<p>Cronfa Cyffuriau Canser</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:52, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Ni fyddwn yn sefydlu cronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Bydd y gronfa cyffuriau canser yn Lloegr yn cael ei diddymu ddiwedd y mis hwn. Rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o sefydlu cronfa triniaethau newydd fel un o’n hymrwymiadau allweddol yn y 100 diwrnod cyntaf. Rwy’n disgwyl gallu dweud rhagor wrth yr Aelodau amdani. Bydd y gronfa’n cefnogi’r broses o fynd ati’n gyflym i gyflwyno triniaethau arloesol ac effeithiol sy’n costio llawer ar gyfer clefydau sy’n bygwth bywyd.