Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd. Ddwy flynedd yn ôl, mi wnaeth Plaid Cymru dynnu sylw at amseroedd aros brawychus ar gyfer sganiau MRI yng Nghymru o’u cymharu efo Lloegr a’r Alban. Roedd dros 40 y cant o gleifion bryd hynny yn aros dros chwech wythnos yma, o’u cymharu efo 1 y cant yn Lloegr a 2 y cant yn yr Alban. Rŵan, yn dilyn hynny a chryn sylw yn y wasg ar y pryd, mi wnaethoch chi ymdrech i daclo’r mater ac mae’r amseroedd aros rŵan wedi gostwng— rhyw 17.6 y cant o gleifion sy’n aros dros chwech wythnos am sgan bellach. A ydy’r ffigur yna yn dderbyniol, a pha sicrwydd a allwch chi ei roi y bydd y patrwm o fyrhau amseroedd am sgan MRI yn parhau?