Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 15 Mehefin 2016.
A gaf fi eich llongyfarch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae behemoth o wefan Llywodraeth Cymru yn gwahodd busnesau yn yr ardal fenter i wneud cais am gymorth ariannol tuag at gost ardrethi busnes, neu i wrthbwyso yn erbyn ardrethi busnes, ar gyfer 2016-17. Mae’r cynllun hwnnw wedi bod ar agor ers 4 Ebrill, sydd ychydig yn gynt na rhai o’r lleill a grybwyllwyd heddiw. Clywais eich ateb i David Rees, ond faint o fusnesau sydd wedi gwneud cais yn benodol am ryddhad ardrethi busnes, os caf ei alw’n hynny? O’r tua 200 o fusnesau rydych wedi cysylltu â hwy, mae’n ymddangos bod camau dilynol wedi’u rhoi ar y gweill gyda 44 ohonynt. Pa gamau dilynol a roesoch ar y gweill gyda’r rhai nad ydynt wedi ymateb i lythyru uniongyrchol, ac a fyddwch yn cynllunio i wneud hynny yn y dyfodol agos os nad ydych wedi’i wneud eto?