Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 14 Mehefin 2016.
Rwy’n cymryd y cam anarferol i mi o siarad Cymraeg yma yn y Siambr heddiw, nid oherwydd fy mod yn siarad Cymraeg yn rhugl ond oherwydd nad wyf yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac rwy’n ceisio cyrraedd y nod. Felly, os yw Aelodau yn fodlon bod yn amyneddgar, byddaf yn gwneud fy ngorau glas i gymryd fy nghamau cyntaf tuag at siarad Cymraeg yn rhugl ar lwyfan cyhoeddus iawn. Sôn am gymryd risg. [Chwerthin.]
Yn ardal Pen-y-bont ac Ogwr, fel llawer o ardaloedd eraill, mae yna gymaint o bobl mewn nifer fawr o sefydliadau sy’n cyfrannu o’u hamser a’u hegni i sicrhau bod pethau ychydig yn well ac ychydig yn rhwyddach mewn cymaint o ffyrdd. O’r Wombles ym Mhontycymer ac Ogmore Valley Pride ym Mro Ogwr, sy’n tacluso eu hamgylchedd lleol, i’r Caerau Community Growers yn cynnig bwyd ffres a sgiliau garddwriaeth i’w cymunedau, o Samariaid Pen-y-bont, sy’n gwrando ar bobl pan fo pethau’n mynd yn ormod, i’r llu o wirfoddolwyr mewn banciau bwyd ym mhob tref a phentref bron: adlewyrchiad trist o’r adeg hon o ‘austerity’, ond adlewyrchiad hefyd o garedigrwydd ein cymunedau.
Felly, a fyddai’r Gweinidog yn cymeradwyo gwaith yr holl sefydliadau a’r gwirfoddolwyr hyn, y cwmnïau a chyflogwyr sy’n aml yn rhyddhau eu staff i wirfoddoli, a’r sefydliadau fel BAVO ym Mhen-y-bont sy’n cydlynu’r gwaith hwn?
A fyddai’r Gweinidog yn cytuno â mi nad y gwerth caled o ran punnoedd a cheiniogau sy’n bwysig yma, ond y gwerth dynol o roi a bod ar gael pan fo’ch angen gan eraill? Mae hynny’n digwydd bob awr o bob dydd ledled Cymru, ac mae’n bwysig ein bod ni’n dathlu hynny yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr.