Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 15 Mehefin 2016.
Yn sicr, a diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac am nodi’n gywir fod gennym hanes balch o gefnogi cynlluniau arbed ynni domestig a busnesau yng Nghymru? Efallai fod gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod bod gennym brosiectau arbed ynni ar raddfa fawr sy’n cydymffurfio â chymorth gwladwriaethol yn cael eu cynllunio a’u cymeradwyo gan Ewrop yn awr ac maent yn cynnig atebion arloesol a allai fod yn bwysig iawn i ddiwydiannau ynni-ddwys, fel dur. Ac wrth i mi ystyried fy ateb i David Melding, byddwn yn dweud hefyd, o ran arbed ynni domestig, byddai hynny hefyd yn ffurfio un o agweddau craidd y strategaeth economaidd newydd a diogelu ffynonellau ynni yn benodol.