Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 14 Mehefin 2016.
A gaf i’ch llongyfarch chi, Mark Drakeford, ar eich penodiad diweddar ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio efo chi? Rwyf i a Phlaid Cymru’n croesawu’r adroddiad yma heddiw. Mae yna argymhellion clir a chadarn yma, ac rydym yn llongyfarch gwaith gwych Rhodri Glyn Thomas, sy’n gyn-Aelod y lle yma, wrth gwrs, a’i gyd aelodau ar y gwaith.
Rydych chi’n cytuno, rwy’n siŵr, y gall gwasanaeth cyhoeddus dwyieithog cyhyrog gyfrannu’n enfawr tuag at adferiad y Gymraeg. Rwy’n meddwl bod yna dri phwynt pwysig i feddwl amdanyn nhw yn y maes yma. Mae cryfhau hawliau defnyddwyr gwasanaeth yn y sector cyhoeddus yn codi hyder y bobl sydd yn siarad Cymraeg, yn ogystal â chryfhau’u hawliau nhw. Mae caniatáu a chryfhau gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan o waith pob dydd pobl sy’n siarad Cymraeg yn codi hyder hefyd.
Mae hefyd yn bwysig nodi, rwy’n meddwl, fod gwneud y Gymraeg yn sgìl hanfodol yn creu pwrpas hollol ymarferol ynglŷn â siarad Cymraeg, ynglŷn ag addysg Gymraeg ac yn rhoi pwrpas i ddysgu Cymraeg. Ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi fod creu marchnad lafur Gymraeg yn bwysig iawn yn y broses o adfer yr iaith Gymraeg.
Rwyf i, tan yn ddiweddar iawn, wedi bod yn gynghorydd efo Cyngor Gwynedd, ac mae llawer ohonom ni’n gwybod am bolisïau goleuedig y cyngor hwnnw, ac nid yw’n ddamwain bod rhai cymunedau o gwmpas pencadlys y cyngor sir hwnnw wedi gweld cynnydd, yn groes i beth sydd wedi digwydd ar draws Cymru. Mae yna rai cymunedau wedi gweld cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg ers y cyfrifiad. Er enghraifft, ym mhentref Waunfawr, bu cynnydd o 73 y cant i 75 y cant o siaradwyr Cymraeg. A ydych chi’n cytuno efo fi, felly, fod yna awdurdodau lleol eraill rŵan yng nghadarnleoedd y Gymraeg eisiau symud ymlaen i ddatblygu ymhellach ar eu polisïau nhw a bod angen i’r arweiniad ar gyfer gwneud hynny ddod o Lywodraeth Cymru, fel y mae’r gweithgor yn nodi?
Rwyf yn croesawu’r argymhellion ynglŷn â chynllunio gweithlu, yn sicr, ond mae yna ddau beth yn peri pryder. Sut mae modd i chi weithredu’r argymhellion os na fydd y cyfrifoldeb am y Gymraeg yn y gweithlu gyda chorff y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn y dyfodol? Y tebygrwydd ydy y bydd dysgu Cymraeg yn y gweithle yn mynd i gorff arall. Mae yna lawer o ansicrwydd ynghylch hynny. Rwy’n meddwl y bydd hi’n anodd gweithredu rhai o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad. Y broblem arall, wrth gwrs, ydy’r adnoddau ariannol. Rydym wedi gweld yr adnoddau adrannol ar gyfer y Gymraeg yn cael eu torri. A ydych chi, felly, yn rhannu fy mhryder am weithredu rhai o argymhellion yr adroddiad yma, cadarn fel ag y maen nhw? Rydym yn eu croesawu nhw’n fawr iawn, ond eu gweithredu rŵan sydd angen ei wneud. A ydych yn rhannu fy mhryder i efallai nad ydy hi’n mynd i fod yn bosib i’w gweithredu nhw o dan yr amgylchiadau presennol?