4. 2. Datganiad: Penodiadau i'r Cabinet

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:44, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Mae nifer o gwestiynau yn y fan yna. Yn gyntaf, ynglŷn â’r cytundeb â Phlaid Cymru, oes, mae rhai materion fel y comisiwn seilwaith cenedlaethol lle y ceir gwahanol farn o ran beth a allai hyn fod, ond dyna fydd testun y trafodaethau.

Mae tri phwyllgor wedi eu sefydlu. Eu hamcan yw nodi materion megis deddfwriaeth yn gynnar i weld lle y ceir tir cyffredin a lle na cheir tir cyffredin, ac yr un gyda’r gyllideb. Mae hynny, yn fy marn i, yn drefniant gwaith call rhwng dwy blaid gyda’r bwriad o ddod i gytundeb yn y misoedd nesaf, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Rwyf yn rhagweld y bydd y pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol bleidiau—mae hynny'n wir. Mater i Blaid Cymru yw dewis pwy fydd yn eu cynrychioli ar y pwyllgorau hynny, ond, o’n hochr ni, Gweinidog fydd yn ein cynrychioli wrth gwrs.

Siaradodd arweinydd y Ceidwadwyr am fod yn rhwymedig i ganlyniadau'r pwyllgorau hynny. Nid dyna natur y pwyllgorau. Mae'r pwyllgorau yno er mwyn dod i gytundeb, ac ar ôl cyrraedd y cytundeb hwnnw, wedyn wrth gwrs, bydd y ddwy blaid mewn sefyllfa lle bydd y pleidiau yn gallu cefnogi'r cytundeb hwnnw.

O ran Betsi Cadwaladr, Vaughan Gethin fydd yn parhau i fod yn gyfrifol amdano. Mae'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Betsi. Mae'n gwneud synnwyr iddo barhau i fod yn gyfrifol am Betsi, a bydd ef yn adrodd yn ôl maes o law ynglŷn â chynnydd.

O ran TB mewn gwartheg, byddwn, wrth gwrs, yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar wyddoniaeth. Un o'r pethau cyntaf y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno fydd y camau nesaf o ran ymdrin â TB mewn gwartheg.

Ydy, mae'n iawn i ddweud nad yw’r uned gyflenwi yn bodoli mwyach. Bydd rhai o'r Aelodau nad ydynt yma bellach yn gweld hynny fel buddugoliaeth fawr—nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny ar ôl yr ymagwedd braidd yn obsesiynol a gymerwyd gan gyn Aelod o'r lle hwn. I bob pwrpas, swyddfa’r Cabinet yw swyddfa'r Prif Weinidog yn y bôn. Mae'n atebol i mi yn gyfan gwbl. Bydd ganddi lawer o wahanol swyddogaethau, er enghraifft, cydlynu'r rhaglen ddeddfwriaethol, cydlynu agenda’r Cabinet a hefyd nodi materion y mae angen ymdrin â hwy yn gynnar ar sail traws-Lywodraethol. Does dim dirgelwch ynghylch hynny; dyna fydd yn ei wneud.

O ran plant, rwyf wedi neilltuo portffolios yn ôl yr hyn sy'n gweddu orau yn fy marn i, ond, yn y pen draw, nid yw Gweinidogion y Cabinet ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn byw ac yn bodoli mewn seilos. Mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y Llywodraeth drwy'r amser a dyna pam, er enghraifft, y bydd mater fel cyllid myfyrwyr yn benderfyniad a wneir gan y Cabinet. Wrth gwrs, mae Gweinidogion portffolio sy'n gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd, ond mae penderfyniadau pwysig sydd angen cyfraniad y Cabinet cyfan. Dyna sut y mae wedi bod erioed a dyna sut y bydd yn y dyfodol.

O ran Alun Davies, wel, Alun, mae'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol yn y gorffennol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd ef yn Weinidog rhagorol ac yn rhywun a fydd yn dod â llawer o arbenigedd i'r Llywodraeth, fel y bydd pob Gweinidog. Mae pob Gweinidog wedi derbyn copi o'r cod gweinidogol ac, wrth gwrs, bydd yn ofynnol i Weinidogion ddangos i mi eu bod wedi ei ddarllen, ac mae hynny'n wir am yr holl Weinidogion. Rwy'n falch o gael yr amrywiaeth o arbenigedd sydd ar gael i mi.