawodd Alun Davies y Llywodraeth yn 2014, ac yn enwedig gan fy mod i yn un o'r Aelodau, yr oedd yn ceisio cael gwybodaeth amdano o gofnodion y Llywodraeth—. Dywedasoch mai'r unig gasgliad oedd ei fod eisiau i’r wybodaeth hon gael ei defnyddio yn erbyn yr Aelodau hynny. Pan ofynnwyd i chi a phan roddwyd pwysau arnoch i ateb, dywedasoch eich bod yn rhagweld ei bod yn anodd iawn ei weld yn dod yn ôl i’r Llywodraeth. Felly, beth sydd wedi digwydd yn y cyfamser sy’n rhoi sicrwydd i chi na fydd digwyddiad o’r fath, a achosodd iddo adael eich Llywodraeth yn ôl yn 2014, yn digwydd eto? Oherwydd, ar y pryd nid oeddech yn gallu rhoi’r sicrwydd hwnnw ac rwyf yn credu ei fod yn ddyletswydd arnoch chi fel y Prif Weinidog sydd wedi ei benodi y tro hwn i roi'r sicrwydd yr ydym yn dymuno ei gael i ni.