<p>Cyfraddau Canfod Canser</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:41, 21 Mehefin 2016

Nid yw’n anarferol i feddyg teulu fethu â sylwi ar symptomau o ganser ar yr ymweliad cyntaf. Ond, os yw diagnosis yn dod yn y pen draw yn dilyn ail neu drydydd ymweliad, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylai’r cloc ddechrau tician, o ran pa bryd y dylai’r driniaeth ddigwydd, o bryd yr oedd yr ymweliad cyntaf, achos triniaeth gyflym i’r claf sydd bwysicaf, nid taro targedau’r Llywodraeth?