<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:26, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer yr achosion o ganser yn cynyddu, gyda disgwyl y bydd un o bob dau unigolyn a anwyd ar ôl 1960 yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes. Felly, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod sgrinio cynnar yn hanfodol. Diau y byddwch yn ymwybodol ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol yr wythnos hon. Canser ceg y groth yw’r canser mwyaf cyffredin mewn menywod o dan 35 oed, ond y newyddion da yw bod y gyfradd farwolaethau ar gyfer y math hwn o ganser yn gostwng ac yn is nag oedd rai blynyddoedd yn ôl. Dyna pam rwy’n rhannu pryder elusennau canser, gan fod cyfraddau sgrinio ledled Cymru ar gyfer menywod o bob oed o ran canser ceg y groth yn disgyn. Weinidog, a allwch ddweud wrthyf beth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i annog menywod yng Nghymru i gael eu sgrinio am arwyddion posibl o’r clefyd hwn?