Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 24 Mai 2016.
A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei sylwadau? Bydd yn gwybod fy mod i wedi cymryd diddordeb yn y mater hwn ers rhai blynyddoedd o ystyried y tanberfformiad y gwyddom amdano o ran plant sy’n derbyn gofal o fewn y system addysg. Yr anhawster yw, wrth gwrs, fod plant sy'n derbyn gofal angen sawl gwahanol fath o gefnogaeth, boed hynny drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, trwy'r system addysg, neu trwy’r gwasanaethau iechyd. Mae plant sy'n derbyn gofal yn rhan o bortffolio Carl Sargeant. Gwnaed hynny yn fwriadol fel y gellir dilyn ymagwedd gyfannol er mwyn gwella canlyniadau ar eu cyfer. Gwyddom, yn anecdotaidd o leiaf, ei bod yn fwy tebygol i blentyn sy’n derbyn gofal fynd i’r carchar yn hytrach nag i brifysgol. Nid yw hynny yn rhywbeth y gallwn ni ei oddef fel cymdeithas. Mae'n rhywbeth yr wyf i yn sicr wedi cymryd diddordeb personol ynddo. Dyna un o'r rhesymau pam y mae gennym Weinidog Plant a fydd yn llwyr gyfrifol am wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.