Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 15 Mehefin 2016.
Weinidog, byddai ein hargymhellion ein hunain ar gyfer cronfa triniaethau canser Cymru nid yn unig wedi gwella mynediad at feddyginiaethau newydd, modern, ond byddai hefyd wedi gwneud triniaethau canser yn fwy hygyrch i gleifion drwy sefydlu uned trin canser symudol. Mewn rhannau gwledig o Gymru, megis fy etholaeth fy hun yn Sir Drefaldwyn, byddai’n wasanaeth amhrisiadwy wrth gwrs. Fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i sefydlu gwasanaeth trin canser symudol?