Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 14 Mehefin 2016.
Rwy’n croesawu’n fawr iawn y ffocws clir yn yr adroddiad yma ar y cyswllt hanfodol rhwng iaith a datblygu economaidd. I rai ohonom sydd wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau dros ddyfodol hyfyw i’r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol yn y bröydd traddodiadol Cymraeg yn y gorllewin, mae’n hollol allweddol, wrth gwrs, i sylweddoli, oni bai ein bod ni’n ateb y cwestiwn yna, nid oes yna ddyfodol i’r iaith Gymraeg i’r un graddau fel iaith gymunedol. Er gwaetha’r cynnydd yr ydym yn ei weld yn rhannau eraill o Gymru, wrth gwrs, rŷm ni’n colli adnodd allweddol i’r adfywiad yna ar lefel genedlaethol os collwn ni hyfywedd ieithyddol diwylliannol traddodiadol y gorllewin. Rwy’n cofio, 20 mlynedd yn ôl, yn Eisteddfod Casnewydd bryd hynny, meddiannu byngalo gydag Alun Davies tu fas i Garmel, rwy’n credu—roedd e’n ‘executive bungalow’, ond oedd e; roedd tapiau aur yn perthyn iddo. Ond beth oedd y slogan? Hynny yw, ‘tai a gwaith i achub iaith’. Mae’r slogan wedi bod yno yn ddigon hir. Mae’n amser i gael gweithredu nawr, ond yw hi? Rwy’n gweld bod argymhelliad 10 yn galw am strategaeth economaidd ieithyddol ar gyfer siroedd y gorllewin i gyd, a’r ffocws yma, wrth gwrs, ar hybiau, ar drefi twf, sy’n allweddol bwysig os ŷm ni’n meddwl am y brif her, wrth gwrs, sef cadw ein pobl ifanc â ni, a chreu sylfaen economaidd iddyn nhw.
Fy nghwestiwn i i’r Gweinidog ydy hyn: mae’r strategaeth yn un peth, ond oni bai bod yna strwythur, wrth gwrs, nid ydych chi’n mynd i fedru ei chyflawni hi. Yng nghyd-destun llywodraeth leol, wrth gwrs, mae gyda ni’r dinas-ranbarthau yn y de—rwy’n eu croesawu nhw’n fawr iawn—ond ble mae ein rhanbarth ni yn y gorllewin? Beth sy’n cyfateb o ran rhoi inni'r màs critigol a’r cyfrwng er mwyn gwireddu’r strategaeth ieithyddol economaidd mae’r adroddiad yma yn galw amdano?