Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Mehefin 2016.
Yn sicr, a diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i diddordeb brwd yn y pwnc hwn. Gallai’r math o ddatblygiad rydym yn sôn amdano gynnig gyrfaoedd gydol oes i’r bobl ifanc sy’n ymuno â ni yn yr oriel heddiw, o etholaeth yr Aelod. Rydym yn cydnabod y cyfle y mae cynhyrchu ynni’r llanw yn ei roi i economi Cymru, ac rwy’n gobeithio cael cyfarfod cynnar gyda morlyn llanw bae Abertawe i drafod agweddau economaidd y prosiect. Nawr, gydag adolygiad annibynnol Llywodraeth y DU o'r morlyn llanw ar y gweill, mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd â Tidal Lagoon Power a Llywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau Cymru, a’r economi leol, yn benodol, yn cael y budd mwyaf o’r prosiect.