Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 24 Mai 2016.
Brif Weinidog, rwyf yn gobeithio y caf gyflwyno dymuniadau da sydd ychydig yn llai pigog i chi a'ch Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod er budd pob un ohonom bod y Llywodraeth hon yn gweithio mor effeithiol â phosibl, ac edrychaf ymlaen at gefnogi llawer o'r hyn yr ydych yn ei wneud. Bydd nifer o wahaniaethau a byddaf yn egnïol iawn wrth fynd i’r afael â’r rheiny.
A gaf i groesawu yn benodol, penodiad Kirsty Williams i’r Cabinet? Rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad da iawn i wleidyddiaeth Cymru. Mae angen i ni ehangu’r model o sut yr ydym yn cynnal gwleidyddiaeth yn y Siambr hon. Nid wyf yn credu bod llawer o newyddiadurwyr yn cadw’r dudalen flaen yn wag er mwyn cynnwys y pennawd, 'Sioc—y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno â Llafur mewn gweinyddiaeth'. Rwyf bob amser wedi ystyried sylwadau Kirsty yma yn rhai meddylgar, perthnasol a chlir, ac, yn wir, yn y pedwerydd Cynulliad, credaf ei bod wedi cyflawni swyddogaeth y prif chwilyswr i raddau—swyddogaeth yr wyf yn gobeithio y byddwch yn parhau i’w chyflawni, er y bydd hynny yng nghyfrinachedd trafodion y Cabinet, wrth gwrs.
Croesawaf y ffaith fod buddiannau plant wedi eu nodi fel cyfrifoldeb gweinidogol penodol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Carl Sargeant ym mha ffordd bynnag bosibl i godi materion sy'n peri pryder mawr i mi, yn enwedig ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal. Brif Weinidog, yr wythnos hon yr ydym wedi gweld tystiolaeth sy'n peri pryder o weithredu gwahaniaethol gan y system cyfiawnder troseddol, er yn aml heb fod bwriad o wneud hynny, yn erbyn plant sy'n derbyn gofal, ac rwyf yn gobeithio y byddwch chi a'ch cydweithwyr yn rhoi sylw gofalus i adolygiad yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai.
Yn fwy cadarnhaol, clywsom yr wythnos diwethaf fod y Prif Weinidog wedi ffurfio is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer pobl ifanc sy'n derbyn gofal a'i swyddogaeth fydd llunio cytundebau traws-adrannol. A gaf i argymell bod y dull hwn neu rywbeth cyfatebol sy'n addas ar gyfer Cabinet Cymru yn cael ei ddilyn, oherwydd bod y rhyng-gysylltiadau—. Mae'n anochel y bydd addysg, iechyd a meysydd gofal cymdeithasol eraill yn mynd i fod yn hanfodol bwysig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac ni allwch gynnwys popeth o dan un cyfrifoldeb gweinidogol. Ond, mae gwaith effeithiol yn lluosi’r canlyniadau yn hytrach na dim ond eu hychwanegu at ei gilydd. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei wneud ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Yn y pumed sesiwn hwn o’r Cynulliad Cenedlaethol, gadewch i ni ddangos o ddifrif arfer gorau rhagorol er mwyn gwneud cynnydd dros blant sy'n derbyn gofal.