<p>Prosiectau Seilwaith Ynni Mawr</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 1:33, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r sylwadau a wnaed eisoes ar Tidal Lagoon a’r potensial i Gymru, yn economaidd ac fel arweinydd byd-eang yn y ffynhonnell hon o greu ynni. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod seilwaith ynni mawr yn aml yn cael ei ddiffinio yn nhermau cynhyrchu ynni, ond hoffwn ofyn i’r Gweinidog pa ystyriaeth hirdymor a roddir i arbed ynni fel seilwaith ynni mawr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru i’w chanmol am ei chefnogaeth gadarn i fentrau arbed ynni sy’n targedu cwsmeriaid domestig a busnesau, a sefydliadau yn y sector cyhoeddus; y buddsoddiad cynyddol ym menter Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd; y wybodaeth, y cyngor a’r cymorth drwy Cymru Effeithlon; cymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru yn gwybod yn fwy na’r mwyafrif—mewn gwirionedd, maent yn cyfeirio ato yn eu strategaeth ddiweddar—fod y bwlch sydd i’w gau rhwng ein huchelgais a’r realiti mewn perthynas ag arbed ynni yn fawr. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld unrhyw rôl i ddiffinio arbed ynni fel seilwaith mawr fel un ffordd o gau’r bwlch hwnnw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, helpu i ddatgarboneiddio drwy leihau’r angen i adeiladu mwy o orsafoedd pŵer, a chynhyrchu capasiti?