Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at faes lle rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf. Oherwydd ar y pwynt uchaf a gyrhaeddwyd gennym yn ystod yr haf y llynedd, roeddem yn wynebu her wirioneddol o ran deall yr hyn a allai ac a ddylai ddigwydd i leihau’r amseroedd aros diagnostig. Rydym yn awr mewn lle llawer gwell ac mae MRI yn enghraifft dda: mae ar sero i bob pwrpas mewn sawl bwrdd iechyd—o leiaf ddau—felly nid oes yna bobl sy’n aros yn hwy na’r amser targed, ond mae gennym her go iawn yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru, lle mae llawer gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir. Felly, rwy’n llawn ddisgwyl ei bod yn neges y mae’r gwasanaeth yn ei deall yn iawn. Bydd y cynnydd rydym wedi’i wneud, yn enwedig dros chwe mis olaf y llynedd, yn parhau eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ffigurau’r chwarter cyntaf, ac yn enwedig ail chwarter y flwyddyn hon, er mwyn deall a yw’r uchelgais o fewn y gwasanaeth yn cael ei wireddu, oherwydd rwy’n sicr yn disgwyl gweld hynny.