<p>Ardal Fenter Port Talbot</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:07, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddilyn y cwestiwn gyda dadansoddiad o’r hyn y mae’r 44 o fusnesau sydd wedi derbyn ein cynnig o gymorth yn dymuno cael cymorth gydag ef mewn gwirionedd; mae’n ddigon posibl mai ardrethi busnes yw hynny neu gallai fod yn fath arall o gymorth y gallwn ei gynnig. Byddaf yn rhoi cymaint o wybodaeth i’r Aelod ag y gallaf yn rhesymol ei wneud, fel ein bod i gyd yn fwy gwybodus ynglŷn â’r hyn y mae busnesau yn yr ardal ei angen.

O ran yr 11 o fusnesau sy’n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi Tata nad ydynt wedi gofyn am gymorth ychwanegol, mae yna nifer o resymau dros hynny, ond unwaith eto, byddaf yn gwneud fy ngorau i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â pham y maent wedi dewis peidio â manteisio ar ein cynnig o gymorth ychwanegol.