Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 14 Mehefin 2016.
Hoffwn ddiolch i Mike am y cwestiynau yna? Mae'n tynnu sylw at un o ryfeddodau gwych ein hoes—twf addysg cyfrwng Cymraeg. Yma yn ninas Caerdydd, pan ddechreuais i gadeirio gweithgor cyfrwng Cymraeg De Morgannwg yn y 1980au, roedd nifer y bobl ifanc a oedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn llythrennol yn fymryn bach o'i gymharu â'r nifer sydd yno heddiw. Mae cael pobl ifanc yn yr oedran cynharaf un i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg, pan mai dyna'r hyn y bydden nhw a'u rhieni yn ei ddymuno ar eu cyfer, rwyf yn deall, yn hynod o bwysig ac yn arbennig o bwysig i'r bobl ifanc hynny sy'n manteisio ar y rhaglen Dechrau'n Deg. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod y pwyntiau y mae ef wedi eu gwneud am hynny ac am dwf yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru—rwy'n siwr y bydd yr Ysgrifennydd dros Addysg yn awyddus i glywed yr hyn a ddywedodd am hynny.
O ran ateb gohebiaeth a dderbyniwyd trwy gyfrwng y Gymraeg mor gyflym â'r hyn a dderbynnir yn Saesneg, rwyf yn dychmygu mai'r ateb yw nad yw'n digwydd yn yr union ffordd honno ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, a fydd yn dibynnu ar i lythyr gael ei gyfieithu i'r Saesneg, llunio ateb yn Saesneg a'i ailgyfieithu i'r Gymraeg. Ond rwyf yn meddwl y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn effro i'r angen i wneud mwy yn y maes hwn. Bydd newidiadau mewn technoleg ar gyfer cyfieithu o gymorth iddyn nhw yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, a bydd adroddiad hwn, y byddant yn ei astudio dros yr haf, yn eu helpu yn y maes hwnnw, hefyd.