Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Mehefin 2016.
Fe ofynnon ni i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru edrych ar hwn i weld beth fyddai’r ffordd orau o wneud hyn: ei wneud yn eang, neu ei dargedu at rieni sy’n gweithio. Fe ddywedon nhw, yn ôl eu tystiolaeth nhw, mai’r ffordd fwyaf effeithiol fyddai targedau’r rheini sy’n gweithio, o achos y ffaith bod gan y rhai sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd rwydweithiau anffurfiol sy’n eu helpu gyda phlant. Y peth rydym am ei sicrhau yw ein bod yn gallu hybu pobl yn ôl i mewn i’r gwaith, felly, wrth gwrs, maen nhw’n cael gofal plant am ddim. Dyna beth yw’r egwyddor y tu ôl i’r cynllun fel y mae e.