Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch am sylwadau llefarydd iechyd UKIP a chroeso i chithau i’ch rôl. Rwyf yn falch o glywed eich cefnogaeth glir iawn i’r ddeddfwriaeth a'r canlyniadau yr ydym am eu cyflawni. Rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud heddiw, ac y byddwn yn ei wneud drwy gydol gweddill y flwyddyn hon a gweddill yr amser y bydd gennym ymgyrch gyfathrebu, yw annog pobl i wneud dewisiadau—boed y dewis hwnnw i optio allan neu i optio i mewn neu gytuno i wneud dim byd ac o bosibl i ganiatáu i’w cydsyniad gael ei dybio. Rwyf wedi ymdrin ag amryw o'r pwyntiau yr ydych wedi’u codi ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud i geisio annog ystod wahanol o bobl i gael sgwrs â’u hanwyliaid i wneud yn siŵr bod y bobl y maent yn eu gadael ar eu holau yn gwybod beth yw eu dewisiadau’n benodol. Ac mewn ymateb i Angela Burns a Rhun ap Iorwerth, rwyf wedi crybwyll nifer o bethau yr ydym eisoes am eu gwneud.
O ran y ddau bwynt penodol y credaf y dylwn ymateb iddynt, mae un ynghylch manylion cysylltu mewn argyfwng â theulu neu rywun annwyl. Oherwydd yr amgylchiadau penodol lle mae pobl yn gallu bod yn rhoddwyr organau, mae'n debygol y bydd aelod o'r teulu neu rywun annwyl yno gyda hwy. Lle nad yw hynny'n digwydd, mae’n dal angen iddynt wirio bod rhoi organau yn bosibl, oherwydd mae angen ichi wybod digon am eu hanes meddygol i ddeall a ellid cynnig eu horganau i'w rhoi. Felly, mae pwyntiau ymarferol ynghylch hynny.
Ynghylch eich pwynt am gymunedau ffydd yn benodol, a chrybwyllais hynny’n gynharach, gallaf gadarnhau inni gyflogi cwmni ymgynghori arbenigol o'r enw Cognition, sydd â phrofiad o ymdrin ag ystod o wahanol gymunedau, ac maent wedi dod â phobl o wahanol gefndiroedd ffydd ynghyd er mwyn deall y pryderon a oedd ganddynt a sut y maent wedi llwyddo i’w goresgyn. Felly, credaf fod pobl yn fwy gwybodus erbyn hyn, ac mae hynny wedi bod yn rhan o lwyddiant y ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Roeddwn yn bresennol mewn gweithdy gydag amryw o wahanol bobl—nid oherwydd fy rôl benodol yn y Llywodraeth, ond hefyd yn arwyddocaol oherwydd fy etholaeth a’r amrywiaeth sydd yno—gyda gwahanol grwpiau ffydd i ddeall beth oedd eu pryderon, lle roeddent wedi dod i ddeall y system sydd ar gael a'r dewisiadau y gallant eu gwneud. Oherwydd, a dweud y gwir, mae gan ystod o bobl sy'n arweinwyr mewn cymunedau ffydd allu i ddylanwadu ar bobl, i edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud ac i wneud eu dewis—p'un ai i optio i mewn, optio allan neu wneud dim.
Felly, rwyf yn falch o ble yr ydym yn awr, chwe mis ers i’r ddeddfwriaeth ddod yn weithredol, ac edrychaf ymlaen at roi diweddariadau pellach i’r Aelodau ynghylch ble yr ydym wedi cyrraedd a ble yr ydym yn dal yn awyddus i’w gyrraedd yn y blynyddoedd a'r misoedd i ddod.