<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:35, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae toriadau i wariant awdurdodau lleol yn bygwth gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gymell cynghorau yng Nghymru i ddiogelu’r gwasanaethau iechyd meddwl a ddarparant, ac i wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector?