4. 2. Datganiad: Penodiadau i'r Cabinet

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:47, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Fel Andrew R.T. Davies a Leanne Wood, rwyf yn llongyfarch pawb sydd wedi eu penodi i’w swyddi yn y weinyddiaeth hon, yn enwedig Ken Skates, a ddywedodd wrthyf y diwrnod o'r blaen fy mod wedi prynu diod iddo yn Nhŷ'r Cyffredin 20 mlynedd yn ôl. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at gynnig llwncdestun ar ei lwyddiant ac yntau'n mynd i'w boced y tro hwn wrth iddo dalu'n ôl. [Chwerthin.]

Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad y bydd y weinyddiaeth hon yn agored, yn gynhwysol ac yn dryloyw. Mae'n ddrwg gennyf ddweud o ran y pwyllgorau ymgynghorol hyn nad yw'n edrych felly o’r ochr yma i'r cylch mewn gwirionedd, gan na fydd y pwyllgorau hyn ar agor i ni. Byddant yn ein gwahardd, a bydd y modd y byddant yn gwneud penderfyniadau ac yn wir, o bosib y penderfyniadau y byddant yn eu gwneud, yn hynod o anrhyloyw. Rwy'n credu ei fod braidd yn anffodus ei bod yn ymddangos y bydd carfan benodol o Aelodau'r tŷ hwn yn cael eu gwahardd bellach o'r broses o ddatblygu polisi er budd un o’r pleidiau lleiafrifol eraill. Rwy'n credu, er mwyn cael llywodraeth dda yng Nghymru, y byddai o fantais i bawb pe gallai Aelodau’r Ceidwadwyr ac Aelodau UKIP yn eu ffyrdd gwahanol gael eu cynnwys yn y trafodaethau y tu ôl i'r llenni. Byddwn yn ddiau yn anghytuno ar lawer o faterion, ond mae llawer o faterion domestig yng Nghymru y gallwn ddod i gytundeb yn eu cylch a dod o hyd i farn gyffredin rhwng y partïon mewn gwahanol rannau o'r tŷ, ac rwyf yn addo ar ran fy mhlaid fy hun y byddwn yn chwarae rhan adeiladol yn y Siambr hon.

Yn ail, hoffwn longyfarch Kirsty Williams ar ei phenodiad i'r swydd Ysgrifennydd addysg. Rwy'n siŵr y bydd hi’n gwneud gwaith arbennig o dda. Mae hi'n amlwg yn unigolyn galluog iawn, iawn. Gwn ei bod wedi cymryd llawer iawn o ddiddordeb mewn addysg a’i bod wedi cyfrannu at drafodaethau yn y Siambr hon dros lawer o flynyddoedd, ond mae hyn yn cyflwyno problem ddemocrataidd fechan i ni oherwydd, ychydig wythnosau yn ôl, cafodd ei hethol yn AC Democratiaid Rhyddfrydol Brycheiniog a Maesyfed a phleidleisiodd 92 y cant o'i hetholwyr yn erbyn y Blaid Lafur, ac eto, cadarnhaodd y Prif Weinidog, wrth ateb cwestiwn yn gynharach, y byddai Kirsty Williams yn rhwymedig i gydgyfrifoldeb, ac felly, i bob pwrpas, wedi dod yn AC Llafur yn y Siambr hon. Pan adawodd fy nghyfaill anrhydeddus, Mark Reckless y Blaid Geidwadol i ymuno ag UKIP, gofynnodd am gefnogaeth ei etholwyr yn Rochester mewn is-etholiad ac rwy’n credu mai dyna fuddai'r peth anrhydeddus i'w wneud. Tybed a fydd y Prif Weinidog yn cytuno y byddai hynny'n briodol ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.