Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 15 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth o bob ochr i’r Cynulliad yn yr ymdrechion hyn? Oherwydd yr hyn y mae ynni’r llanw yn ei gynnig i ni yw cyfle i fod yn flaengar, arwain y byd yn y pen draw ar harneisio’r ffynhonnell bwerus hon o ynni, a’r beirianneg a’r sgiliau sydd eu hangen i’w ddatblygu. Ac yn arbennig, os na fwrir ymlaen â’r morlyn yn Abertawe, os nad yw’r prosiect hwn yn llwyddiannus, dylem adnewyddu ein hymdrechion i weld a datblygu lle y bydd y dechnoleg hon yn effeithiol o amgylch arfordir Cymru.