<p>Prosiectau Seilwaith Ynni Mawr</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 1:30, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn groesawu Ysgol Uwchradd Casnewydd yn fy etholaeth i’r Siambr heddiw, i gadw llygad arnom. Mae morlynnoedd llanw yn creu ynni tragwyddol, glân a gwyrdd, mor gyson â’r llanw y mae’n dibynnu arno. Fel prosiectau seilwaith ynni ar raddfa fawr, gyda chynlluniau i adeiladu morlynnoedd llanw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, byddant hefyd yn creu cannoedd o swyddi. A fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y prosiectau hyn yn digwydd, ac yn trafod ffyrdd o ddefnyddio’r gweithlu lleol er mwyn i’r manteision gael eu teimlo yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd?