Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 24 Mai 2016.
Yn gyntaf oll, rwyf yn credu y bydd yr Aelod yn synnu at faint o dryloywder sy'n bodoli yn y lle hwn o'i gymharu â San Steffan [Chwerthin.] Bydd ef yn sicr yn dod yn ymwybodol o’r ceisiadau rhyddid gwybodaeth yr ydym yn eu derbyn fel Llywodraeth ac yn wir, y tryloywder y mae Aelodau yn gweithredu yn unol ag ef yn y lle hwn ac y maent wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer. Nid oes cyfrinach ynglŷn â’r hyn y cytunwyd arno; rydym wedi cyhoeddi blaenoriaethau cyffredin rhwng Llafur Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac mae natur y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yno i bawb ei gweld. Nid yw'n gytundeb cyfrinachol; mae wedi ei gyhoeddi a gall pobl ei weld yn union beth ydyw: ffordd o sicrhau y bydd perthynas waith—nid cytundeb; rydym yn gwybod hynny; gwyddom y bydd meysydd y byddwn yn anghytuno arnynt—ond fframwaith gwaith y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y dyfodol.
Gallaf sicrhau arweinydd UKIP nad yw Kirsty Williams yn AC Llafur Cymru; mae hi yn sicr yn Ddemocrat Rhyddfrydol. Pe byddem yn cymryd rhesymeg ei ddadl i'w chasgliad llawn, byddai pob un AS y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymddiswyddo yn 2010 pan sefydlwyd y glymblaid yn San Steffan. Yn amlwg, mae hwn yn gytundeb sydd gennym ar waith er mwyn symud Cymru ymlaen, er mwyn darparu sefydlogrwydd ac wrth gwrs, er mwyn rhoi dyfodol gwell a mwy disglair i'n pobl. Rydym wedi gwneud hynny drwy nodi blaenoriaethau cyffredin gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny drwy'r compact yr ydym wedi ei gyrraedd â Phlaid Cymru. Dyna'r ffordd y dylid cynnal gwleidyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen a byddaf yn ei ddweud eto: nid oes diben glynu wrth eich llwyth dim ond er mwyn glynu wrth eich llwyth. Nid felly y mae'r cyhoedd yn meddwl, ac mae'n hynod BWYSIG— [Torri ar draws.] Wel, mae'r Ceidwadwyr wedi disgyn yn syth i'r trap a osodwyd ar eu cyfer yn y fan yna, ond wrth i mi ddweud na ddylid glynu wrth eich llwyth dim ond er mwyn glynu wrth eich llwyth, mae hynny wedi dangos mai dyna'n union yr hyn ydynt.
Byddwn yn parhau i fod yn dryloyw a byddwn yn parhau i fod yn agored. Wrth gwrs y bydd anghytuno o fewn y Siambr hon—dyna beth yw natur democratiaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel Llywodraeth i geisio cydweithio â phleidiau eraill er mwyn cyflawni blaenoriaethau cyffredin ac er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer ein pobl, a dyna'r ysbryd y trafodaethau a gawsom gyda Kirsty Williams a'r Democratiaid Rhyddfrydol a hefyd, wrth gwrs, â Phlaid Cymru.