Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch am y cwestiwn. Tybed a oeddech yn meddwl eich bod yn gofyn cwestiwn am y system yn Lloegr, oherwydd yng Nghymru mae cyllid iechyd meddwl wedi’i glustnodi, ac fel y dywedais yn gynharach, hwnnw yw’r maes gwariant unigol mwyaf yn y GIG yng Nghymru. Rwyf wedi gweld ymgyrchoedd ar sail Cymru a Lloegr, ac mewn gwirionedd, maent yn siarad am y system yn Lloegr. Rwy’n cofio ymateb i lythyrau fel Dirprwy Weinidog ac ysgrifennu’n ôl at Aelodau Seneddol yn dweud, ‘Rydych yn ysgrifennu ataf am Loegr ac rydym yn gwneud pethau’n wahanol yma.’ Yr her i Loegr yw cau’r bwlch rhyngddi a Chymru yn y maes hwn, felly rwy’n credu’n wirioneddol fod gennym stori dda i’w hadrodd, ac nid o safbwynt y Llywodraeth yn unig, ond mae cymaint o hyn yn llifo o waith a wnaed yn y trydydd Cynulliad pan basiwyd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Ein safbwynt ar y pryd oedd bod angen rhoi mwy o flaenoriaeth i’r maes penodol hwn o’r gwasanaeth a’r effaith y mae’n ei chael, ac rwy’n falch iawn ein bod yn cyflawni ar hynny. Nid yw’n berffaith, ond rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol, a’r her yw sut yr awn ati i sicrhau gwelliant pellach i’r hyn rydym eisoes yn ei wneud.