<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:39, 15 Mehefin 2016

Beth mae’r gwelliant, wrth gwrs, yn ei ddangos yw bod ymdrechu yn talu, ac na ddylen ni fyth dderbyn rywsut fod cyfyngiadau cyllidol, neu gynnydd mewn galw, yn arwain yn anochel at amseroedd aros hirach. Fel y dywedais i, fe gafodd sganiau MRI dipyn o sylw yn y wasg gwpwl o flynyddoedd yn ôl. Mae profion diagnostig eraill sydd ddim mor ddeniadol mewn penawdau, efallai, lle mae problemau mawr yn parhau, er enghraifft, colonosgopi neu ‘cystoscopy’. Mae perfformiad yn y rheini cynddrwg rŵan ag yr oedd ddwy flynedd yn ôl, efo tua hanner y cleifion yn aros dros chwech wythnos, o’i gymharu â 6 y cant yn Lloegr a 12 y cant yn yr Alban. Mae’r offer yn rhatach ar gyfer gwneud y profion, mae yna lai o alw am y profion ac mi all rhai syrjeris GP wneud y profion eu hunain. Rŵan, ar wahân i aros am benawdau papur newydd, beth wnaiff i chi roi yr un sylw i brofion colonosgopi a ‘cystoscopy’ ag a wnaethoch chi i brofion MRI?