Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 14 Mehefin 2016.
Mae creu’r ddarpariaeth yr ydych chi wedi cyfeirio ati i deuluoedd sy’n gweithio yn rhywbeth i’w groesawu, ond fe fyddwch chi’n ymwybodol iawn, wrth gwrs, y byddai’n ddymunol i ehangu’r ddarpariaeth i bob teulu, oherwydd mi fyddai hynny yn creu cyfle wedyn i rieni sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd, efallai, i fynd yn ôl i’r gweithle, fel y mae nifer ohonyn nhw am ei wneud. Felly, pa ystyriaeth rydych am ei roi i estyn y ddarpariaeth honno yn y pen draw?